Penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at etholiad
Os bydd etholwr sy’n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad yn methu gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir penderfynu ar ei gais gan ddefnyddio’r broses eithriadau neu’r broses ardystio hyd at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio. Er mai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am brosesu ceisiadau, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am anfon gwybodaeth o ran dirprwyon. Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau a diweddariadau dilynol i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol.
1. Rheoliad 57 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd), Para 17 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 1