Dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU
Os ydych chi'n ddinesydd yr UE sy'n byw yn y DU, mae p'un a allwch chi bleidleisio mewn etholiad yn y DU yn dibynnu ar y math o etholiad rydych chi'n pleidleisio ynddo a'ch dinasyddiaeth.
Mae newidiadau wedi bod i'r etholiadau y gall dinasyddion yr UE bleidleisio ynddynt. Dysgwch fwy am newidiadau i hawliau pleidleisio.
I bleidleisio mewn unrhyw etholiad, mae'n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio. Rhagor o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio.
Gwiriwch pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt
Etholiadau Senedd y DU
Gall dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw.
Ni all holl ddinasyddion eraill yr UE bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol
Gall dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau cynghorau. Mae hyn oherwydd bod dinasyddion yr UE yn cael eu hystyried yn wladolion tramor cymwys.
Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i’r DU, neu i aros yno, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath. Mae hyn yn cynnwys dinasyddion yr UE.
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gallwch bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:
- Cyprus, Malta ac Iwerddon
- Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
- unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithlon yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
- Yr Almaen
- Awstria
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Yr Eidal
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Groeg
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Belg
- Hwngri
- Yr Iseldiroedd
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Mae cynghorau lleol ar hyn o bryd yn cysylltu â dinasyddion yr UE ynghylch eu hawl i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Dysgwch fwy am y broses a beth i'w wneud os bydd eich cyngor lleol yn cysylltu â chi.
Deall caniatâd i aros yn y DU
Mae pobl nad oes angen caniatâd arnynt i ddod i mewn neu i’r DU neu i aros yno yn bobl sydd wedi'u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn gov.uk.
O ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth, i berson fod â chaniatâd yn barhaus i ddod i mewn i’r DU neu aros yno:
- Mae’n rhaid bod y person wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU, neu aros yno, cyn 31 Rhagfyr 2020 ac,
- Yn parhau i ddal caniatâd i ddod i mewn neu aros ers 31 Rhagfyr 2020 heb unrhyw doriadau yn y caniatâd hwn.
Gallai hyn fod yn un math neu’n grant o statws mewnfudo am y cyfnod cyfan neu'n gyfres o grantiau neu fathau o statws mewnfudo.
O ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth, i berson nad yw wedi bod angen caniatâd yn barhaus i ddod i mewn i’r DU neu aros yno:
- Mae’n rhaid i’r person fod wedi’i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo cyn 31 Rhagfyr 2020 ac,
- Wedi parhau i gael ei eithrio rhag rheolaeth fewnfudo heb unrhyw doriadau yn ystod y cyfnod hwn.
O ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth, i berson fod wedi dal caniatâd yn barhaus i ddod i mewn i’r DU neu i aros yno, neu nad oedd ei angen arno:
- Mae’n rhaid i berson fod naill ai wedi dal caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yno, neu wedi’i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo cyn 31 Rhagfyr 2020 ac,
- Ers 31 Rhagfyr 2020 mae wedi parhau i fod â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yno neu mae wedi cael ei eithrio rhag rheolaeth fewnfudo heb unrhyw doriadau.
Gall y person fod wedi dal un math o statws mewnfudo neu fod wedi’i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo am y cyfnod cyfan, neu wedi dal sawl math gwahanol o statws mewnfudo.
Os rhoddwyd caniatâd i berson ddod i mewn neu aros tra'n preswylio yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yna caiff ei drin yr un fath â'r bobl hynny y rhoddwyd caniatâd iddynt aros yn y DU.