Estyn pleidlais dros y môr! Annog Prydeinwyr sy'n byw dramor i gofrestru i bleidleisio
Mae dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor yn gymwys i bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf, ond rhaid iddynt fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau am hanner nos, nos Fawrth 18 Mehefin. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn galw ar bleidleiswyr i gofrestru nawr ac i wneud cais am bleidlais absennol os na fyddant yn y DU ar y diwrnod pleidleisio.
Am y tro cyntaf, mae dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor yn gymwys i bleidleisio, ni wnaeth am ba mor hir y maent wedi byw y tu allan i'r DU. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Ers 16 Ionawr 2024, pan gafodd y rheol 15 mlynedd ei diddymu, bu dros 100,000 o geisiadau i gofrestru i bleidleisio gan ddinasyddion y DU sy’n byw dramor.
Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu manylion eu cyfeiriad diwethaf yn y DU a'r amser roeddent wedi'u cofrestru neu'n breswylydd yn y DU diwethaf. Rhaid i awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am y gofrestr etholiadol yn eu hardal, allu dilysu pwy yw ymgeisydd a'i gysylltiadau blaenorol â'r ardal.
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu:
“Os ydych chi'n byw dramor ac am ddweud eich dweud yn etholiad cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf, dylech gofrestru i bleidleisio nawr. Does dim ots am ba mor hir rydych chi wedi bod yn byw y tu allan i'r DU mwyach, os ydych chi'n gymwys, gallwch gofrestru a dweud eich dweud yn y blwch pleidleisio.
“Fel pleidleisiwr tramor, bydd yn rhaid i chi brofi eich cysylltiad â'r etholaeth ddiwethaf lle roeddech wedi cofrestru i bleidleisio, neu â'r man lle roeddech yn byw os nad ydych chi erioed wedi cofrestru i bleidleisio o'r blaen.
“Gwyddom fod pleidleiswyr cymwys ym mhob rhan o'r byd, felly rydym yn galw ar unrhyw un sydd â ffrindiau a theulu dramor i helpu i ledaenu'r neges, a rhoi gwybod iddynt bod angen iddynt gofrestru cyn y dyddiad cau.”
Mae'n bosibl y bydd nifer o bleidleiswyr tramor yn dymuno gwneud cais am bleidlais absennol hefyd os na fyddant yn y wlad ar 4 Gorffennaf. Mae bellach yn bosibl gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ym Mhrydain Fawr ar-lein.Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Mehefin, a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Mehefin. Gall pleidleisio drwy ddirprwy – pan fydd rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn pleidleisio ar eich rhan – fod yn opsiwn a ffefrir i unrhyw un sy’n byw ymhellach i ffwrdd ac sy’n pryderu am faint o amser y gallai gymryd i dderbyn a dychwelyd pleidlais bost.
Gall dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor ffonio'r awdurdod lleol lle roeddent wedi'u cofrestru i bleidleisio ddiwethaf, neu lle roeddent yn byw yn y DU diwethaf, i ganfod a ydynt yn gymwys i bleidleisio. Gellir dod o hyd i fanylion awdurdodau lleol ar wefan y Comisiwn Etholiadol drwy nodi cod post y lleoliad diwethaf iddynt fyw ynddo yn y DU.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Yn flaenorol, dim ond os oedd dinasyddion Prydeinig wedi byw dramor am lai na 15 mlynedd yr oeddent yn gymwys i bleidleisio. Diddymwyd y cyfyngiad hwnnw fel rhan o Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022, a ddaeth i rym ym mis Ionawr.
- Mae angen i'r rhai sy'n dymuno pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon lenwi ffurflen bapur er mwyn cofrestru a'i hanfon at Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon. Gall dinasyddion Prydeinig a dinasyddion Gwyddelig cymwys gofrestru i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.