Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau Senedd Cymru) Cod Ymarfer 2025

Mae’r Cod hwn:

  • i'w adnabod fel Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau'r Senedd) 2025
  • yn dod i rym ar (add date)

Mae unrhyw gostau cysylltiedig eraill hefyd yn cyfrif fel gwariant ymgyrch, felly mae’n rhaid adrodd amdanynt a’u hystyried yn y terfyn gwariant.

Eitemau sydd wedi'u heithrio

Nid yw cost dŵr, nwy, treth gyngor na gofal plant yn dreuliau sy’n dod o fewn cwmpas Rhan 1 Atodlen 8 PPERA. Ni ystyrir eu bod wedi’u cysylltu’n ddigon agos â’r materion a restrir yno. Nid oes angen adrodd amdanynt.

 

Atodlen 8, paragraff 1(1)

Party political broadcasts.

Expenses in respect of such broadcasts include agency fees, design costs and other costs in connection with preparing or producing such broadcasts.

Mae’r paragraff hwn yn cynnwys:

Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu offer a ddarperir gan eraill

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • offer
     

i baratoi, llunio neu hwyluso’r gwaith o lunio cynnwys neu ddarlledu’r cynnwys.

Gorbenion a chostau cysylltiedig

Mae’n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath a ddefnyddir ar unrhyw ddyfais ar gyfer dylunio a llunio deunydd yn fewnol.

Er enghraifft, ffi drwyddedu ar gyfer meddalwedd i'w defnyddio ar gyfer dylunio cynnwys i’w ddarlledu. 

Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw offer i baratoi, llunio, neu hwyluso’r gwaith o lunio neu ddarlledu’r cynnwys. 

Mae’n cynnwys cyfran berthnasol o gost:

  • safle swyddfa
  • adrethi busnes
  • trydan
  • rhentu ffôn a mynediad i’r rhyngrwyd 

sy’n gysylltiedig â pharatoi, llunio, hwyluso’r gwaith o lunio a/neu ddarlledu’r cynnwys.

Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â’r darllediad ar gyfer y blaid pan fo’r blaid yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 23 Ebrill 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mehefin 2025