Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi diweddariad am ymchwiliad sydd wedi dod i ben (Ebrill 2024)
Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi diweddariad am ymchwiliad sydd wedi dod i ben
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dirwy o £1,500 i’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ar ôl cwblhau ymchwiliad i fethiant y blaid i adrodd am roddion a benthyciadau yn gywir. Mae'r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
Ymchwiliadau lle canfuwyd troseddau:
Pwy wnaethon ni ymchwilio iddynt | Yr hyn a ymchwiliwyd gennymWhat we investigated | Yr hyn a ganfuom | Canlyniad |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Adrodd yn hwyr ar naw rhodd, adrodd yn anghywir am bum rhodd, a dau drafodiad benthyciad a adroddwyd yn hwyr | Canfuwyd 14 trosedd | Pum dirwy yn dod i gyfanswm o £1,500 Cosbau a dalwyd ar 28 Mawrth 2024 |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
"Canfu ein hymchwiliad i'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol fod nifer o roddion wedi'u hadrodd yn anghywir, a bod rhoddion a benthyciadau wedi'u hadrodd yn hwyr. Mae'r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydyn ni'n eu gorfodi yn bodoli i sicrhau tryloywder o ran sut mae pleidiau'n cael eu hariannu ac i gynyddu hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod cyllid yn cael ei adrodd yn gywir ac ar amser.”
Diwedd
I gael ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch neges e-bost at [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy:
• galluogi cynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael â'r amgylchedd newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd torri’r rheolau.
• defnyddio ein harbenigedd i eirioli a gwneud newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad ymchwiliadau misol rheolaidd y Comisiwn, sy'n rhan bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU. Cyhoeddir gwybodaeth fel hyn yn rheolaidd ar y trydydd dydd Mawrth o bob mis. Mae manylion am sancsiynau o'r misoedd blaenorol ar gael.
- Mae cosbau a osodir gan y Comisiwn yn cael eu rhoi yn y Gronfa Gyfunol. Rheolir hyn gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.