Pleidleisio'n bersonol
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru
I bleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ddydd Iau 4 Gorffennaf bellach wedi mynd heibio.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut mae gwneud cais
Eich gorsaf bleidleisio
Pan fyddwch yn pleidleisio’n bersonol, byddwch yn mynd i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i chi yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.
Cyn i chi fynd i bleidleisio, gwiriwch ym mha le y mae eich gorsaf bleidleisio. Efallai na fydd yr orsaf bleidleisio agosaf i chi, a gallai fod wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio. Bydd rhaid i chi fynd i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i chi, ac ni allwch fynd i un arall sy’n nes at eich gweithle, er enghraifft.
Bydd eich gorsaf bleidleisio wedi ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio, y byddwch yn ei dderbyn trwy’r post ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.
Os ydych yn pleidleisio mewn etholiad lle mae angen ID ffotograffig, gwnewch yn siŵr fod gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir neu eich Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr gyda chi cyn i chi fynd i’r orsaf bleidleisio.
Dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio
Rhowch eich cod post i ddarganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio.
Bydd eich gwybodaeth gorsaf bleidleisio ar gael oddeutu pythefnos cyn y diwrnod pleidleisio. Bydd eich gorsaf bleidleisio hefyd wedi ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio.
ID Pleidleisiwr
O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Dysgwch ragor am ba etholiadau y bydd angen ID ffotograffig arnoch yng Nghymru, mathau o ID ffotograffig a dderbynnir, a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy’n rhad ac am ddim.
Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.
Amseroedd agor
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
Gallant fod yn llefydd prysur, yn enwedig tua diwedd y dydd. Os oes ciw yn eich gorsaf bleidleisio, byddwch yn dal yn cael pleidleisio os gwnaethoch ymuno â’r ciw cyn 10pm.
Os oes angen help arnoch i gyrraedd eich gorsaf bleidleisio, gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol.
Rhifwyr
Efallai y byddwch yn gweld pobl yn aros y tu fas i’r orsaf bleidleisio.
Gelwir y bobl hyn yn ‘rhifwyr’, ac maent yn gwirfoddoli ar ran ymgeiswyr. Maent yn defnyddio’r wybodaeth y mae pobl yn ei rhoi iddynt i wirio pwy sydd wedi pleidleisio, ac atgoffa pobl sydd heb bleidleisio i wneud felly.
Cânt fod yno a gofyn am y wybodaeth hon, ond nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth iddynt os nad ydych yn dymuno.
Os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad rhifwr, siaradwch ag aelod o staff yr orsaf bleidleisio.
Cyfarchwyr mewn gorsafoedd pleidleisio
Rydym yn ymwybodol y gall staff sy'n gweithio fel cyfarchwyr gael eu defnyddio mewn rhai gorsafoedd pleidleisio i groesawu pleidleiswyr, eu hatgoffa am yr angen i ddangos ID ffotograffig, a helpu i gyflymu'r broses bleidleisio.
Rhagor o wybodaeth am gyfarchwyr
Sut mae pleidleisio’n bersonol
- Gwiriwch ble mae’ch gorsaf bleidleisio ac ewch i bleidleisio rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
- Pan fyddwch yn cyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd aelod o staff yn gofyn i chi am eich enw ac yn gwirio eich bod ar y gofrestr etholiadol.
- O 4 Mai 2023 ymlaen, os ydych yn pleidleisio mewn etholiad lle mae angen ID ffotograffig, bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio. Byddant yn gofyn i gael gweld eich ID, gwirio ei fod wedi’i dderbyn a’i fod yn edrych yn debyg i chi. Bydd man preifat ar gael os byddwch yn dewis cael eich ID ffotograffig wedi’i weld yn breifat. Gall hwn fod yn ystafell ar wahân, neu’n ardal sydd wedi’i gwahanu gan sgrin preifatrwydd, yn dibynnu ar yr orsaf bleidleisio.
- Bydd yr aelod o staff yn croesi’ch enw oddi ar y gofrestr ac yn rhoi papur pleidleisio i chi sy’n rhestru’r ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt. Efallai y rhoddir mwy nag un papur pleidleisio i chi os oes mwy nag un etholiad yn cael ei gynnal yn eich ardal leol ar yr un diwrnod.
- Ewch â’ch papur (neu bapurau) pleidleisio i fwth pleidleisio er mwyn i chi allu bwrw eich pleidlais yn gyfrinachol.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio yn ofalus. Mae rhai etholiadau’n defnyddio dulliau pleidleisio gwahanol, felly bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn llenwi pob papur pleidleisio yn gywir.
- Llenwch eich papur pleidleisio gan ddefnyddio’r pensil a ddarperir yn y bwth pleidleisio. Gallwch hefyd ddefnyddio eich pen eich hun os dymunwch. Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
- Os gwnewch gamgymeriad, peidiwch â rhoi eich papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio. Gofynnwch i staff yr orsaf bleidleisio am bapur pleidleisio arall a llenwch i eto.
- Pan fyddwch wedi gorffen, plygwch eich papur pleidleisio wedi’i llenwi a’i rhoi yn y blwch pleidleisio.
Gorchuddion wyneb
Os ydych chi'n gwisgo gorchudd wyneb am unrhyw reswm, fel mwgwd a wisgir ar sail feddygol neu fêl a wisgir ar sail grefyddol, gofynnir i chi ei dynnu fel y gall staff yr orsaf bleidleisio wirio bod eich ID yn edrych fel chi.
