Newidiadau i ddinasyddion yr UE yn rhai o etholiadau’r DU
Mae cynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon wedi cwblhau eu hadolygiad ynghylch cymhwysedd dinasyddion yr UE i bleidleisio mewn rhai etholiadau yn y DU.
Darganfyddwch ragor am bleidleisio os ydych yn ddinesydd yn yr UE ac yn byw yn y DU
Bu newidiadau i’r etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt a sefyll fel ymgeisydd ynddynt. Mae hyn yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac maent wedi’u cyflwyno fel rhan o’r Ddeddf Etholiadau.
Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i'r etholiadau canlynol a gynhelir ar neu ar ôl 7 Mai 2024:
- Etholiadau lleol, etholiadau maerol ac etholiadau Cynulliad Llundain Fwyaf yn Lloegr
- Etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Byddwch ond yn gallu cofrestru, pleidleisio neu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau hyn os:
- rydych yn ddinesydd o Ddenmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu nad oes angen caniatâd arnoch
- rydych yn ddinesydd o unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Ni all dinasyddion yr UE bleidleisio na sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Senedd y DU.
Nid yw’r newidiadau yn berthnasol i:
- Etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau’r Alban.
- Etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.
Mae holl ddinasyddion yr UE yn dal yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau hyn.
Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar gymhwysedd dinasyddion Iwerddon, Cyprus a Malta. Gall dinasyddion y gwledydd hyn sy’n byw yn y DU gofrestru, pleidleisio a sefyll fel ymgeiswyr ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Mae gan y DU gytundebau ar y cyd â Denmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal a Sbaen. Gall dinasyddion y gwledydd hyn sy’n byw yn y DU bleidleisio o hyd a sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau’r DU (ac eithrio etholiadau Senedd y DU). Mae hefyd yn golygu bod unrhyw ddinasyddion y DU sy’n byw yn y gwledydd hyn yn gallu pleidleisio a sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau yn y wlad honno.
Os ydych yn ddinesydd un o’r gwledydd hyn ac wedi derbyn llythyr yn gofyn i chi ateb cwestiwn am eich statws mewnfudo:
- Cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.
- Cysylltwch â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Er mwyn gallu cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, mae angen i ddinasyddion gwledydd eraill yr UE fod:
- Yn ddinesydd o unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
‘Gwledydd eraill yr UE’ yw:
- Awstria
- Gwlad Belg
- Bwlgaria
- Croatia
- Gweriniaeth Tsiec
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Yr Almaen
- Groeg
- Hwngari
- Yr Eidal
- Latfia
- Lithwania
- Yr Iseldiroedd
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Os oes gennych ddinasyddiaeth o un o’r ‘gwledydd UE eraill’ hyn, ond mai dim ond ar ôl 31 Rhagfyr 2020 y cawsoch y ddinasyddiaeth honno, gallai hynny effeithio ar eich cymhwysedd i bleidleisio mewn rhai etholiadau ac efallai y bydd angen i chi ailgofrestru i bleidleisio.
Os ydych wedi derbyn llythyr yn gofyn i chi ateb cwestiwn am eich statws mewnfudo, ond bod gennych genedligrwydd deuol o un o 'wledydd eraill yr UE' yn ogystal â'r DU, Iwerddon, gwlad y Gymanwlad (gan gynnwys Cyprus neu Malta), Denmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Sbaen, mae angen i chi:
- Cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.
- Cysylltwch â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych wedi derbyn llythyr neu e-bost am eich cymhwysedd i bleidleisio
Mae cynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr a Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn adolygu cymhwysedd holl ddinasyddion yr UE sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn eu hardal.
Fel rhan o’r adolygiad hwn, maent yn cysylltu â holl ddinasyddion yr UE naill ai i:
- roi gwybod iddynt eu bod yn dal yn gymwys i bleidleisio yn rhai o etholiadau’r DU.
- dweud wrthynt nad ydynt yn siŵr a ydynt yn gymwys i bleidleisio yn rhai o etholiadau’r DU, a gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth a fydd yn cael ei defnyddio i gadarnhau a ydynt yn gymwys.
Os dywedir wrthych eich bod yn dal yn gymwys i bleidleisio gan eich cyngor lleol, os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu gan y Swyddfa Etholiadol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
Byddwch yn parhau i fod yn gymwys a gallwch bleidleisio mewn etholiadau sydd ar ddod yn eich ardal (ac eithrio etholiadau Senedd y DU).
