Mae angen mwy o gefnogaeth ar bleidleiswyr ifanc yng Nghymru i gymryd rhan mewn etholiadau

Mae angen mwy o gefnogaeth ar bleidleiswyr ifanc yng Nghymru i gymryd rhan mewn etholiadau

Yn ôl ymchwil a dadansoddiad diweddar gan y Comisiwn Etholiadol, mae angen mwy o addysg ac ymgysylltu i gefnogi pleidleiswyr ifanc i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru. Gwnaeth tua un ym mhob pump o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yng Nghymru sydd newydd eu rhyddfreinio gofrestru i bleidleisio cyn yr etholiad llywodraeth leol ar 5 Mai. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn is ymhlith y grwpiau oedran ieuengaf. 

Mae adborth a gasglwyd ar gyfer adroddiad ar ôl y bleidlais y Comisiwn ar yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn 2022 wedi canfod diffyg awydd i gymryd rhan mewn etholiadau ymhlith pobl ifanc. Roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys dim yn gwybod digon am ymgeiswyr, pleidiau a’r broses ddemocrataidd yn gyffredinol. Mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru yn dal i fod yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus ac yn fodlon gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys adborth gan rieni yng Nghymru. Er bod 77% o rieni yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod plant yn dysgu’r hanfodion am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol, dim ond 22% sy’n meddwl bod yr wybodaeth bresennol y mae eu plant yn ei chael ar y testunau hyn yn ddigonol. Mae rhieni mewn aelwydydd economaidd-gymdeithasol is hefyd yn llai tebygol o drafod gwleidyddiaeth yn y cartref, ac mae hyn yn cynyddu’r angen am ddysgu yn yr ysgol.

Cafodd adnoddau addysg ddemocrataidd y Comisiwn eu diweddaru cyn yr etholiad, ac maent wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i ddeall sut y gallant gymryd rhan mewn democratiaeth a chefnogi addysgwyr wrth iddynt ddysgu llythrennedd gwleidyddol. Mae gwaith ar y gweill nawr i ddatblygu’r adnoddau ymhellach, yn enwedig gan ystyried y newidiadau sydd i ddod i’r cwricwlwm yng Nghymru.  

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

“Er bod y mwyafrif o bobl yn fodlon gydag etholiadau eleni, rydym yn gwybod bod yna ddiffyg dealltwriaeth ac awydd ymhlith pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau o hyd. 

“Dyw llawer o bobl ifanc ddim yn deall pam nad ydynt wedi dysgu am bleidleisio a democratiaeth mewn mwy o fanylder yn yr ysgol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein hadnoddau addysg er mwyn sicrhau y gallant gefnogi’n effeithiol darpariaeth addysg ddemocrataidd mewn ysgolion drwy’r cwricwlwm newydd.”

Er bod hyder y cyhoedd mewn etholiadau’n parhau i fod yn uchel, a bod ymgyrchwyr wedi adrodd eu bod wedi teimlo y gallent gyfathrebu’n effeithiol gyda phleidleiswyr, mae’r adroddiad hefyd yn adlewyrchu’r heriau sy’n cael eu hwynebu gan ymgyrchwyr yn ogystal â’r rheiny sy’n cynnal etholiadau. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cyflwyniad hwyr deddfau newydd, sy’n gosod rheolau gwahanol ar gyfer yr etholiad, wedi achosi dryswch ymhlith ymgeiswyr ac wedi rhoi pwysau ychwanegol ar weinyddwyr. Nododd yr adroddiad hefyd bod rhai ymgeiswyr wedi adrodd eu bod wedi profi camdriniaeth a bygythiadau yn yr etholiad.

Ychwanegodd Rhydian Thomas:

“Mae angen cymryd camau brys i atal ymgeiswyr ac ymgyrchwyr rhag cael eu cam-drin a’u bygwth mewn etholiadau. Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau heb ofn. Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r gymuned etholiadol ehangach i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth sy’n achosi’r broblem hon, ac yn mynd i’r afael â hi fel mater brys.”

Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Uwch Ymgynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, anfonwch e-bost i [email protected].

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.

2. Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i adrodd ar weinyddiaeth yr etholiadau canlynol a gynhaliwyd ym mis Mai 2022: etholiadau lleol yn Lloegr, yr Alban a Chymru ac etholiadau ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r canlynol: 

3. Casglodd y Comisiwn Etholiadol data mewn sawl ffordd wrth adrodd:

  • Yn yr ymchwil barn gyhoeddus ar ôl y bleidlais, a gynhaliwyd ar-lein rhwng 6 a 22 Mai 2022 gan YouGov ar ran y Comisiwn Etholiadol, arolygwyd 2,801 o bleidleiswyr cymwys yng Nghymru. Roedd 81% yn fodlon gyda’r system o gofrestru i bleidleisio, dywedodd 71% eu bod yn hyderus bod yr etholiadau’n cael eu rhedeg yn dda ac roedd 95% o’r rhai a bleidleisiodd yn fodlon gyda’r broses o bleidleisio.
  • Yn ôl data a ddarparwyd gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU, gwnaeth 12,338 o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yng Nghymru sydd newydd eu rhyddfreinio gofrestru i bleidleisio rhwng 1 Mai 2021 ac 14 Ebrill 2022.
  • Gwnaeth ein hymchwil Traciwr Barn y Cyhoedd 2022 arolygu 301 o rieni yng Nghymru sydd â phlentyn 11-18 mlwydd oed. O’r rheiny a gafodd eu harolygu, mae 77% yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod plant yn dysgu’r hanfodion am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol, ac mae mwy yn meddwl bod yr wybodaeth y mae eu plant yn ei chael ynghylch gwleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol yn annigonol (31%) na’n ddigonol (22%).
  • Cynhaliwyd yr arolwg o ymgeiswyr ar ôl y bleidlais rhwng 9 Mai a 6 Mehefin a chafwyd 162 o ymatebion. Gofynnwyd i ymgeiswyr: Ar raddfa o 1-5, gydag 1 yn ddim problem o gwbl a 5 yn broblem ddifrifol, faint o broblem, os o gwbl, oedd gennych chi gyda bygythiadau, camdriniaeth neu fygythiadau yn yr etholiad hwn? Roedd ymatebwyr a raddiodd eu profiad yn 2 neu'n uwch (40%) yn cael eu cyfrif fel rhai oedd wedi profi bygythiadau, camdriniaeth neu fygythiadau.