Electoral Commission response to cyber-attack attribution
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi heddiw bod ymosodiad seiber 2022 ar y Comisiwn Etholiadol wedi’i briodoli i gyfranogwr sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth Tsieina.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, John Pullinger:
“Mae cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU, sy’n priodoli’r ymosodiad seiber ar y Comisiwn i gyfranogwr sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth Tsieina, yn dangos y bygythiadau rhyngwladol sy’n wynebu proses ddemocrataidd y DU a’i sefydliadau.
“Mewn blwyddyn o ddigwyddiadau etholiadol arwyddocaol, rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r risgiau sy’n wynebu ein proses etholiadol, a byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau’r DU a’r gymuned etholiadol ehangach i ddiogelu diogelwch y system.”
Cafodd yr ymosodiad ei nodi gyntaf ym mis Hydref 2022. Ar ôl cymryd camau i dynnu'r cyfranogwr o systemau'r Comisiwn ac i wella trefniadau diogelwch, rhoddodd y Comisiwn wybod i’r cyhoedd ym mis Awst 2023.
Ychwanegodd John:
“Nid yw’r ymosodiad seiber wedi cael effaith ar ddiogelwch etholiadau’r DU. Mae prosesau a systemau democrataidd y DU wedi’u gwasgaru’n eang ac mae eu gwydnwch wedi’i gryfhau ers yr ymosodiad. Mae gan bleidleiswyr ymddiriedaeth uchel yn y broses bleidleisio, a dylent barhau i gael yr ymddiriedaeth hon.
“Nid yw'r data a gyrchwyd pan ddigwyddodd yr ymosodiad hwn yn effeithio ar sut mae pobl yn cofrestru, yn pleidleisio, neu'n cymryd rhan mewn prosesau democrataidd. Nid oes ganddo effaith ar sut y caiff cofrestrau etholiadol eu rheoli neu sut y caiff etholiadau eu cynnal.”