Safonau perfformiad i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol: ymateb i’r ymgynghoriad

Summary title (hidden)

Gwnaethom ddechrau cynnal ymgynghoriad 10 wythnos ar fframwaith safonau perfformiad drafft i Swyddogion Canlyniadau ym mis Mehefin 2022. Amlygodd hyn y safonau arfaethedig newydd sydd â’r bwriad o ddarparu fframwaith gwydn ar gyfer cynnal etholiadau llwyddiannus, cefnogi gweithrediad newidiadau deddfwriaethol yn effeithiol ac yn gyson, a sicrhau adrodd tryloyw ar sut mae etholiadau wedi’u cynnal ar lefel lleol a ledled Prydain Fawr. Ceisiodd yr ymgynghoriad hefyd safbwyntiau ar ddiweddariadau i safonau perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a gafodd eu hadolygu diwethaf yn 2021, i adlewyrchu’r cyfrifoldebau newydd sy’n codi o Ddeddf Etholiadau 2022.

Mae’r adborth rydym wedi’i gael wedi bod yn bositif ac ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno bod y safonau – gyda rhai mân newidiadau – yn cwmpasu ystod o gyfrifoldebau’r Swyddog Canlyniadau ac, ochr yn ochr â’n canllawiau, y byddant yn effeithiol o ran cefnogi Swyddogion Canlyniadau i gynllunio ar gyfer etholiadau a’u cynnal.

Mae’r adborth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad wedi cael ei ddefnyddio i lywio’r safonau terfynol -sydd wedi’u gosod gerbron Llywodraethau Cymru, yr Alban a’r DU erbyn hyn - a’r dull o ran sut y cânt eu defnyddio. Mae crynodeb o brif themâu’r adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’n hymateb i’r pwyntiau a godwyd wedi’i gosod isod.

Byddwn yn defnyddio'r safonau drafft i lywio'r ffordd rydym yn ymgysylltu â Swyddogion Canlyniadau ynghylch cynllunio ar gyfer etholiadau a’u cynnal, gyda ffocws penodol yn 2023/24 ar effeithiolrwydd a chysondeb gweithrediad y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau. 

Defnyddio’r safonau yn 2023

Bydd y safonau perfformiad newydd yn rhan bwysig o'n pecyn cymorth ar gyfer Swyddogion Canlyniadau wrth baratoi ar gyfer etholiadau ar draws Prydain Fawr a'u cynnal. Nawr bod y safonau wedi'u cwblhau a'u gosod gerbron Seneddau Cymru, yr Alban a’r DU, byddwn yn dechrau eu defnyddio i lywio ein hymgysylltiad â Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol gan ganolbwyntio'n benodol yn 2023 ar effeithiolrwydd a chysondeb gweithrediad y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau. Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth o'r ymgysylltiad hwn, ynghyd â dadansoddiad o'r wybodaeth a'r data y byddwn yn eu casglu, i gefnogi ein hadrodd ar sut y cafodd etholiadau mis Mai 2023 eu cynnal ac ar weithrediad y system yn fwy cyffredinol. 

Ymgysylltiad wedi’i dargedu

Er ein bod yn anelu at ymgysylltu â'r holl Swyddogion Canlyniadau sydd ag etholiadau, fel yn y blynyddoedd blaenorol byddwn yn cymryd dull sy'n seiliedig ar risg i helpu i flaenoriaethu trefn, amlder a dwyster ein hymgysylltiad. Mae hyn yn adeiladu ar ein proses sydd eisoes wedi'i sefydlu, lle rydym yn cynnal asesiadau risg gan ystyried ystod o ffactorau, gan gynnwys profiad y Swyddogion Canlyniadau a'u timau, unrhyw newidiadau staffio, demograffeg yr ardal a risgiau twyll etholiadol, i lywio sut, gyda phwy a phryd rydym yn ymgysylltu.

Byddwn hefyd yn parhau i flaenoriaethu ymgysylltu ag unrhyw Swyddogion Canlyniadau sydd wedi cael problemau o'r blaen wrth gynnal eu hetholiadau, yn enwedig lle y gallem fod wedi canfod nad oeddent yn cwrdd ag elfennau o'r safonau. 

Yn fwy cyffredinol, bydd fframwaith y safonau yn cael ei ddefnyddio i gefnogi sgyrsiau strwythuredig gyda Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau. Yn y flwyddyn gyntaf o weithredu, bydd ein hymgysylltiad yn gweld ffocws ar yr elfennau canlynol o'r safonau:

  • Hygyrchedd pleidleisio: bydd hyn yn cynnwys ffocws ar y trefniadau sy'n cael eu gwneud i gynorthwyo pleidleiswyr i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, yn unol â'n canllawiau newydd. Byddwn yn cymryd rhan cyn yr etholiadau i gefnogi a herio Swyddogion Canlyniadau lle bo angen i helpu i sicrhau bod trefniadau priodol ar waith, a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a'r data a gasglwn i lywio ein hadrodd statudol ar ôl yr etholiadau ar yr hyn y mae Swyddogion Canlyniadau wedi'i wneud i sicrhau hygyrchedd.
  • Gweinyddu'r broses Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr: bydd hyn yn edrych ar y gweithgarwch ymgysylltu sydd wedi'i dargedu sy’n cael ei gynnal yn lleol i godi ymwybyddiaeth o'r angen am ID ac argaeledd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, yn ogystal â phrosesu ceisiadau a rheoli'r gwaith cynhyrchu a dosbarthu, er mwyn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr heb un o'r mathau derbyniol o ID yn gallu cael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Unwaith eto bydd hyn yn cynnwys cefnogi a herio yn y cyfnod sy'n arwain at yr etholiadau, yn ogystal â darparu sail ar gyfer casglu gwybodaeth a data er mwyn llywio ein gwerthusiad o weithrediad y darpariaethau.

Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer trafodaethau strwythuredig, byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i Swyddogion Canlyniadau unigol a Swyddogion Cofrestru Etholiadol am y mathau o wybodaeth a data y byddwn am eu trafod â nhw, i'w helpu i ddeall y meysydd y byddwn am eu harchwilio.

Casglu data gan bob Swyddog Canlyniadau

Byddwn yn parhau i gasglu gwybodaeth waelodlin gan bob Swyddog Canlyniadau sydd ag etholiadau, sy'n cyd-fynd â'r wybodaeth a'r dystiolaeth a amlinellir yn y safonau. Fel yr eglurwyd uchod, nid ydym yn bwriadu casglu'r holl wybodaeth a restrir yn y safonau ar un adeg, gyda'n ffocws yn hytrach ar y darnau allweddol o wybodaeth yn ystod cyfnod etholiad a fyddai'n rhoi trosolwg o'r paratoadau allweddol a wnaed.

Yn ogystal â rhoi ffynhonnell bwysig o wybodaeth i ni ei dadansoddi a’i defnyddio i lywio ymgysylltiad â Swyddogion Canlyniadau lleol (h.y. defnyddio'r wybodaeth i ddiweddaru proffiliau risg, a hysbysu ein bod yn blaenoriaethu ein hymgysylltiad wedi'i dargedu), mae hefyd yn rhoi darlun o gynnydd ar lefel genedlaethol ac yn rhoi data i ni y gallwn ei ddefnyddio'n rhagweithiol ac yn adweithiol i adrodd sut y mae'r etholiadau'n cael eu rheoli. 

Adrodd

Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, mae angen i ni hefyd sicrhau, lle mae problemau wedi codi, ein bod yn dryloyw am y rhain, gan fod yn agored ac yn glir am yr hyn sydd wedi digwydd, yr effaith, a'r hyn rydym wedi’i ddysgu. I'r perwyl hwn, mae'r safonau'n chwarae rhan bwysig wrth ein galluogi i adrodd ar weinyddiaeth etholiadau. 

Pan fydd problemau yn codi, ar ôl i ni gefnogi'r Swyddog Canlyniadau i ddatrys y sefyllfa, bydd y darnau perthnasol o ddata a gwybodaeth a restrir yn y safonau yn cael eu coladu a'u dadansoddi i'n galluogi i gyrraedd asesiad ynghylch p’un a yw agweddau perthnasol y safonau wedi'u bodloni'n ymarferol ai peidio. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein proses sefydledig ar gyfer gwneud hyn sy'n cynnwys ymgynghori â phanel o aelodau'r Bwrdd Cydlynu ac Ymgynghori Etholiadol (h.y. Uwch Swyddogion Canlyniadau o bob rhan o'r DU) i gasglu eu hadborth ar dystiolaeth, effaith ac asesiad dros dro perfformiad, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn ogystal ag amlygu meysydd lle bu problemau, byddwn yn parhau i fod yn ymwybodol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a amlygodd werth defnyddio ein hadrodd i amlygu enghreifftiau o arfer da.

Bydd yr wybodaeth a gawn trwy ein hymgysylltiad â Swyddogion Canlyniadau a'u timau nid yn unig yn rhoi dealltwriaeth i ni o berfformiad lleol ond bydd hefyd yn ein helpu i greu darlun o sut mae'r system yn gweithio'n fwy cyffredinol. Trwy ddal a choladu’r pwyntiau allweddol o'n trafodaethau strwythuredig unigol gyda Swyddogion Canlyniadau, gallwn nodi themâu a phroblemau sy'n dod i'r amlwg, a all yn eu tro lywio ein hadrodd a'n hargymhellion ar ôl etholiadau.

Ymgysylltiad drwy’r flwyddyn gyfan

Mae'r fframwaith newydd wedi'i gynllunio i gael ei ddefnyddio nid yn unig yn y cyfnod sy'n arwain at etholiadau ond trwy gydol y flwyddyn gyfan. Nod y cyntaf o'r safonau yn benodol yw darparu sail ar gyfer ymgysylltu drwy’r flwyddyn gyfan, gan gynnwys mewn perthynas â'r strwythur ehangach a'r dull o gynnal etholiadau, gan helpu i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ymhellach allan o etholiadau ac i helpu i sicrhau parodrwydd ar gyfer etholiadau, pryd bynnag y gallant ddigwydd. 

Fel rhan o'n rhaglen ymgysylltu ehangach barhaus, sy'n sicrhau bod gennym gysylltiad rheolaidd â'r holl Swyddogion Canlyniadau, byddwn yn defnyddio safon perfformiad un i gefnogi sgyrsiau strwythuredig gyda Swyddogion Canlyniadau y tu allan i gyfnod etholiad wedi'i drefnu. Bydd y sgyrsiau hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan Swyddogion Canlyniadau y strwythurau a'r adnoddau yn eu lle i alluogi a chefnogi eu timau i gynnal etholiadau yn ymarferol ac ar y cynllunio a'r paratoadau parhaus sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn barod i gynnal etholiadau pryd bynnag y gallant ddigwydd.