Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben
Electoral Commission publishes concluded investigation update
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dirwy i Glwb Llafur a Sefydliad Barnes a Richmond (Barnes and Richmond Labour Club and Institute) ar ôl cwblhau ymchwiliad i fethiant y gymdeithas anghorfforedig i ddarparu hysbysiad gofynnol o gyfraniadau gwleidyddol ac adroddiadau o roddion mewn pryd.
Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Clwb Llafur a Sefydliad Barnes a Richmond (Barnes and Richmond Labour Club and Institute) (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â darparu hysbysiad o gyfraniadau gwleidyddol a wnaed a oedd yn fwy na £25,000, a thri adroddiad o roddion a dderbyniwyd mewn pryd | Cafwyd bod pedair trosedd | Un ddirwy o £500 Cosb yn ddyledus erbyn 1 Tachwedd 2024 |
Yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i gymdeithas anghorfforedig ddarparu hysbysiad o’i gyfraniadau gwleidyddol os yw’n cyfrannu mwy na’r trothwy mewn blwyddyn galendr. £25,000 oedd y trothwy hwnnw’n flaenorol – cafodd ei godi i £37.420 o 1 Ionawr 2024. Yn ogystal â hysbysu’r Comisiwn, mae’n rhaid i gymdeithasau anghorfforedig ddarparu adroddiadau o unrhyw roddion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Mae ein hymchwiliad i Glwb Llafur a Sefydliad Barnes a Richmond (Barnes and Richmond Labour Club and Institute) wedi canfod methiannau i ddarparu gwybodaeth ariannol berthnasol erbyn y dyddiadau cau sy’n ofynnol gan y gyfraith.
“Mae’r cyfreithiau rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder yn y gyfundrefn cyllid gwleidyddol ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod cyfraniadau a rhoddion yn cael eu hadrodd yn gywir ac mewn pryd.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.