Adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Ymarfer newydd arfaethedig ar gyfer arsylwyr.
Lansiwyd yr ymgynghoriad i gael barn ar eglurder a pherthnasedd y Cod Ymarfer drafft i ddiweddaru a chryfhau canllawiau ar gyfer arsylwyr etholiadol achrededig o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda.
Rhannwyd yr ymgynghoriad ag arsylwyr presennol ac awdurdodau lleol gan gynnwys yr heddlu a gweinyddwyr etholiadol. Derbyniwyd 66 o ymatebion. Ystyriwyd bod yr ymgynghoriad ei hun yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn agored.
Pa mor glir yw'r cod ar y rheolau ar gyfer arsylwyr a’u cyfrifoldebau?
Canfu'r ymatebwyr fod y Cod Ymarfer newydd ar gyfer Arsylwyr Etholiadol yn glir ar y materion hyn. Disgrifiodd 56.1% ef fel eglur iawn a disgrifiodd 36.4% arall ef fel eithaf eglur. Roedd lleiafrif o'r farn nad oedd yn eglur iawn (6.1%) neu nad oedd yn eglur o gwbl (1.5%), ac ni ddewisodd unrhyw ymatebwyr 'ddim yn gwybod'. Ar y cyfan, roedd 92% o'r cyfranogwyr yn ystyried bod y Cod naill ai'n eglur iawn neu'n eithaf eglur.
Roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda rhai yn tynnu sylw at y defnydd o iaith glir, strwythur y ddogfen, a'i fod yn cyd-fynd â’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda.
Disgrifiodd yr ymatebwyr y Cod fel un “cryno,” “manwl,” a “hawdd i’w lywio,” a’i fod yn nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau mewn ffordd syml.
Awgrymodd nifer o sylwadau y gallai'r Cod fynd ymhellach drwy gynnwys enghreifftiau ymarferol o'r hyn sy'n cyfrif fel ymddygiad derbyniol ac annerbyniol gan arsylwyr, yn enwedig ar gyfer arsylwyr newydd neu'r rhai o gefndiroedd rhyngwladol.
Teimlai lleiafrif fod termau penodol, fel “rhwystro’r broses etholiadol,” yn rhy agored i’w ddehongli ac y gallai eglurder fod o fudd trwy roi enghreifftiau o fywyd go iawn.
Ar y cyfan, mae'r adborth i'r ymgynghoriad yn awgrymu cefnogaeth i'r Cod drafft.
A oes gwybodaeth ar goll yn y Cod yr hoffech chi ei gweld wedi'i chynnwys?
Pan ofynnwyd iddynt a oedd unrhyw wybodaeth ar goll o'r Cod yr hoffent ei gweld wedi'i chynnwys, rhoddodd 57 o ymatebwyr adborth. Canolbwyntiodd eu hymatebion ar themâu cyffredin sef tryloywder, canllawiau ymarferol, effeithiolrwydd cyffredinol y Cod ac achredu a didueddrwydd gwleidyddol. Galwodd rhai ymatebwyr am eglurder ynghylch sut mae'r Comisiwn Etholiadol yn asesu didueddrwydd gwleidyddol wrth roi achrediad.
Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys amlinellu sut mae gweithgarwch ymgeiswyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei adolygu drwy’r broses gwirio cefndir, ac a allai awdurdodau lleol chwarae rhan wrth wirio didueddrwydd ymgeisydd. Nododd rhai ymatebion y dylai'r Cod egluro y gellir diddymu achrediad ar unwaith os bydd pryderon ynghylch didueddrwydd neu ymddygiad amhriodol yn codi, er mwyn sicrhau uniondeb o fewn y broses arsylwi.
