Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

Pa etholiadau sy'n cael eu cynnal

Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal mewn 39 o ardaloedd lluoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

  • Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael ei ethol i fod yn llais y bobl ac i ddal yr heddlu i gyfrif. Mae'n gyfrifol am gyfanrwydd plismona a'i nod yw torri trosedd a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn eu hardal heddlu. 
  • Mae Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throsedd hefyd yn gyfrifol am lywodraethu tân ac achub, gan gynnwys darparu gwasanaeth tân ac achub effeithlon, yn ogystal â gosod amcanion tân ac achub ar gyfer yr ardal. 

Mae'r etholiadau hyn yn cael eu cynnal ochr yn ochr ag etholiadau llywodraeth leol, etholiadol maerol awdurdodau lleol ac etholiadau maerol awdurdodau cyfun yn Lloegr. Mae’r llawlyfr ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol ar gael ar ein gwefan. 

Mae gan bob ardal heddlu swyddog canlyniadau ardal heddlu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), neu yn yr ardal berthnasol, Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu (CHTTh).

Amserlen etholiadau

DigwyddiadDyddiad (amser cau os nad canol nos)
Cyhoeddi hysbysiad o’r etholiadDim hwyrach na dydd Mawrth 26 Mawrth
Dyddiad cau ar gyfer danfon papurau enwebu4pm dydd Gwener 5 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi rhestr o ymgeiswyrDim hwyrach na 4pm ar ddydd Llun 8 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru i bleidleisio 11:59pm ar ddydd Mawrth 16 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost, pleidlais bost drwy ddirprwy, ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy presennol 5pm ar ddydd Mercher 17 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr 5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill
Cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad Dim hwyrach na dydd Mercher 24 Ebrill
Diwrnod pleidleisio7am i 10pm ar ddydd Iau 2 Mai
Dyddiad cau i wneud cais am bleidleisiau post yn lle rhai a ddifethwyd neu a gollwyd5pm ar ddydd Iau 2 Mai
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng5pm ar ddydd Iau 2 Mai

Ymgeiswyr

Rhaid i unrhyw un sydd am ddod yn ymgeisydd mewn etholiad CHTh (neu CHTTh) yng Nghymru a Lloegr fod:

  • yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod enwebu’r ymgeisydd 
  • yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, neu'n ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd 
  • wedi cofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn ardal cyngor lleol sydd o fewn yr ardal heddlu y maent yn dymuno sefyll ynddi, ar adeg yr enwebiad ac ar y diwrnod pleidleisio 

Mae canllawiau’r Comisiwn Etholiadol i ymgeiswyr yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy’n anghymhwyso rhywun rhag sefyll i fod yn ymgeisydd CHTh (neu CHTTh) ac mae’n cynnwys y canlynol. 

  • Enwebiad fel ymgeisydd mewn etholiad maerol awdurdod cyfun ar yr un diwrnod pan fyddai'r maer yn arfer swyddogaethau CHTh (neu CHTTh) mewn perthynas â'r ardal honno, er enghraifft, ym Manceinion.
  • Euogfarn am drosedd garcharadwy. Mae'r gwaharddiad hwn yn berthnasol hyd yn oed os na chafodd yr ymgeisydd ei garcharu am y drosedd honno, neu os yw'r euogfarn wedi darfod.
  • Cyflogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol gan yr heddlu.

Er mwyn i berson gael ei enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae angen iddo gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu, i'r man a bennwyd gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu (PARO), erbyn 4pm ar ddydd Gwener 5 Ebrill 2024.

Mae angen i berson sy’n dymuno bod yn ymgeisydd mewn etholiad CHTh (neu CHTTh) gyflwyno:

  • y ffurflen enwebu 
  • ffurflen cyfeiriad cartref
  • y cydsynio i enwebu

Ochr yn ochr â hyn, mae angen iddynt:

  • Cyflwyno blaendal o £5,000 i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm ar ddydd Gwener 5 Ebrill 2024. Ad-delir yr ernes os cewch fwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau ffafriaeth gyntaf dilys yn yr ardal heddlu.
  • Mae angen i bob ffurflen enwebu gael ei llofnodi gan y 100 o etholwyr sydd ar gofrestr etholiadol llywodraeth leol ar gyfer awdurdod lleol yn ardal yr heddlu. Rhaid iddynt fod o oedran pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio a bod ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad.

Y dyddiad cynharaf y gall person ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad, sef dydd Mawrth 26 Mawrth 2024. Os nad yw bwriad person i sefyll wedi'i gyhoeddi erbyn y dyddiad hwn, byddant yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y cynharaf o’r canlynol:

  • y dyddiad y cyhoeddir eu bwriad i sefyll, neu
  • y dyddiad y maent yn cael eu henwebu 

Rhaid i hyn fod cyn cau'r enwebiadau, sef 4pm ar ddydd Gwener 5 Ebrill 2024.

 

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cyhoeddi datganiad o’r bobl a enwebwyd ar gyfer ardal yr heddlu erbyn 4pm ar ddydd Llun 8 Ebrill 2024.

Ar ôl i'r enwebiadau gau, bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn penderfynu a oes angen cynnal etholiad. Os oes un ymgeisydd yn sefyll ar ôl i’r cyfnod enwebu ddod i ben, ni fydd etholiad yn yr ardal honno, a chaiff yr ymgeisydd ei gyhoeddi’n Gomisiynydd Heddlu a Throseddu. 

Os oes mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys yn sefyll yn ardal yr heddlu ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, cynhelir pleidlais.

Ymgyrchu yn yr etholiad

Gall ymgeiswyr ddechrau ymgyrchu unrhyw bryd. Nid oes rhaid iddynt aros am enwebiad dilys er mwyn datgan eu bod am sefyll etholiad, gofyn i bobl eu cefnogi neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu. 

Mae terfynau gwariant etholiad yn gymwys o'r diwrnod ar ôl i berson ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. 

Fel ym mhob etholiad, mae'n anghyfreithlon gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd er mwyn dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae rheolau am ddifenwi hefyd yn berthnasol i ddeunyddiau etholiad.

Gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o'r drosedd etholiadol benodol o wneud datganiad ffug. Mae materion difenwi yn fater i'r llysoedd sifil.

Fel gyda phob etholiad, nid oes gan y Comisiwn Etholiadol rôl reoleiddiol mewn perthynas â chynnwys deunydd ymgyrchu na'r hyn y mae ymgeiswyr yn ei ddweud am ei gilydd, er ein bod yn annog pob ymgyrchydd i gyflawni ei rôl hanfodol yn gyfrifol ac i gefnogi tryloywder ymgyrch.
 

Yn ôl y gyfraith, rhaid i ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio 'argraffnod' ar eu holl ddeunydd ymgyrchu printiedig. Mae argraffnod yn cynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd a'r hyrwyddwr (yr unigolyn a awdurdododd argraffu'r deunydd). Rhaid ei gynnwys ar yr holl ddeunydd printiedig fel posteri, placardiau a thaflenni. Mae hyn er mwyn i bleidleiswyr fod yn glir ynghylch ffynhonnell y deunydd ymgyrchu. Mae'n drosedd i beidio â chynnwys argraffnod ar ddeunydd etholiadol argraffedig.

Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU ofyniad cyfreithiol i osod argraffnod ar yr holl hysbysebion gwleidyddol digidol taledig a rhai deunyddiau ymgyrchu digidol eraill (e.e. gwefannau, e-byst a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol).

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar argraffnodau print a digidol. 
 

Unwaith y daw rhywun yn ymgeisydd, mae ganddynt hawl i dderbyn, yn rhad ac am ddim, gopi o'r gofrestr etholiadol lawn a'r rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (y rhestrau pleidleiswyr absennol) ar gyfer yr ardal heddlu gyfan y maent yn ei chystadlu.

