Pleidiau gwleidyddol yn derbyn £22m mewn rhoddion yn ystod chwarter cyntaf 2024
Pleidiau gwleidyddol yn derbyn £22m mewn rhoddion yn ystod chwarter cyntaf 2024
Cofnododd pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £22,974,403 mewn rhoddion a chyllid cyhoeddus yn ystod chwarter cyntaf 2024, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cymharu ag £20,968,509 yn ystod yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Mae'n gyffredin gweld rhoddion i bleidiau gwleidyddol yn cynyddu cyn etholiad cyffredinol disgwyliedig, ac un sydd wedi'i drefnu erbyn hyn. Gwnaethant gyrraedd £22 miliwn yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn.
“Mae'r ffigurau hyn hefyd yn adlewyrchu'r trothwyon adrodd newydd, a gafodd eu newid gan Lywodraeth y DU y llynedd, sy'n golygu bod trothwy uwch ar gyfer yr hyn y mae angen i bleidiau roi gwybod i ni amdano.
“Er nad oes terfyn ar y swm y gall pleidiau ei godi, mae terfynau gwariant ar waith ar gyfer ymgyrchu cyn etholiadau.”
Roedd y pleidiau gwleidyddol yr oedd yn ofynnol iddynt roi gwybod am roddion yn ystod Ch1 2024, gan gynnwys cyllid cyhoeddus, fel a ganlyn:
Plaid | Cyfanswm a gofnodwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cyllid cyhoeddus) | Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd yn y chwarter hwn |
---|---|---|---|---|
Alliance – Plaid ‘Alliance’ Gogledd Iwerddon | £41,403 | £16,500 | £24,903 | £41,403 |
Plaid Lles Anifeiliaid | £20,000 | £20,000 | £0 | £20,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £9,124,390 | £8,836,834 | £173,819 | £9,010,653 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £11,611 | £11,611 | £0 | £11,611 |
Y Blaid Gydweithredol | £106,508 | £106,508 | £0 | £106,508 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P. | £104,697 | £0 | £104,697 | £104,697 |
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £401,452 | £346,761 | £51,691 | £398,452 |
Y Blaid Lafur | £9,530,789 | £7,388,160 | £2,099,879 | £9,488,039 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £2,876,503 | £2,481,039 | £377,619 | £2,858,658 |
Plaid Cymru | £79,638 | £50,000 | £29,638 | £79,638 |
Reform UK | £25,000 | £25,000 | £0 | £25,000 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £323,511 | £0 | £317,511 | £317,511 |
SDLP (Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur) | £51,480 | £0 | £51,480 | £51,480 |
Sinn Féin | £131,412 | £37,048 | £94,364 | £131,412 |
Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol | £35,000 | £35,000 | £0 | £35,000 |
The Reclaim Party | £200,000 | £200,000 | £0 | £200,000 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £35,000 | £35,000 | £0 | £35,000 |
Plaid True & Fair | £34,070 | £34,070 | £0 | £34,070 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £25,270 | £0 | £25,270 | £25,270 |
Cyfanswm | £23,157,735 | £19,623,531 | £3,350,872 | £22,974,403 |
O 1 Ionawr 2024, cynyddodd y trothwy ar gyfer rhoi gwybod i'r Comisiwn am roddion. Yn dilyn newid i'r gyfraith gan Lywodraeth y DU, mae bellach yn ofynnol i bleidiau roi gwybod am roddion dros £11,180 (a thros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu).
Efallai y bydd gwerth y rhoddion y bydd plaid wleidyddol yn rhoi gwybod amdanynt i'r Comisiwn yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd yn ystod y chwarter hwnnw mewn gwirionedd. Gall hyn fod oherwydd rhoddion a gydgrynhowyd, rhoddion nas caniateir, a/neu roddion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn hwyr. Gwnaeth pum plaid gynnwys rhoddion yn eu hadroddiad chwarterol y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt mewn chwarteri blaenorol. Bydd y Comisiwn yn ystyried y materion hyn yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw'n briodol. Caiff unrhyw gosbau a roddir eu cyhoeddi yn ddiweddarach.
Benthyca
Cofnododd pleidiau eu bod wedi cael gwerth £156,432.51 o fenthyciadau newydd yn ystod chwarter cyntaf 2024. Roedd gwerth £127,500 o fenthyciadau wedi'u talu.
Rhagor o wybodaeth
Mae manylion llawn am roddion a benthyciadau y rhoddwyd gwybod amdanynt yn Ch1 2024 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau bob chwarter i'r Comisiwn Etholiadol. O fewn y ffurflenni hyn, mae pleidiau yn rhoi gwybod am y canlynol:
o rhoddion a dderbyniwyd uwchlaw'r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
o rhoddion llai gan roddwr unigol sy'n uwch na'r trothwy adrodd pan gânt eu cyfrif gyda'i gilydd
o rhoddion nas caniateir y maent wedi'u derbyn a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
o rhoddion y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt yn ystod chwarteri blaenorol - Gan mai dim ond am roddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn y mae pleidiau yn rhoi gwybod, nid yw'r ffigurau yn cynnwys pob rhodd a benthyciad i bleidiau gwleidyddol. Caiff rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn eu cofnodi yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Ceir gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon diweddaraf pleidiau gwleidyddol ar gronfa ddata'r Comisiwn.
- Ystyr cyllid cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau ‘Short’ a ‘Cranborne’ ar gael i wrthbleidiau y naill i Dŷ'r Cyffredin a'r llall i Dŷ'r Arglwyddi.
- Roedd 374 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod chwarter cyntaf 2024. Roedd yn ofynnol i 69 ohonynt gyflwyno adroddiad chwarterol ar roddion ac i 50 ohonynt gyflwyno gwybodaeth am fenthyca o fewn y dyddiad cau. Mae'r pleidiau gwleidyddol sy'n weddill wedi cyflwyno pedair ffurflen dim trafodion yn olynol yn flaenorol. Maent felly wedi'u heithrio rhag gorfod cyflwyno adroddiad, ar yr amod nad ydynt wedi derbyn rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
o Galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
o rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
o defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.