Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn dros £25m mewn rhoddion yn nhrydydd chwarter 2023

Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn dros £25m mewn rhoddion yn nhrydydd chwarter 2023

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £25,411,733 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod trydydd chwarter 2023, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. 

Mae hyn yn cymharu ag £11,700,902 a dderbyniwyd yn yr un cyfnod yn 2022 (mis Gorffennaf i fis Medi).

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:

“Gwyddwn fod gan bleidleiswyr ddiddordeb gwybod o ble y mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu harian, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan bwysig o ddarparu’r tryloywder hwn i bleidleiswyr. 

“Fodd bynnag, mae’n glir nad yw cyhoeddi’r wybodaeth hon yn ddigon. Rydym wedi gweld ers cryn dipyn o amser fod hyder y cyhoedd yn nhryloywder cyllid pleidiau ac ymgyrchwyr yn dirywio. Rydym yn parhau i argymell i Lywodraeth y DU ei bod yn cyflwyno deddfau er mwyn helpu i amddiffyn pleidiau rhag y rheiny sydd am osgoi’r gyfraith, a rhoi mwy o hyder yn y broses i bleidleiswyr drwy ofyn bod mwy o wiriadau ar hunaniaeth rhoddwyr.” 

Y pleidiau gwleidyddol yr oedd angen iddynt adrodd am roddion yn Ch3 2023, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd: 

PlaidCyfanswm a adroddwydRhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwydCyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Plaid Alba£108,914£0£108,914£108,914
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon£47,438£16,500£30,938£47,438
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)£15,810,269£15,382,623£375,971£15,758,593
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon)£7,369£7,369£0£7,369
Y Blaid Gydweithredol£350,100£350,100£0£350,100
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P£92,494£0£92,494£92,494
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr)£245,606£190.906£51,691£242,596
Y Blaid Lafur£5,619,380£3,078,509£2,464,242£5,542,752
Y Democratiaid Rhyddfrydol£2,373,364£1,055,038£809,024£1,864,062
Plaid Cymru£174,962£45,743£129,219£174,962
Reform UK£20,000£20,000£0£20,000
Plaid Werdd yr Alban£8,263£0£8,263£8,263
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)£426,425£0£426,425£426,425
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)£137,011£7,500£122,011£129,511
Sinn Féin£294,257£207,070£87,186£294,257
The Reclaim Party£300,000£300,000£0£300,000
Traditional Unionist Voice - TUV£6,767£0£6,767£6,767
Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party)£19,000£19,000£0£19,000
Plaid Unoliaethwyr Ulster£16,232£0£16,232£16,232
Plaid Cydraddoldeb Menywod£8,000£2,000£0£2,000
Cyfanswm£26,065,850£20,682,357£4,729,377£25,411,733

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (dros £1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
  • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
  • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol

Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbynnir ganddi yn y chwarter hwnnw. Gall hyn fod oherwydd rhoddion a gydgrynhowyd, rhoddion na chaniateir a/neu roddion a adroddwyd yn hwyr. Gwnaeth tair plaid gynnwys rhoddion yn eu hadroddiad chwarterol a ddylai fod wedi'u hadrodd mewn adroddiadau chwarterol blaenorol. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion yma yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

O 1 Ionawr 2024, bydd y trothwy ar gyfer adrodd rhoddion i'r Comisiwn yn cynyddu. Yn dilyn newid yn y gyfraith gan Lywodraeth y DU, bydd yn ofynnol i bleidiau roi gwybod am roddion dros £11,180 (a thros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifo). 

Benthyca

Adroddodd pleidiau eu bod wedi ymrwymo i £27,400 o fenthyciadau newydd yn nhrydydd chwarter 2023. Cafodd benthyciadau â gwerth o £2,000 eu talu’n llawn. 

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch3 2023 

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Yn nhrydydd chwarter 2023, derbyniwyd £1,128,476 mewn rhoddion gan 84 o dderbynwyr a reoleiddir. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan. 
 

Math o dderbyniwr a reoleiddirGwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramorCyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd 
Ymgeisydd Arweinyddiaeth£2,875£0£2,875
Meiri£74,824£0£74,824
Aelod o Blaid Wleidyddol Gofrestredig£146,800£0£146,800
Cymdeithas Aelodau£390,333£0£390,333
AS - Aelod Seneddol£357,661£155,983£513,644
Cyfansymiau£972,494£155,983£1,128,476

Rhagor o wybodaeth

Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch3 2023 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
        •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
        •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi argymell ers tro y dylai Llywodraeth a Senedd y DU ystyried gyda ni sut y gellir gwella’r rheolau ar roddion a benthyciadau er mwyn atal arian tramor rhag cael ei ddefnyddio yng ngwleidyddiaeth y DU. Rydym yn parhau i argymell diwygiadau a fyddai’n rhoi i bleidleiswyr mwy o hyder yng nghyllid gwleidyddol y DU, gan gynnwys:
        •    cyflwyno dyletswydd ar bleidiau am
    ddiwydrwydd dyladwy ac asesiadau risg gwell o ran rhoddion, sydd wedi’u haddasu o reoliadau gwyngalchu arian
        •    cyflwyno cyfreithiau i sicrhau na all pleidiau dderbyn arian gan gwmnïau nad ydynt wedi gwneud digon o arian yn y DU i ariannu eu rhodd neu fenthyciad
  3. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr. Unwaith y bydd y blaid ganolog wedi adrodd rhodd neu gydgrynhoi rhodd o dros £7,500 mae’n rhaid iddynt adrodd bob rhodd dilynol o fwy na £1,500 o’r ffynhonnell hwnnw. 
  4. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  5. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. 
  6. Roedd 384 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod trydydd chwarter 2023. Roedd gofyn i 43 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol, ac i 35 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad. 
  7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau. Yna mae’r cofrestrydd yn anfon y manylion hyn i’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn nodi unrhyw roddion sydd yn disgyn o fewn y rheolau ar dderbynwyr a reoleiddir ac rydym yn cyhoeddi’r rhain. Mae gan y Comisiwn rôl o reoleiddio mewn perthynas â rhoddion a ganiateir. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
  8. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.