Dim ond i'w helpu i gwblhau eu ffurflen enwebu, i ymgyrchu ac i wirio bod rhoddion y maent yn eu derbyn yn dod o ffynhonnell a ganiateir, y caiff ymgeiswyr ddefnyddio'r gofrestr etholiadol lawn. 

Rhaid i ymgeiswyr beidio â rhyddhau unrhyw fanylion sy'n ymddangos yn y gofrestr etholiadol yn unig (ac nid ar y gofrestr agored sydd ar werth yn gyffredinol).
 

Terfynau gwariant a rheolau ar dderbyn rhoddion

Cyfnod a Reoleiddir

Mae’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2024 yng Nghymru a Lloegr yn dechrau’r diwrnod ar ôl i rywun ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 2 Mai 2024. 

Y dyddiad cynharaf y gall rhywun ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw’r dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad, sef dydd Mawrth 26 Mawrth 2024, ac ni all fod yn hwyrach na’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau (4pm ar ddydd Gwener 5 Ebrill 2024). 

Gwariant

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, ni chaiff ymgeiswyr wario mwy na'r terfyn gwariant penodedig, sef uchafswm sy'n seiliedig ar yr ardal heddlu y mae'r ymgeisydd yn sefyll ynddi.

Mae’r terfynau ar gyfer pob maes i’w gweld yng Nghanllawiau’r Comisiwn ar wariant a rhoddion ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr 

Mae gwariant ymgeisydd yn cynnwys costau:

  • hysbysebu o unrhyw fath, megis posteri, hysbysebion papur newydd, gwefannau neu gyfryngau cymdeithasol. Nid yw hyn yn cynnwys gwariant ar baratoi a chyhoeddi'r anerchiad etholiadol swyddogol y gall ymgeiswyr ei roi ar wefan Swyddfa'r Cabinet 
  • deunydd digymell a anfonir at bleidleiswyr, megis llythyrau, taflenni neu e-byst nad ydynt yn cael eu hanfon mewn ymateb i ymholiadau penodol
  • costau cludiant, fel llogi ceir neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer yr ymgeisydd neu ymgyrchwyr yr ymgeisydd
  • cyfarfodydd cyhoeddus
  • costau staff, megis cyflog asiant, neu staff ar secondiad i ymgeisydd

Mae rhagor o wybodaeth am ba weithgareddau sy’n cyfrif tuag at y terfyn gwariant ar gael yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.
 

Cyfrifoldeb asiant yr ymgeisydd (neu’r ymgeisydd, os yw’n gweithredu fel ei asiant ei hun) yw adrodd ar wariant yn llawn ac yn gywir. Dylai'r ymgeisydd a'r asiant sicrhau eu bod yn deall y rheolau a bod yr holl wariant wedi'i awdurdodi, ei gofnodi a'i adrodd yn gywir. Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant ill dau wneud datganiad bod eu hadroddiad yn gywir, a bod gwneud y datganiad hwn yn anwir yn drosedd.

Gelwir sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau ond sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd yn ardal yr heddlu, yn ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau. 

Gallant wario hyd at swm penodol ym mhob ardal heddlu ar ymgyrchu dros neu yn erbyn yr ymgeisydd. Mae gan bob ardal heddlu ei therfyn gwariant ei hun, sydd i'w weld yn ein canllawiau ar wariant a rhoddion yn yr etholiadau hyn.

Rhoddion

Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir tuag at wariant ymgeisydd, yn ddi-dâl neu ar delerau anfasnachol, ac sydd â gwerth dros £50. Mae hyn yn cynnwys: 

  • rhodd o arian neu briodoldeb eiddo arall 
  • rhywun yn talu anfoneb am wariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gan yr ymgeisydd
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad

Nid yw unrhyw beth sydd â gwerth o £50 neu lai yn cyfrif fel rhodd. 

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw rodd sy'n werth mwy na £50 ond yn cael ei dderbyn os yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir. Mae hyn yn berthnasol i roddion arian parod a rhoddion mewn nwyddau. 

Rhaid dychwelyd rhoddion nad ydynt yn dod o ffynhonnell a ganiateir i'r rhoddwr o fewn 30 diwrnod. Wedi hynny, efallai y bydd y rhodd yn cael ei fforffedu.

Diffinnir rhoddwyr a ganiateir ym Mhrydain Fawr fel:

  • unigolyn ar gofrestr etholiadol y DU, gan gynnwys etholwyr tramor
  • plaid wleidyddol gofrestredig y DU
  • cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
  • undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
  • cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU sy'n cynnal busnes yn y DU
  • cymdeithas lesiant sydd wedi'i chofrestru yn y DU
  • cymdeithas anghorfforedig yn y DU sy'n cynnal busnes neu weithgaredd arall yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn y DU ac sydd â'i phrif swyddfa yn y DU

Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn rhedeg ‘cronfa ymladd’ leol ar gyfer eu hymgeisydd. Os caiff y gronfa ei rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, yna fel arfer caiff rhoddion i’r gronfa eu trin fel petaent wedi’u gwneud i’r blaid ac nid oes angen i’r asiant adrodd amdanynt fel rhoddion i’r ymgeisydd, oni bai bod y rhoddion yn cael eu gwneud yn benodol tuag at ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd.

Fodd bynnag, bydd angen i ymgeiswyr adrodd am roddion gan y blaid a wneir er mwyn bodloni eu gwariant ymgyrchu.

Adrodd

Rhaid rhoi gwybod i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu am fanylion gwariant a rhoddion yr ymgeisydd ynghyd â datganiadau gan yr asiant a'r ymgeisydd yn cadarnhau bod y ffurflen wedi'i chwblhau ac yn gywir ddim yn hwyrach na 70 diwrnod ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan. 

Os na cheir unrhyw wariant, rhaid i'r ymgeisydd (neu ei asiant) gyflwyno ffurflen dim trafodion.

Pleidleiswyr

Gall person bleidleisio yn yr etholiadau ar 2 Mai 2024 os yw wedi cofrestru i bleidleisio. 

Gall person gofrestru i bleidleisio os yw:

  • yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn ddinesydd Gwyddelig, yr UE neu'r Gymanwlad sy'n gymwys

Gall pleidleiswyr fynd ar-lein i wneud cais i gofrestru yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gall pobl wneud cais o hyd trwy lenwi ffurflen gofrestru bapur os yw'n well ganddynt. 

Gallant gysylltu â’u swyddfa cofrestru etholiadol lleol am ffurflenni neu eu llwytho i lawr ar wefan Llywodraeth y DU.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gofrestru yw canol nos ar ddydd Mawrth 16 Ebrill 2024. 
 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar ddydd Mercher 17 Ebrill 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, ac eithrio mewn argyfwng, yw 5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill 2021.    

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy o ganlyniad i argyfwng yw 5pm ar ddydd Iau 2 Mai 2024.

ID Pleidleisiwr

Bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ledled Cymru a Lloegr ddod ag ID ffotograffig i bleidleisio yn bersonol yn yr etholiadau hyn, yn dilyn gofynion newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau. Mae math o ID rhad ac am ddim, sef y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ar gael i'r rhai nad oes ganddynt fath arall o ID a dderbynnir.

Os bydd pleidleiswyr yn colli eu math presennol o ID, neu os caiff ei ddwyn neu ei ddifrodi a bod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr wedi mynd heibio, bydd pobl yn gallu penodi dirprwy brys i bleidleisio ar eu rhan hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

Rhaid i bleidleiswyr sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio'n ddienw ond sy'n dymuno pleidleisio'n bersonol gael Dogfen Etholwr Dienw er mwyn pleidleisio.

Nid oes angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau llywodraeth leol.

Mae mathau o ID ffotograffig a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru'r DU neu’r AEE; a rhai pasys teithio rhatach, megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Mae’r rhestr lawn ar gael yma. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffotograff o hyd.

Gall y rhai nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais am ID pleidleisiwr rhad ac am ddim.

Gall unrhyw un heb fath o ID a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr rad ac am ddim yn cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk, neu drwy ofyn am ffurflen bapur gan eu cyngor lleol. 

Rhaid i unrhyw un sydd angen gwneud cais am ID am ddim, er mwyn pleidleisio yn etholiadau mis Mai 2024, wneud hynny cyn 5pm ar 24 Ebrill.

Y broses bleidleisio

Mae pob gorsaf bleidleisio yn agor am 7am ac yn cau am 10pm.

Bydd unrhyw bleidleisiwr sy'n cyrraedd ei orsaf bleidleisio cyn 10pm ac sydd mewn ciw yn aros i bleidleisio am 10pm yn gallu pleidleisio.

Yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau, defnyddir system y cyntaf i'r felin ar gyfer etholiadau CHTh (neu CHTTh), gan ddisodli'r system Pleidlais Atodol a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

  • Gall pleidleiswyr ddewis o restr o ymgeiswyr ar y papur pleidleisio. Yn syml, dylai pleidleisiwr roi X (croes) wrth ymyl yr un ymgeisydd y mae'n dymuno pleidleisio drosto. Bydd y papur pleidleisio yn nodi faint o ymgeiswyr y gall y pleidleisiwr eu dewis. 
  • O dan y system hon, mae’r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ethol. 
  • Mewn achos o bleidlais gyfartal, bydd ymgeisydd yn cael ei ddewis trwy dynnu tocyn (h.y., dull o ddewis ar hap fel taflu darn arian neu ddewis enw allan o het). 

Gall pleidleiswyr cofrestredig ymweld â'u gorsaf bleidleisio leol rhwng 7am a 10pm ar ddydd Iau 2 Mai i fwrw eu pleidleisiau. Dylai pleidleiswyr gyrraedd mewn da bryd er mwyn osgoi colli cyfle i ddweud eu dweud. Bydd unrhyw bleidleisiwr sydd mewn ciw yn ei orsaf bleidleisio yn aros i bleidleisio am 10pm yn gallu pleidleisio.

Bydd angen i bleidleiswyr ddod â math o ID a dderbynnir gyda nhw er mwyn pleidleisio.

  • Cyn y diwrnod pleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio at bleidleiswyr, sy'n cynnwys manylion ble mae eu gorsaf bleidleisio. Nid oes angen i bleidleiswyr fynd â'u cerdyn pleidleisio gyda nhw i'r orsaf bleidleisio ond bydd gwneud hynny'n cyflymu'r broses
  • Gall pleidleiswyr bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn hwn yn unig
  • Bydd staff gorsafoedd pleidleisio wrth law i egluro'r papur(au) pleidleisio a sut i bleidleisio

Rhaid i bleidleiswyr dienw ddod â’u cerdyn pleidleisio i’r orsaf bleidleisio, yn ogystal â’u dogfen Etholwr Dienw.

Mae’r gyfraith sy’n ymwneud â chael gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio a datgelu gwybodaeth o’r fath yn gymhleth, ond rydym yn cynghori yn erbyn tynnu hunluniau neu luniau eraill yn yr orsaf bleidleisio, o ystyried y risgiau y gallai hyn fod yn torri’r gyfraith.

Pan fydd pleidleisiwr yn cyrraedd gorsaf bleidleisio, bydd aelod o staff yn: 

  • Gofyn am ei enw a'i gyfeiriad fel y gellir dod o hyd iddo ar y gofrestr etholiadol 
  • Gofynnwch am ei ID ffotograffig a gwiriwch ei fod yn dderbyniol 
  • Os yw eu ID yn dderbyniol, byddant yn rhoi papur pleidleisio iddynt ac yn eu cyfarwyddo i’w llenwi yn y bwth pleidleisio, fel sy’n arferol

Os nad yw pleidleiswyr yn dymuno, neu'n methu, mynd i orsaf bleidleisio, gallant wneud cais am bleidlais bost. Mae angen iddynt gwblhau a llofnodi ffurflen gais pleidlais bost a'i dychwelyd i'w swyddfa cofrestru etholiadol leol erbyn 5pm ar ddydd Mercher 17 Ebrill. Fel arall, gallant wneud cais ar-lein.

Mae'n ofynnol i geisiadau am bleidlais bost gynnwys rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd yn ogystal â'u dyddiad geni a'u llofnod. Defnyddir y rhain i gadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd.

Bellach mae cyfyngiadau hefyd ar bwy all drin dogfennau pleidleisio drwy'r post. Mae hyn yn cynnwys eu dychwelyd i orsaf bleidleisio neu at y swyddog canlyniadau berthnasol. Ym mis Mai, ni fydd pleidleiswyr yn cael cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post fesul etholiad, yn ogystal â'u rhai eu hunain. Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidleisiau post i'r orsaf bleidleisio neu'r swyddog canlyniadau berthnasol lenwi ffurflen pleidlais bost.
 

Gall pleidleiswyr na allant, neu nad ydynt am, bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu eu bod yn gofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan. Mae angen iddynt lenwi a llofnodi ffurflen gais dirprwy a'i dychwelyd i'w swyddfa cofrestru etholiadol leol erbyn 5pm ar ddydd Mercher 24 Ebrill. 

Fel arall, gallant wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy. Bydd angen i’r person sy’n pleidleisio ar ei ran (ei ddirprwy) ddangos math o ID a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio cyn y gall bleidleisio.

Mae newidiadau o'r Ddeddf Etholiadau yn golygu y gall pleidleiswyr bellach weithredu fel dirprwy ar gyfer uchafswm o bedwar o bobl, dim ond dau o'r rheini all fod yn bobl sy'n byw yn y DU.

Mae’r Comisiwn yn darparu canllawiau i staff gorsafoedd pleidleisio, i’w helpu i wneud yn siŵr bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bawb.

Mae newidiadau a gyflwynwyd yn y Ddeddf Etholiadau yn caniatáu i bleidleiswyr anabl ddewis unrhyw un sydd dros 18 oed i fynd gyda nhw i’r orsaf bleidleisio i'w helpu i bleidleisio. Mae'r Ddeddf hefyd yn newid y cymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.

Ymgynghorwyd ag elusennau a gweinyddwyr etholiadol, cyn diweddaru ein canllawiau hygyrchedd i weinyddwyr, i wneud yn siŵr bod pleidleiswyr anabl yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo mewn gorsafoedd pleidleisio. Nod ein canllawiau yw cefnogi swyddogion canlyniadau i ddeall a nodi'r rhwystrau i bleidleisio a wynebir gan bleidleiswyr anabl. Mae'n nodi'r offer a ddylai fod ar gael o leiaf yn yr orsaf bleidleisio, a pha offer neu gymorth arall a allai fod yn ddefnyddiol eu darparu hefyd. Dylai hyn gynnwys mesurau fel dyfais bleidleisio gyffyrddol, bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn, chwyddwydrau a gafaelion pensiliau. Rhaid i swyddogion canlyniadau ystyried y canllawiau hyn. 
 

Y cyfrif a datgan canlyniadau

Mae'r swyddog canlyniadau lleol yn gyfrifol am gyfrif y pleidleisiau yn ei ardal bleidleisio. Gall Swyddogion Canlyniadau Ardal yr Heddlu benderfynu cynnal cyfrifiadau mewn lleoliad canolog neu’n lleol yn ardaloedd yr awdurdodau cyfansoddol.

Bydd swyddogion canlyniadau lleol yn sicrhau bod swyddogion llywyddu yn cludo blychau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio i leoliad y cyfrif mewn modd diogel ac amserol, a bod y rhai a recriwtiwyd i gyfrif papurau pleidleisio wedi'u hyfforddi'n dda ar sut i gyflawni eu dyletswyddau.

Bydd swyddogion canlyniadau lleol yn hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o'r cyfanswm lleol ar gyfer eu hardal bleidleisio. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gwirio ac yn cymeradwyo cyfansymiau lleol ac yn coladu canlyniadau'r holl ardaloedd pleidleisio yn ardal yr Heddlu. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, bydd y swyddog canlyniadau lleol yn gallu rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r cyfanswm lleol. 