Crybwyllwyd themâu hyfforddiant a chefnogaeth hefyd. Awgrymodd sawl ymatebydd y byddai cyflwyno hyfforddiant gorfodol neu hyfforddiant a argymhellir i arsylwyr, yn enwedig i'r rhai sy'n newydd i'r rôl, yn fuddiol. Gallai'r hyfforddiant hwn fod ar ffurf modiwlau dysgu ar-lein neu friffiau cyn etholiadau a gyflwynir gan Swyddogion Canlyniadau. Mae'r Comisiwn yn ystyried a ddylai'r cyntaf a'r olaf gael ei gyflwyno gan y Comisiwn ac yn ôl disgresiwn y Swyddogion Canlyniadau. Teimlai ymatebwyr y byddai mesurau o'r fath yn gwella parodrwydd arsylwyr, yn hyrwyddo cysondeb ar draws digwyddiadau etholiadol, ac yn sicrhau bod arsylwyr yn deall eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau'n llawn cyn mynychu gorsafoedd pleidleisio neu leoliadau cyfrif.
O ran canllawiau ymarferol, mae rhai ymatebwyr eisiau mwy o wybodaeth am lefel y mynediad a ganiateir i arsylwyr yn ystod gwahanol gamau'r broses etholiadol, gan gynnwys cyfrif pleidleisiau a dyfarnu pleidleisiau amheus. Awgrymwyd disgwyliadau pendant ynghylch ymddygiad, gydag enghreifftiau o fywyd go iawn o'r hyn a allai gael ei ystyried yn ymddygiad aflonyddgar, fel rhwystro mynediad, cwestiynu staff pleidleisio yn ormodol, neu fynychu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Mae rhywfaint o hyn wedi'i hidlo i'r ddogfen ganllawiau ddrafft i gyd-fynd â'r cod.
Roedd rhai ymatebwyr eisiau canllawiau ar sut y dylai arsylwyr gyflwyno eu hunain i staff wrth gyrraedd, ac yn bwysicach fyth, sut i gyfeirio problemau sy'n codi, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â heriau hygyrchedd i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae hyn bellach wedi'i gynnwys yn y ddogfen ganllawiau drafft.
Crybwyllwyd problemau ymddygiad ar-lein hefyd. Argymhellodd yr ymatebwyr ganllawiau yn amlinellu'n benodol yr hyn y gall arsylwyr ei bostio neu beidio ar y cyfryngau cymdeithasol wrth arsylwi digwyddiadau etholiadol.
Crybwyllwyd nifer o ymatebwyr pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd. Fe wnaethant gynnig cadw elfennau o God 2019, gan gynnwys caniatáu i arsylwyr grybwyll anghysondebau gyda swyddogion cyn gynted ag y byddant yn ymwybodol ohonynt, cynnal cofnodion clir o pryd y caiff mynediad ei gyfyngu neu ei atal, a chyhoeddi proses dryloyw ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau i ddiddymu achrediad. Mae'r awgrymiadau hyn wedi'u cynnwys yn y canllawiau drafft cyfredol.
Ar y cyfan, mae'r ymatebion yn dangos bod y Cod drafft wedi cael derbyniad da ond awgrymir bod angen mwy o eglurder ac enghreifftiau ymarferol i arwain arsylwyr mewn senarios bywyd go iawn. Mae'r adborth hwn yn atgyfnerthu'r syniad bod angen dogfen ganllaw ac o bosibl mwy o hyfforddiant i arsylwyr i ategu'r Cod.
Oes unrhyw beth yn y Cod nad ydych chi'n teimlo y dylai fod yno?
Pan ofynnwyd a oedd unrhyw beth yn y Cod na ddylid ei gynnwys, rhoddodd 49 o ymatebwyr sylwadau. Dywedodd y mwyafrif, (mwy na 95%) nad oedd dim yr oeddent yn teimlo y dylid ei ddileu. Cytunodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr fod yr adrannau a gynhwyswyd yn briodol.
Fodd bynnag, awgrymodd rhai y dylai'r Cod ei gwneud yn glir bod y gofyniad am ddidueddrwydd gwleidyddol yn berthnasol nid yn unig yn ystod gweithgarwch arsylwi ond drwy gydol cyfnod llawn yr achrediad.
