Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol (Medi 2023)
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol
Mae ymchwiliadau i bedair plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf, gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau ym mhob achos.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Blaid Torri Trwy (Breakthrough Party) (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am ddwy rodd |
Troseddau a gafwyd |
Dwy ddirwy o £200 yr un Dirwyon wedi’u talu |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am bedair rhodd | Troseddau a gafwyd |
Tair dirwy o £200 yr un |
Democratiaid Rhyddfrydol (plaid wleidyddol) |
Adrodd yn hwyr am 21 o roddion Methu ag adrodd am ddau fenthyciad newydd a phedwar newid i fenthyciadau presennol erbyn y dyddiad cau |
Troseddau a gafwyd |
Dirwyon wedi’u talu |
Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am un rhodd | Troseddau a gafwyd | Cosb o £1,000 |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Gwnaeth ein hymchwiliadau ganfod bod nifer o roddion wedi’u hadrodd yn hwyr gan bleidiau. Mewn rhai achosion roedd yr hwyrni, a hefyd y symiau a roddwyd, yn sylweddol. Lle canfyddwn troseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau wrth benderfynu p’un a ddylid gosod cosb, ac os felly, lefel y gosb honno. Rydym yn cymryd i ystyriaeth cymesuredd ac ystod o ffactorau cyn dod i’n penderfyniad terfynol.
“Mae cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau yn amserol a chywir yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr dryloywder ynghylch faint o arian a godir gan bleidiau. Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydym yn ei gorfodi yn sicrhau’r tryloywder hyn. Mae'r cyfreithiau’n glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd. Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.