Pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn derbyn dros £5.8 miliwn yn ystod yr ail wythnos ymgyrchu
Mae £5.8 miliwn mewn rhoddion i bleidiau gwleidyddol wedi cael ei adrodd i’r Comisiwn Etholiadol yn yr ail adroddiad wythnosol cyn y bleidlais, a gyhoeddwyd cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf.
Crynodeb rhoddion pleidiau gwleidyddol
Cyfanswm y rhoddion dros £5.8 miliwn a dderbyniwyd gan bleidiau yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 6 a 12 Mehefin 2024:
Plaid | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) | Cronfeydd cyhoeddus a gafwyd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £292,500 | £0 | £292,500 |
Y Blaid Gydweithredol | £60,000 | £0 | £60,000 |
Y Blaid Werdd | £20,000 | £0 | £20,000 |
Y Blaid Lafur | £4,383,400 | £0 | £4,383,400 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £335,000 | £0 | £335,000 |
Reform UK | £742,000 | £0 | £742,000 |
Cyfanswm | £5,832,900 | £0 | £5,832,900 |
Rhoddodd y Blaid Alba wybod am un rhodd y dylid fod wedi adrodd amdano yn wythnos un. Roedd hwn yn daliad cronfa gyhoeddus o £36,305 gan y Comisiwn Etholiadol.
Cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gyflwyno pedwar adroddiad wythnos yn nodi'r rhoddion a'r benthyciadau dros £11,180 y maent wedi'u derbyn rhwng 30 Mai a 26 Mehefin 2024. Rhaid cyflwyno dau adroddiad arall ar ôl y diwrnod pleidleisio am y cyfnod 27 Mehefin i 4 Gorffennaf 2024.
Yn yr adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais, rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd am roddion y maent wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod perthnasol. Fodd bynnag, mae ganddynt 30 diwrnod ar ôl cael rhodd i wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir a phenderfynu p'un a i dderbyn y rhodd ai peidio.
Ym mis Ionawr 2024 cynyddodd y trothwy i bleidiau gwleidyddol sy’n adrodd am roddion i’r Comisiwn. Yn dilyn newid yn y gyfraith gan Lywodraeth y DU, mae’n ofynnol i bleidiau roi gwybod am roddion dros £11,180 (£7,500 yn flaenorol).
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae manylion y cyfnodau adrodd a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau isod:
Cyfnod adrodd Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau Dyddiadau cyhoeddi 6 Mehefin - 12 Mehefin Dydd Mercher 19 Mehefin 2024 Dydd Gwener 21 Mehefin 2024 13 Mehefin - 19 Mehefin Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 Dydd Gwener 28 Mehefin 2024 20 Mehefin - 26 Mehefin Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024 27 Mehefin - 3 Gorffennaf Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024 Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024 4 Gorffennaf (llai na 7 diwrnod) Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024 Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024 - Ym mis Ionawr 2024 cynyddodd y trothwy ar gyfer adrodd am roddion i £11,180. Yn etholiad cyffredinol diwethaf Senedd y DU yn 2019, y trothwy ar gyfer adrodd am roddion oedd £7,500.
- Mae ymgyrchydd di-blaid yn grŵp sy'n ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ond nad yw'n blaid wleidyddol ac nad yw'n sefyll ymgeiswyr. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda ni os ydynt am wario mwy na £20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae rhestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
- Rhaid i bob plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiadau rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais, oni bai eu bod wedi eithrio eu hunain drwy ddatgan nad ydynt yn sefyll ymgeiswyr. Ystyrir methiant i wneud hynny yn unol â'n Polisi Gorfodi.
- Cyhoeddir rhoddion dros £11,180 a dderbynnir gan bleidiau yn ystod ail chwarter 2024 (1 Ebrill i 30 Mehefin) ym mis Medi.
- Hefyd, mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig hefyd gyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol cyn y bleidlais yn gosod pa roddion y maent wedi'u derbyn dros £7,500. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ynghyd ag adroddiadau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol. Ni adroddwyd am unrhyw roddion gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod yr wythnos hon.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban, a Senedd y DU.