Teimlai rhai y gellid llacio'r darpariaethau didueddrwydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymddygiad wrth arsylwi etholiadau'n weithredol, yn hytrach na'u cyfnod achredu cyfan. Nid oes unrhyw gynlluniau i symud i ffwrdd o'r gofyniad am ddidueddrwydd drwy gydol y cyfnod achredu cyfan.
Cynigiodd un ymatebydd hefyd y gallai’r Cod fod mewn dwy fersiwn ar wahân, un wedi’i theilwra ar gyfer arsylwyr unigol ac un arall ar gyfer sefydliadau er mwyn gwneud y ddogfen yn fwy hygyrch a pherthnasol i’w chynulleidfaoedd gwahanol. Gan nad oes unrhyw wahaniaethau yn statws na chaniatâd arsylwr, penderfyniad y Comisiwn yw nad oes angen Cod ar wahân.
Anogodd un ymatebydd yn benodol y Comisiwn Etholiadol i sicrhau bod y Cod yn parhau i fod yn gyson ag arfer gorau byd-eang ac yn cyd-fynd â'r Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Arsylwi Etholiadau Rhyngwladol.
Yn ogystal, awgrymodd rhai cyfranogwyr y dylai'r Comisiwn ddarparu adnoddau ychwanegol, megis canllawiau cyfeirio cyflym neu Gwestiynau Cyffredin, i gefnogi dealltwriaeth ymarferol o'r Cod gan arsylwyr. Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin wedi'i chreu ond nid yw ar gael ar ein gwefan eto hyd nes i ni glywed mwy gan grwpiau ffocws am gynllun a mynediad at y wefan. Y cynlluniau yw y bydd y broses hon o ddatblygu gwefan yn cael ei chwblhau a'i gweithredu mewn da bryd cyn etholiadau mis Mai 2026.
Crynodeb
Canmolodd yr ymatebwyr eglurder y Cod a nodwyd ei fod wedi'i ysgrifennu mewn iaith glir a hygyrch. Fe wnaethant hefyd groesawu ei fod yn cyd-fynd yn gryf â’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda, a'r ffordd y mae'n nodi cyfrifoldebau ac ymddygiad disgwyliedig arsylwyr.
Ar yr un pryd, awgrymwyd meysydd i'w gwella. Roedd y rhain yn cynnwys rhoi enghreifftiau o ymddygiad priodol ac amhriodol i helpu arsylwyr a swyddogion etholiadol i ddehongli'r Cod mewn senarios bywyd go iawn a mwy o ganllawiau ar ddidueddrwydd, gwiriadau achredu, a'r gweithdrefnau diddymu. Mae'r holl awgrymiadau hyn wedi cael eu hystyried, ac maent bellach wedi'u cynnwys yn y canllawiau ychwanegol drafft a ddarperir i arsylwyr.
Argymhellodd yr ymatebwyr hefyd gynnwys gwybodaeth gliriach am ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol a datblygu adnoddau hyfforddiant neu friffiau cyn etholiadau i arsylwyr, ynghyd ag egluro sut y dylid codi pryderon neu faterion a wynebir mewn gorsafoedd pleidleisio neu leoliadau cyfrif. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth o'r fath yn ein canllawiau ychwanegol drafft, ac fel bob amser, byddwn yn darparu seminarau i arsylwyr cyn digwyddiadau etholiadol mawr. Bydd y seminarau hyn yn helpu arsylwyr i ddeall disgwyliadau a chyfrifoldebau'r achrediad. Rydym wedi sicrhau ein bod yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud os oes angen codi pryderon.
Cynigiodd sawl cyfranogwr y dylai'r Comisiwn gyhoeddi “canllaw cryno i arsylwyr” neu ddogfen Cwestiynau Cyffredin i gyd-fynd â'r Cod, gan ei gwneud hi'n haws cyfeirio ato yn ymarferol. Mae'r ddau i fod ar gael yn 2026.