Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn dros £55.5 miliwn mewn rhoddion yn ail chwarter 2024
Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £55,541,055 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod ail chwarter 2024 (mis Ebrill i fis Mehefin), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw.
Mae hyn yn cymharu â £24,709,994 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2023.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Derbyniwyd dros £55 miliwn mewn rhoddion gan bleidiau gwleidyddol mewn tri mis, mwy na dwbl y swm ar gyfer yr un cyfnod y llynedd ac un o’r chwarteri uchaf ar gofnod.”
“Mae hyn hefyd yn cynrychioli cynnydd ar y chwarter blaenorol, fodd bynnag nid yw hi’n syndod gweld cynnydd sydyn yn y nifer o roddion cyn etholiad cyffredinol.
“Fel y rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol, rydym yn y broses o gwblhau gwiriadau cydymffurfio ar y miliynau o bunnoedd a dderbyniwyd gan bleidiau. Os byddwn yn canfod unrhyw dystiolaeth o dor-rheolau, byddwn yn eu hystyried yn unol â’n Polisi Gorfodi.”
Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch2 2024, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:
Plaid | Cyfanswm a adroddwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) | Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn |
---|---|---|---|---|
Plaid Alba | £36,305 | £0 | £36,305 | £36,305 |
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £55,829 | £21,500 | £24,329 | £45,829 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £16,356,594 | £16,057,873 | £81,516 | £16,139,389 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £23,442 | £23,442 | £0 | £23,442 |
Y Blaid Gydweithredol | £611,543 | £611,543 | £0 | £611,543 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £130,410 | £0 | £130,410 | £130,410 |
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £296,706 | £238,851 | £53,755 | £292,606 |
Y Blaid Lafur | £28,775,364 | £26,090,493 | £2,453,307 | £28,543,800 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £5,944,993 | £5,287,342 | £479,062 | £5,766,405 |
Plaid Cymru | £98,564 | £34,000 | £64,564 | £98,564 |
Propel | £26,930 | £26,930 | £0 | £26,930 |
Reform UK | £2,638,360 | £2,582,360 | £0 | £2,582,360 |
Plaid Werdd yr Alban | £12,294 | £0 | £6,199 | £6,199 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £630,993 | £259,481 | £366,512 | £625,993 |
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £123,035 | £7,500 | £108,035 | £115,535 |
Sinn Féin | £82,554 | £0 | £82,554 | £82,554 |
Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol | £25,000 | £25,000 | £0 | £25,000 |
The Reclaim Party | £150,000 | £150,000 | £0 | £150,000 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £12,500 | £12,500 | £0 | £12,500 |
Y Llais Unoliaethol Traddodiadol (Traditional Unionist Voice TUV) | £63,534 | £50,000 | £6,767 | £56,767 |
Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party) | £35,000 | £35,000 | £0 | £35,000 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) (Prydain Fawr) | £99,000 | £99,000 | £0 | £99,000 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £22,924 | £0 | £22,924 | £22,924 |
Plaid Gweithwyr Prydain (Workers Party of Britain) | £12,000 | £12,000 | £0 | £12,000 |
Cyfanswm | £56,263,874 | £51,624,815 | £3,916,239 | £55,541,055 |
O 1 Ionawr 2024 ymlaen, cynyddodd y trothwy ar gyfer adrodd am roddion i’r Comisiwn. Yn dilyn newid yn y gyfraith gan Lywodraeth y DU, bydd yn ofynnol i bleidiau roi gwybod am roddion dros £11,180 (a thros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu).
Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd y blaid mewn gwirionedd yn y chwarter hwnnw. Gall hyn fod oherwydd rhoddion a gydgrynhowyd, rhoddion na chaniateir a/neu roddion a adroddwyd yn hwyr. Gwnaeth pum plaid gynnwys rhoddion yn eu hadroddiad chwarterol a ddylai fod wedi’u hadrodd mewn adroddiadau chwarterol blaenorol. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion yma yn unol â’i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.
Benthyca
Adroddodd pleidiau eu bod wedi ymrwymo i £239,039 o fenthyciadau newydd yn ail chwarter 2024. Cafodd benthyciadau â gwerth o £2,028,948 eu talu’n llawn.
Rhagor o wybodaeth
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch2 2024 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol. Roedd rhoddion cyn y bleidlais a gyhoeddwyd cyn yr etholiad cyffredinol yn cynnwys rhoddion a dderbyniwyd gan bleidiau rhwng 30 Mai a 4 Gorffennaf.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
- rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
- rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
- rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
- rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
- Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
- Roedd 350 o bleidiau gwleidyddol wedi’u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2024. Roedd gofyn i 57 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 45 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.