Penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost yn agos at etholiad
Os bydd etholwr sy’n gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad yn methu gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir penderfynu ar ei gais gan ddefnyddio’r broses eithriadau neu’r broses ardystio hyd at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio. Nid oes dyddiad cau yn y gyfraith ar gyfer penderfynu ar bleidleisiau post.
Fodd bynnag, er mai cyfrifoldeb y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw prosesu ceisiadau, mae'r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post a chynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio. Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost ar gyfer pob etholiad er mwyn sicrhau eich bod chi a’r Swyddog Canlyniadau yn gallu cyflawni eich dyletswyddau’n effeithiol.
Fel rhan o hyn, dylech chi a’r Swyddog Canlyniadau ystyried:
pwysigrwydd cefnogi etholwyr i allu pleidleisio yn y modd y maent wedi dewis, a rhoi gwasanaeth cyson i’r etholwyr i gyd
yr amser a gymerir i ddosbarthu pleidleisiau post mewn pryd iddynt gael eu derbyn a’u dychwelyd
y darpariaethau a’r amserlen ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post
yr angen i gynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio cywir a chyflawn cyn y diwrnod pleidleisio
Er y bydd y penderfyniad ynghylch beth fydd yn ymarferol yn fater i chi a’r Swyddog Canlyniadau perthnasol, rydym yn argymell na ddylai unrhyw derfyn amser ar gyfer penderfynu y byddwch yn ei osod fod yn gynharach na 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Canllaw yn unig yw’r argymhelliad hwn, nid yw’n ofynnol. Serch hynny, byddai’n eich galluogi i fodloni eich rhwymedigaeth i sicrhau bod y rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gael i'w harchwilio a’u hanfon at y Swyddog Canlyniadau (pan nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd), cyn gynted ag y bo’n ymarferol.1
Pa bynnag benderfyniadau a wnewch, mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i roi gwybod iddo.2
Mae ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad ceisiadau am bleidlais bost yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
2. Rheoliad 57 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'i diwygiwyd), Para 17 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 2