Gallwch ofyn i'ch ID gael ei wirio yn breifat. Gallwch hefyd ofyn i aelod benywaidd o staff wirio eich ID. Caniateir y cais hwn os yn bosibl.
Bydd drych ar gael yn yr orsaf bleidleisio i'ch galluogi i ailosod eich gorchudd wyneb unwaith y bydd eich ID wedi'i wirio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bleidleisio yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio efallai y byddwch am gysylltu â'ch Swyddog Canlyniadau i drafod hyn. Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddog Canlyniadau yma.
Tynnu lluniau
Ni chewch dynnu lluniau y fu fewn i’r orsaf bleidleisio, gan y gallai beryglu cyfrinachedd y bleidlais.
Croeso i chi dynnu lluniau tu fas i’r orsaf bleidleisio a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eich ffrindiau a theulu i bleidleisio.
Mewn cyfraith etholiadol, caiff papurau pleidleisio drwy’r post eu hystyried yn wahanol i bapurau pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, felly gall pleidleiswyr gymryd ffoto o’u papur pleidleisio drwy’r post eu hunain a’i gyhoeddi (gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol) os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Dewis personol y pleidleisiwr yw p’un a ydynt am dynnu ffoto o’u papur pleidleisio a’i rhannu. Mae hi’n drosedd perswadio neu annog person arall i rannu ffoto o’u papur pleidleisio drwy’r bost.
Os caiff eich ID ffotograffig ei wrthod
Os ewch i orsaf bleidleisio heb fath o ID ffotograffig a dderbynnir, gofynnir i chi ddychwelyd gyda math o ID ffotograffig a dderbynnir.
Bydd gorsafoedd pleidleisio yn arddangos y rhestr o ID ffotograffig a dderbynnir a bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn cael eu hyfforddi ar ba fathau o ID a dderbynnir. Os ydych o’r farn bod eich ID wedi'i wrthod ar gam, dylech hysbysu'r Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio. Os na fydd hyn yn datrys y mater, gallwch godi eich pryderon gyda'r Swyddog Canlyniadau. Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddog Canlyniadau yma.
Er na allwch apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddog Llywyddu i wrthod rhoi papur pleidleisio os ydyw wedi gwrthod math penodol o ID, gallwch ddychwelyd i’r orsaf bleidleisio gyda math gwahanol o ID yn hwyrach yn y dydd ac ailymgeisio am bapur pleidleisio.
Bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn cwblhau ffurflen i gofnodi nad oedd modd rhoi papur pleidleisio, a’r rheswm pam.
Bydd cyfanswm y pleidleiswyr a ddychwelodd yn hwyrach gyda math o ID a dderbynnir ac y rhoddwyd papur pleidleisio iddynt hefyd yn cael ei gofnodi.
Gofyn am help
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, neu os oes angen unrhyw help arnoch, gofynnwch i staff yr orsaf bleidleisio - byddant yn hapus i’ch helpu i fwrw eich pleidlais.
Mae yna nifer o beth y gall staff yr orsaf bleidleisio eu gwneud i’ch helpu i fwrw eich pleidlais, gan gynnwys rhoi papur pleidleisio print bras enghreifftiol i chi, a dyfais pleidleisio gyffyrddol os oes nam ar eich golwg.
Os dymunwch, gallwch fynd â’ch ffôn i’r bwth pleidleisio i ddefnyddio chwyddwr testun neu apiau lleferydd-i-destun, neu olau’r ffôn i wella’r goleuo. Wrth ddefnyddio eich ffôn, peidiwch â chymryd unrhyw luniau y tu fewn i’r orsaf bleidleisio.
Gallwch hefyd ofyn i staff yr orsaf bleidleisio eich helpu chi, neu fe allwch ddod â rhywun gyda chi. Os dewch â rhywun gyda chi i’ch helpu yn etholiadau’r Senedd, mewn etholiadau lleol ac yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen iddynt fod yn 16 oed ac yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad. Ar gyfer etholiadau cyffredinol, gan gynnwys deisebau adalw, gall unrhyw un dros 18 oed ddod gyda chi i’ch helpu i fwrw’ch pleidlais. Does dim angen iddynt fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw.
Ymgyrchu ar y diwrnod pleidleisio
Nid oes rheolau sy’n dweud na all ymgyrchu ddigwydd ar y diwrnod pleidleisio.
Fodd bynnag, ni ddylai ymgyrchu ddigwydd o fewn yr orsaf bleidleisio ei hunan, a rhaid i ymgyrchwyr beidio â rhwystro ffordd pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio.
Dysgwch am ddeunydd ymgyrchu ac ymgyrchu ar y diwrnod pleidleisio
Mae’n drosedd dylanwadu ar rywun i bleidleisio mewn ffordd benodol trwy eu bygwth neu drwy ddefnyddio dylanwad gormodol.
Os oes gennych bryder am rywbeth, cysylltwch â’r tîm etholiadau yn eich cyngor lleol. Os oes gennych dystiolaeth bod trosedd wedi digwydd, cysylltwch â’r heddlu neu Crimestoppers. Darganfyddwch ragor am dwyll etholiadol, sy’n cynnwys dylanwadu ar rywun i bleidleisio mewn ffordd benodol.