Pleidiau gwleidyddol wedi cael £1.9m yn y diwrnodau ymgyrchu olaf
Pleidiau gwleidyddol wedi cael £1.9m yn y diwrnodau ymgyrchu olaf
Mae £1.9 miliwn mewn rhoddion i bleidiau gwleidyddol wedi’u hadrodd i’r Comisiwn Etholiadol yn yr adroddiadau wythnosol olaf, gan gynnwys rhoddion a gafwyd yn yr wythnos olaf o ymgyrchu a’r diwrnod pleidleisio ei hun.
Cyfanswm y rhoddion dros £1.9 filiwn a gafwyd gan bleidiau yn ystod y cyfnodau adrodd rhwng 27 Mehefin a 4 Gorffennaf 2024:
Plaid | Rhoddion a gafwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) | Cronfeydd cyhoeddus a gafwyd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £225,587 | £130,473 | £356,060 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £23,442 | £0 | £23,442 |
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £0 | £17,918 | £17,918 |
Y Blaid Lafur | £465,600 | £922,690 | £1,388,290 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £156,203 | £0 | £156,203 |
Reform UK | £45,000 | £0 | £45,000 |
Cyfanswm | £915,832 | £1,071,081 | £1,986,913 |
Cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gyflwyno pedwar adroddiad wythnosol yn nodi’r rhoddion a’r benthyciadau dros £11,180 y maent wedi’u cael rhwng 30 Mai a 26 Mehefin 2024. Rhaid cyflwyno dau adroddiad arall ar ôl y diwrnod pleidleisio ar gyfer y cyfnod rhwng 27 Mehefin a 4 Gorffennaf 2024.
Yn yr adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais, rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd am roddion y maent wedi’u cael yn ystod y cyfnod perthnasol. Fodd bynnag, mae ganddynt 30 diwrnod ar ôl cael rhodd i wirio ei fod gan roddwr a ganiateir ac i benderfynu a ddylid ei dderbyn neu beidio.
Ym mis Ionawr 2024, cynyddodd y trothwy i bleidiau gwleidyddol sy’n adrodd am roddion i’r Comisiwn. Yn dilyn newid yn y gyfraith gan Lywodraeth y DU, mae’n ofynnol i bleidiau adrodd am roddion dros £11,180 (£7,500 yn flaenorol).
Gwnaeth un ymgyrchydd nad yw’n blaid, sef Sicrhau bod Pleidleisiau o Bwys, roi gwybod hefyd ei fod wedi cael rhodd o £13,750 yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Notes to editors
Mae manylion y cyfnodau adrodd a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau isod:
Cyfnod adrodd Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau Dyddiadau cyhoeddi 27 Mehefin - 3 Gorffennaf Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024 Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024 4 Gorffennaf (llai na 7 diwrnod) Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024 Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024 - Ym mis Ionawr 2024 cynyddodd y trothwy ar gyfer adrodd am roddion i £11,180. Yn etholiad cyffredinol diwethaf Senedd y DU yn 2019, y trothwy ar gyfer adrodd am roddion oedd £7,500.
- Mae ymgyrchydd di-blaid yn grŵp sy'n ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ond nad yw'n blaid wleidyddol ac nad yw'n sefyll ymgeiswyr. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda ni os ydynt am wario mwy na £20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae rhestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
- Rhaid i bob plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiadau rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais, oni bai eu bod wedi eithrio eu hunain drwy ddatgan nad ydynt yn sefyll ymgeiswyr. Ystyrir methiant i wneud hynny yn unol â'n Polisi Gorfodi.
- Cyhoeddir rhoddion dros £11,180 a dderbynnir gan bleidiau yn ystod ail chwarter 2024 (1 Ebrill i 30 Mehefin) ym mis Medi.
- Hefyd, mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig hefyd gyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol cyn y bleidlais yn gosod pa roddion y maent wedi'u derbyn dros £7,500. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ynghyd ag adroddiadau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol. Ni adroddwyd am unrhyw roddion gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod yr wythnos hon.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban, a Senedd y DU.