Un mis ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai yng Nghymru
Intro
Dim ond un mis sydd ar ôl gan bleidleiswyr yng Nghymru i gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol. Mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau pleidleisio yn yr etholiadau ar 5 Mai gofrestru erbyn canol nos ar 14 Ebrill.
Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd a gellir ei wneud ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio.
Gall person gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n 16 mlwydd oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
- mae’n ddinesydd Prydeinig sy’n preswylio yng Nghymru
- mae’n ddinesydd Gwyddelig, yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad neu’n ddinesydd tramor cymwys sy’n preswylio yng Nghymru
Bydd angen i unrhyw un a oedd ar y gofrestr yn flaenorol ac sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar neu y mae eu manylion wedi newid, gofrestru i bleidleisio eto.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
“Ym mis Mai, bydd pleidleiswyr ledled Cymru’n pleidleisio er mwyn dweud eu dweud ar y materion sy’n effeithio ar eu bywydau dydd i ddydd. Yn dilyn yr estyniad i’r etholfraint bleidleisio, gall pobl ifanc 16-17 mlwydd oed a gwladolion tramor cymwys yng Nghymru bleidleisio yn yr etholiadau hyn.
“Ni allwch ddweud eich dweud oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio - gallwch wneud hynny ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i gofrestru - amser y byddech fel arall yn ei dreulio yn aros i’r tegell ferwi neu i redeg y bath. Felly os ydych chi am sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a’ch bod ddim wedi’ch cofrestru eisoes, ewch ar-lein a chofrestrwch nawr. ”
Dim ond pleidleiswyr sydd wedi cofrestru i bleidleisio gall ddweud eu dweud ym mis Mai. Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno pleidleisio trwy’r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy, wneud cais i bleidleisio’r ffordd hyn, yn ogystal â chofrestru i bleidleisio. Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar ddydd Mawrth 19 Ebrill, a’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar ddydd Mawrth 26 Ebrill.
I gael gwybodaeth am etholiadau yn eich ardal, sut i gofrestru i bleidleisio, a sut i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, gallwch fynd i www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiadau.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu, trwy ffonio 02920 346 824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu drwy e-bostio [email protected].
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
- I bleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ym mis Mai, rhaid i berson fod wedi'i gofrestru i bleidleisio, yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad, a hefyd fod naill ai'n ddinesydd yr UE, yn ddinesydd y DU, neu’n ddinesydd Gwyddelig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu’n ddinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru. Ni all dinasyddion Prydeinig sy’n byw tramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio fel etholwyr tramor, bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.