Gwella iechyd proses ddemocrataidd y DU
Summary
Er bod prosesau etholiadol a rheolau cyllid gwleidyddol y DU yn gadarn ac yn ennyn lefelau uchel o hyder gan y cyhoedd, gellir gwneud mwy i foderneiddio ein system, cynyddu tryloywder ac ehangu cyfranogiad.
Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion a allai, os cânt eu rhoi ar waith, ddarparu buddion sylweddol i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol, cyrff gorfodi a llunwyr polisi.
Argymhellion blaenoriaethol
Gwella mynediad at gofrestru etholiadol a phleidleisio
- Byddai cyflwyno cyfleoedd mwy awtomataidd neu awtomatig i gofrestru yn helpu i gynyddu lefelau cofrestru a chyfleoedd ar gyfer cyfranogiad democrataidd. Gallai hyn adeiladu ar drafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill a ddefnyddir yn aml megis ceisiadau am basbortau neu newidiadau i fanylion cyfeiriad trwydded yrru, neu pan gyhoeddir rhifau Yswiriant Gwladol newydd i bobl sy'n troi'n 16 oed.
- Byddai rhoi mynediad i Swyddogion Cofrestru Etholiadol at ddata gan ystod eang o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, fel y gallant adnabod pobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir, hefyd yn helpu i leihau'r her o brosesu nifer fawr o geisiadau cyn digwyddiadau etholiadol mawr.
- Byddai ei gwneud yn ofynnol i bleidiau ac ymgyrchwyr ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch ar yr un pryd ag y maent yn cyhoeddi eu prif ddogfennau polisi neu faniffesto, a byddai eithrio costau sy'n ymwneud ag anghenion cymorth ychwanegol i bobl anabl sy'n sefyll etholiad gan reolaethau gwariant ymgeiswyr, yn helpu i fodloni anghenion hygyrchedd pleidleiswyr ac ymgeiswyr yn well.
Amddiffyn gwleidyddiaeth rhag ymyrraeth tramor
Amddiffyn gwleidyddiaeth rhag ymyrraeth tramor
-
Byddai cryfhau'r gyfraith i atal arian tramor rhag cael ei ddefnyddio'n anghyfreithlon mewn ymgyrchoedd gwleidyddol yn y DU, drwy egluro na all pleidiau ac ymgyrchwyr dderbyn rhoddion gan gwmnïau nad ydynt wedi gwneud digon o arian yn y DU i'w hariannu, yn rhoi hyder i bleidleiswyr yn uniondeb cyllid gwleidyddol, ond hefyd yn amddiffyn pleidiau gwleidyddol eu hunain.
- Byddai cyflwyno gofynion newydd i bleidiau ac ymgyrchwyr gynnal asesiadau diwydrwydd dyladwy ac asesiadau risg gwell cyn iddynt dderbyn rhoddion, wedi'u haddasu o'r rheoliadau gwrth-wyngalchu arian presennol, yn helpu i gryfhau'r rheolaethau sy'n amddiffyn etholiadau rhag dylanwad anghyfreithlon ac yn gwella tryloywder i bleidleiswyr.
Cryfhau a symleiddio rheoliadau cyllid gwleidyddol
Cryfhau a symleiddio rheoliadau cyllid gwleidyddol
-
Byddai dadgriminaleiddio troseddau gweinyddol sy'n ymwneud â rheolaethau gwariant ymgeiswyr, a symud gorfodi sancsiynau sifil cymesur am y troseddau hyn o'r heddlu i'r Comisiwn Etholiadol, yn egluro atebolrwydd cyllid gwleidyddol ac yn cryfhau ymddiriedaeth pleidleiswyr yn y system reoleiddio.
- Byddai rhoi'r gallu i'r Comisiwn gael gwybodaeth y tu allan i ymchwiliad ffurfiol yn helpu i gefnogi cydymffurfiaeth ac yn gwella hyder mewn etholiadau. Byddai hyn yn cynnwys pwerau i gyrchu gwybodaeth gan ystod ehangach o sefydliadau fel cwmnïau sy'n cyflenwi gwasanaethau i ymgyrchwyr.
- Byddai cynyddu'r gosb sifil uchaf am dorri'r gyfraith o'r terfyn presennol o £20,000, yn dilyn enghraifft y terfyn o £500,000 ar gyfer refferenda yn yr Alban, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ymateb yn gymesur i'r ystod o droseddau rydym yn eu rheoleiddio ac yn cymell ymgyrchwyr i fuddsoddi mewn gweithdrefnau cydymffurfio cadarn.
Moderneiddio cyfraith etholiadol
Moderneiddio cyfraith etholiadol
-
Byddai cyflwyno Bil Cyfraith Etholiadol i weithredu argymhellion comisiynau'r gyfraith a gefnogir yn eang i symleiddio a moderneiddio cyfraith etholiadol yn helpu llywodraethau a deddfwrfeydd i gyflawni eu blaenoriaethau polisi yn haws. Byddai hefyd yn helpu gweinyddwyr etholiadol i ddarparu'r lefel o wasanaeth y mae pleidleiswyr yn ei haeddu.
Cynnal annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol
- Byddai diddymu adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Etholiadau 2022 i ddileu'r gofyniad am strategaeth a datganiad polisi ar gyfer y Comisiwn yn gwella hyder ac ymddiriedaeth yn ein system etholiadol, trwy gynnal yr egwyddor bod comisiwn etholiadol yn parhau'n annibynnol o lywodraethau.