Senedd y DU
Ar y dudalen hon cewch wybod rhgaor am y Senedd y DU, gan gynnwys:
Yma ceir rhagor o wybodaeth am Senedd y DU, gan gynnwys ei gyfansoddiad a chwmpas ei gyfrifoldebau.
Beth mae Senedd y DU yn ei wneud?
Mae Senedd y DU yn cynrychioli pobl y Deyrnas Unedig. Mae'n gwneud penderfyniadau ac yn deddfu am nifer o faterion sy'n effeithio arnoch.
Beth yw ei gyfansoddiad?
Mae Senedd y DU yn cynnwys dau 'Dŷ' - Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Tŷ'r Cyffredin
Mae gan Dŷ'r Cyffredin 650 Aelod Seneddol (ASau). Mae pob AS yn cynrychioli rhan o'r DU a elwir yn 'etholaeth' neu'n 'sedd'. Mae ASau yn trafod materion gwleidyddol cyfredol a chynigion ar gyfer cyfreithiau newydd.
Darganfod rhagor am Dŷ'r Cyffredin
Tŷ'r Arglwyddi
Mae gan Dŷ'r Arglwyddi oddeutu 700 o aelodau anetholedig sy'n craffu ar waith Tŷ'r Cyffredin.
Cyn 1999, roedd Tŷ'r Arglwydd yn cynnwys yn bennaf arglwyddi etifeddol a oedd yn etifeddu eu teitl drwy eu teulu. Ar ôl 1999, mae'r mwyafrif o Arglwyddi bellach yn 'arglwyddi oes'. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu penodi am eu gwybodaeth neu eu profiad mewn maes arbennig, ond nid ydynt yn trosglwyddo eu teitl.
Darganfod rhagor am Dŷ'r Arglwyddi
Sut mae'n cael ei ethol?
Etholir Senedd y DU trwy etholiad cyffredinol Seneddol y DU.
Mewn etholiad cyffredinol bydd gennych un bleidlais i ddewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.
Daw'r mwyafrif yr ymgeiswyr o bleidiau gwleidyddol, ond ceir hefyd ymgeiswyr annibynnol.
Ar ôl etholiad cyffredinol, bydd y Frenhines yn gofyn i arweinydd y blaid gyda'r mwyaf o ASau i fod yn Brif Weinidog a ffurfio llywodraeth. Bydd arweinydd y blaid gyda'r ail nifer fwyaf o ASau yn dod yn Arweinydd yr Wrthblaid.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
I bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU mae angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio, a hefyd:
- yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu ddinesydd cymwys y Gymanwlad
- bod yn byw mewn cyfeiriad yn y DU (neu'n ddinesydd y DU sy'n byw dramor sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio yn y DU neu sydd wedi byw yn y DU yn flaenorol)
- heb eich eithrio'n gyfreithiol rhag pleidleisio
Ni all y canlynol bleidleisio mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU:
- aelodau Tŷ'r Arglwyddi
- Dinasyddion yr UE (heblaw y rheiny o'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta) sy'n byw yn y DU
- unrhyw un heblaw dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad
- personau euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd, ac eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remánd, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesig bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- unrhyw sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyfreithlon mewn perthynas ag etholiad
Darganfod rhagor am bwy sy'n gymwys i bleidleisio
Dod o hyd i’ch ymgeiswyr
Chwilio am yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn eich ardal? Rhowch eich cod post i weld rhestr. Bydd eich ymgeiswyr ar gael ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.