Y Comisiwn Etholiadol yn dod ag ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol i ben (Gorffennaf 2023)

Y Comisiwn Etholiadol yn dod ag ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol i ben

Mae ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda dim cosbau’n cael eu gosod gan y Comisiwn Etholiadol.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio Yr hyn y gwnaethom ganfod Canlyniad
All for Unity (plaid wleidyddol) Methu â danfon dau adroddiad ar roddion a benthyciadau chwarterol erbyn y dyddiad dyledus Cafwyd trosedd Dim cosb
Democratiaid Lloegr (plaid wleidyddol) Methu â danfon datganiad gyflawn o gyfrifon Cafwyd trosedd Dim cosb
Plaid Sosialaidd Weriniaethol Iwerddon (plaid wleidyddol) Methu â danfon pum adroddiad ar roddion a benthyciadau chwarterol erbyn y dyddiad dyledus Ni chafwyd trosedd Dim cosb

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol: 

“O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch cyllid pleidiau gwleidyddol. Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn sicrhau bod y system yn dryloyw ac yn gywir. Mae'r cyfreithiau hyn yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni.

“Gwnaeth ein hymchwiliadau i All for Unity a Democratiaid Lloegr ganfod troseddau, ond ni roddwyd cosbau. Lle canfyddwn droseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau. Rydym yn ystyried ystod o ffactorau, fel y nodwyd yn y Polisi Gorfodi, cyn penderfynu p’un a ddylid gosod cosbau, gan gynnwys cymesuredd. Mae cyhoeddi gwybodaeth am ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected].

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
    •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.