Unwaith y bydd cyfrifiad y canlyniad wedi'i gwblhau bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedyn yn datgan y canlyniadau ar gyfer ardal gyfan yr Heddlu.

Bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gallu darparu amseroedd cyfrif rhagamcanol ar gyfer cyfansymiau lleol.

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gallu darparu rhagamcan o amser ar gyfer y datganiad. 

Gellir herio canlyniad etholiad CHTh (neu CHTTh) drwy ddeiseb etholiadol, a dim ond drwy:

  • rhywun sy'n honni iddo fod yn ymgeisydd yn yr etholiad
  • o leiaf bedwar etholwr (nid etholwyr cofrestredig dienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad 

Fel arfer rhaid cyflwyno deiseb mewn etholiad CHTh (neu CHTTh) o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd yr etholiad. Gellir caniatáu rhagor o amser o dan amgylchiadau penodol. 

Roles and responsibilities at the poll

Mae gan bob ardal heddlu swyddog canlyniadau ardal heddlu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), neu yn yr ardal berthnasol, Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu (CHTTh).

Mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gyfrifol am:

  • y broses enwebu
  • cyfrifo a datgan canlyniad yr etholiad 
  • cysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol a chydlynu eu gwaith yn eu hardal heddlu
  • rhoi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau Lleol ynghylch cyflawni eu swyddogaethau yn yr etholiad

Pan fydd y bleidlais mewn etholiad CHTh (neu CHTTh) yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr, y Swyddog Canlyniadau lleol fydd yn gyfrifol am gynnal y bleidlais ar gyfer yr etholiad llywodraeth leol a’r rhan honno o’r etholiad CHTh (neu CHTTh) sydd wedi'i chynnwys yn ardal eu hawdurdod lleol.

Lle nad yw’r bleidlais yn yr etholiad CHTh (neu CHTTh) wedi’i chyfuno ag unrhyw bleidlais arall, y swyddog canlyniadau lleol fydd yn gyfrifol am gynnal y bleidlais ar gyfer yr etholiad CHTh yn ei ardal bleidleisio. 

Mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, penodir Swyddog Canlyniadau Lleol am bob ardal bleidleisio o fewn yr ardal heddlu. Y Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw'r person sy'n gweithredu fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau lleol yn yr ardal honno ac fel arfer mae'n uwch swyddog yr awdurdod lleol. 

Mae swyddogion cofrestru etholiadol yn gyfrifol am baratoi a chynnal y cofrestrau etholiadol a'r rhestr o bleidleiswyr absennol yn eu hardal. Rhaid iddynt sicrhau bod y cofrestrau etholiadol mor gywir a chyflawn â phosibl.

Penodir swyddogion llywyddu gan swyddogion canlyniadau perthnasol i redeg gorsafoedd pleidleisio. Mae dyletswyddau'n cynnwys trefnu cynllun yr orsaf bleidleisio, goruchwylio clercod pleidleisio, cyhoeddi papurau pleidleisio, cynorthwyo pleidleiswyr, rhoi cyfrif am yr holl bapurau pleidleisio a sicrhau bod blychau pleidleisio yn cael eu cludo'n ddiogel i leoliad y cyfrif.

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb. Ein rôl mewn etholiadau yw:

  • cynhyrchu canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, gosod safonau perfformiad ac adrodd ar sut mae gweinyddwyr etholiadol yn perfformio yn erbyn y safonau hyn
  • cynhyrchu canllawiau i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad a'u hasiantiaid
  • cynhyrchu canllawiau i bleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
  • cynhyrchu canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu yn yr etholiad
  • cofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau 
  • codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r etholiadau a sut i gymryd rhan ynddynt 
  • adrodd ar y modd y cynhaliwyd yr etholiadau
  • cyhoeddi manylion o ble mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu harian a sut maent yn ei wario 

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mawrth 2024

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Awst 2024