Pleidiau gwleidyddol yn derbyn £24.7m mewn rhoddion yn Ch1 2026

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £24,716,802 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod chwarter cyntaf 2026 (Ionawr i Fawrth), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. 

Mae hyn yn cymharu â £13,745,495 yn yr un cyfnod yn 2025, a £15,450,561 yn y chwarter blaenorol (Ch4 2025).

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol: 

“Derbyniodd pleidiau gwleidyddol £24.7m mewn rhoddion yn chwarter cyntaf 2026. Mae gan system cyllid gwleidyddol y DU lefelau uchel o dryloywder, a gwyddom fod gan bleidleiswyr ddiddordeb mewn gwybod o ble mae pleidiau’n cael eu harian. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhan allweddol o gyflwyno'r wybodaeth hon i bleidleiswyr.

“Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhannau o’r system sydd angen eu cryfhau, ac rydym wedi tynnu sylw at yr angen am newidiadau i’r gyfraith ers peth amser. Gallai diwygiadau arfaethedig llywodraeth y DU i'r drefn cyllid gwleidyddol yn y Bil Cynrychiolaeth y Bobl wella cryfder rheolaethau rhoddion ac helpu i sicrhau bod gan bleidleiswyr hyder yn y system cyllid gwleidyddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth fel bod unrhyw newidiadau wedi'u seilio ar dystiolaeth ac yn ymarferol.” 

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch1 2026, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd: 

Plaid Cyfanswm a adroddwyd Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Advance UK £28,000£28,000£0 £28,000
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon£61,871£20,535 £41,336£61,871
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol£6,063,711£4,225,354£1,837,607£6,062,961
Y Blaid Gydweithredol£439,300£439,300£0£439,300
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P£104,347£0£104,347£104,347
Y Blaid Werdd£263,884£163,020£98,764£261,784
Y Blaid Lafur£4,102,856£4,046,640£56,216£4,102,856
Y Democratiaid Rhyddfrydol£3,019,235£2,291,101£727,134£3,018,235
Plaid Agored  £129,556£129,556£0£129,556
Plaid Cymru - The Party of Wales£59,467£25,500£33,967£59,467
Reform UK£9,936,393£9,262,000£674,393£9,936,393
Plaid Werdd yr Alban£12,590£0£12,590£12,590
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)£218,758£125,000£92,758£217,758
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)£79,536£0£79,536£79,536
Sinn Féin£126,845£0£126,845£126,845
Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol£15,000£15,000£0£15,000
The Reclaim Party£20,000£20,000£0£20,000
Plaid Unoliaethwyr Ulster£40,303£0£40,303£40,303
Cyfanswm £24,721,652£20,791,006£3,925,796£24,716,802

Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd y blaid mewn gwirionedd yn y chwarter hwnnw. Gall hyn ddigwydd pan fydd pleidiau’n adrodd ar roddion a gydgrynhowyd, yn dychwelyd rhoddion nas caniateir, neu’n adrodd ar roddion yn hwyr.

Benthyca

Ymrwymodd tair plaid i bedwar benthyciad newydd yn ystod chwarter cyntaf 2026, sy’n dod i gyfanswm o £32,256. Ni adroddwyd bod unrhyw fenthyciadau wedi'u talu'n llawn yn ystod y chwarter.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]

Notes to editors

  • Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
    • rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
    • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
    • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
    • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  • Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. 
  • Roedd 402 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod pedwerydd chwarter 2026. Roedd gofyn i 74 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 63 ohonynt gyflwyno gwybodaeth fenthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad. 
  • Diffinnir cymdeithas anghorfforedig gan y gyfraith fel unrhyw gymdeithas o ddau neu ragor o bobl sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn y Deyrnas Unedig ac y mae eu prif swyddfa yno. Dim ond os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol y caiff cymdeithasau anghorfforedig eu rheoleiddio, a rhaid iddynt gofrestru gyda ni os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr. 
  • Bwriad newidiadau arfaethedig y llywodraeth i’r drefn cyllid gwleidyddol yw cryfhau'r system drwy gau bylchau. Dylai hyn, yn ei dro, ddatblygu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Mae’r llywodraeth wedi cynnig: 
    • newid y gyfraith fel mai cwmnïau sydd â chysylltiad â’r DU ac sydd wedi cynhyrchu refeniw yn y DU yn unig a all wneud rhoddion gwleidyddol
    • cyflwyno gwiriadau ‘adnabod eich rhoddwr’ ychwanegol ar gyfer pleidiau gwleidyddol
    • cau rhai o’r bylchau yn y drefn cymdeithasau anghorfforedig.
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
      Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.