Os gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth i gadarnhau eich cymhwysedd gan eich cyngor lleol, os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu gan y Swyddfa Etholiadol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Byddant yn gofyn i chi a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Dim ond gyda'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol y bydd eich ateb i'r cwestiwn hwn yn cael ei rannu.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae angen i chi naill ai:
- fynd i’r wefan gov.uk. Bydd manylion ar sut i fewngofnodi yn cael eu cynnwys yn y llythyr neu e-bost gan eich cyngor lleol
- cwblhau ffurflen bapur a'i dychwelyd i'ch cyngor lleol. Bydd y ffurflen hon yn cael ei chynnwys yn y llythyr neu e-bost gan eich cyngor lleol
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd y Swyddog Etholiadol yn ysgrifennu atoch gyda ffurflen bapur i chi ei chwblhau a'i dychwelyd.
Os byddwch yn cadarnhau nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd neu os nad ydych yn darparu’r manylion yn ôl y gofyn, ni fyddwch bellach yn gymwys i bleidleisio yn:
- Etholiadau lleol, etholiadau maerol ac etholiadau Cynulliad Llundain Fwyaf yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
Os byddwch yn ymateb i'r cais am wybodaeth a bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn dweud wrthych nad ydych bellach yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau a restrir uchod, mae gennych 14 diwrnod calendr i ofyn am wrandawiad os credwch fod hyn yn anghywir. Os na fyddwch yn gofyn am wrandawiad o fewn 14 diwrnod calendr, ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os na fyddwch yn ymateb i'r cais am wybodaeth am eich cymhwysedd neu i unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn penderfynu nad ydych bellach yn gymwys. Ni fydd gennych hawl i apelio nac i wrandawiad. Fodd bynnag, ni chewch eich atal rhag ailgofrestru i bleidleisio yn y dyfodol.
Os ydych wedi derbyn llythyr neu e-bost ond bod gan ddau berson yn eich cartref yr un enw
Os ydych wedi derbyn llythyr neu e-bost fel rhan o’r adolygiad, ond bod dau berson yn eich cartref gyda’r un enw, mae angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os rydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd yn y llythyr neu’r e-bost.
Os ydych wedi cael dinasyddiaeth newydd neu wedi newid eich cenedligrwydd
Os ydych wedi cael dinasyddiaeth newydd neu wedi newid eich cenedligrwydd ers i chi gofrestru i bleidleisio ddiwethaf, dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu rhowch wybod i Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall y newidiadau i'ch dinasyddiaeth neu genedligrwydd effeithio ar eich cymhwysedd i bleidleisio mewn rhai etholiadau ac efallai y bydd angen i chi ailgofrestru i bleidleisio.
Gallwch roi gwybod i’ch cyngor lleol neu Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon drwy:
- Gysylltu â’ch cyngor lleol os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr neu Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol trwy roi eich cod post yn ein chwilotydd.
- Cyflwyno cais newydd i gofrestru i bleidleisio os ydych yn dal yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau Lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
- Rhoi gwybod i'ch cyngor lleol,os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon am y newidiadau i'ch dinasyddiaeth neu genedligrwydd pan fyddant yn cysylltu â chi i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol.
Deall caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig
Y bobl nad oes angen caniatâd arnyn nhw i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig yw’r bobl sydd wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn gov.uk.
Er mwyn i rywun fod â chaniatâd yn barhaus i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, o ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth:
- Rhaid iddyn nhw fod wedi bod â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig cyn 31 Rhagfyr 2020, a
- Rhaid iddyn nhw barhau i fod â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yno ers 31 Rhagfyr 2020 heb unrhyw doriadau yn y caniatâd hwn.
Gallai hyn fod yn un caniatâd neu’n un math o statws mewnfudo am y cyfnod cyfan, neu’n gyfres o ganiatâd neu fathau o statws mewnfudo.
O ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth, er mwyn i rywun beidio â bod angen caniatâd yn barhaus i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig:
- Rhaid iddyn nhw fod wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo cyn 31 Rhagfyr 2020, a
- Rhaid iddyn nhw barhau i fod wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo heb unrhyw doriadau yn ystod y cyfnod hwn.
O ran hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth, er mwyn i rywun fod â chaniatâd yn barhaus i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig neu i beidio â bod angen caniatâd:
- Rhaid eu bod naill ai wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig neu eu bod wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo cyn 31 Rhagfyr 2020, ac
- Ers 31 Rhagfyr 2020, rhaid eu bod wedi parhau i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig neu eu bod wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo heb unrhyw doriadau. Gall y person fod wedi dal un math o statws mewnfudo neu fod wedi’u heithrio rhag rheolaeth fewnfudo am y cyfnod cyfan, neu fod wedi dal sawl math gwahanol o statws mewnfudo.
Os rhoddwyd caniatâd i unigolyn ddod i mewn neu i aros tra roedden nhw’n preswylio yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yna cânt eu trin yr un fath â’r bobl hynny y rhoddwyd caniatâd iddyn nhw i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig.