Summary of what we analyse

Our analysis looks at key data relating to entries on the electoral registers, such as the number of entries, attainers, additions and deletions. It also looks at the results of the annual canvass activities that electoral registration officers at local councils carry out each year.

Details of our analysis

Roedd cofrestr etholiadol y DU ar ei huchaf erioed ym mis Rhagfyr 2017 yn dilyn refferendwm yr UE yn 2016 ac Etholiad Cyffredinol mis Mehefin 2017, gyda 47.9 miliwn o etholwyr ar y gofrestr llywodraeth leol a 46.1 miliwn ar y gofrestr seneddol.

Ar y cyfan, mae gostyngiad o 0.8% yn nifer y bobl ar gofrestr seneddol y DU a gostyngiad o 0.3% ar gofrestr etholiadol llywodraeth leol rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Rhagfyr 2018. Mae hyn yn dilyn dwy flynedd lle mae maint y cofrestrau wedi cynyddu – er mai dim ond cynnydd bach a gafwyd rhwng mis Rhagfyr 2016 a 2017 pan gynyddodd cofrestr seneddol y DU 0.8% a chofrestr llywodraeth leol 1.2%.

Newidiadau canrannol cenedlaethol rhwng 2017 a 2018

Lloegr

  • Etholwyr seneddol – gostyngiad o 0.8%
  • Etholwyr llywodraeth leol – gostyngiad o 0.3%

Yr Alban

  • Etholwyr seneddol – gostyngiad o 0.6%
  • Etholwyr llywodraeth leol – gostyngiad o 0.4%

Cymru

  • Etholwyr seneddol – gostyngiad o 1.4%
  • Etholwyr llywodraeth leol – gostyngiad o 1.2%

Gogledd Iwerddon

  • Etholwyr seneddol – cynnydd o 0.5%
  • Etholwyr llywodraeth leol – cynnydd o 0.6%

Yn gyffredinol, gellir esbonio'r newidiadau yn nifer yr etholwyr cofrestredig mewn ardal drwy'r canlynol:

  • Newid ym maint y boblogaeth sy'n gymwys i bleidleisio. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i fudo rhyngwladol, mudo mewnol, pobl ifanc yn dod yn ddigon hen i bleidleisio a phobl sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn marw.
  • Newid yng nghyfran y boblogaeth gymwys sy'n cofrestru i bleidleisio. Gallai hyn ddigwydd o ganlyniad i ganfasio gwell gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol ymwybyddiaeth y cyhoedd o 'gofrestru pleidleiswyr', etholiad diweddar neu o ganlyniad i gynnydd yn niddordeb y cyhoedd yn y darlun gwleidyddol.
  • Newid yn niffiniad cymhwysedd. E enghraifft, yn 2015 cafodd oedran pleidleisio yn yr Alban ei ostwng er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau Llywodraeth Leol a Senedd yr Alban.

Mae dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar ystadegau poblogaeth y DU yn dangos y gallai newidiadau i'r boblogaeth fod yn ysgogi'r lleihad yn nifer yr etholwyr eleni hefyd. Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod marwolaethau ledled y DU wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, a bod nifer y bobl ifanc 18 oed hefyd wedi lleihau gan arwain at gynnydd cyffredinol yn llif y bobl sy'n cael eu tynnu oddi ar y gofrestr.

Tabl 1: Nifer yr etholwyr ar y gofrestr seneddol a'r gofrestr llywodraeth leol

Lloegr

Cofrestr 2014 2015 2016 2017 2018
Lleol 39,184,984 38,696,091 39,756,852 40,246,635 40,133,379
Seneddol 37,831,553 37,399,942 38,386,864 38,693,859 38,371,414

Yr Alban

Cofrestr 2014 2015 2016 2017 2018
Lleol 4,131,926 4,029,958 4,089,477 4,121,140 4,105,824
Seneddol 4,035,394 3,896,852 3,929,963 3,950,643 3,925,820

Cymru

Cofrestr 2014 2015 2016 2017 2018
Lleol 2,254,219 2,207,980 2,270,441 2,291,280 2,264,719
Seneddol 2,225,749 2,181,841 2,243,919 2,261,233 2,230,104

Gogledd Iwerddon

Cofrestr 2014 2015 2016 2017 2018
Lleol 1,257,034 1,270,696 1,233,926 1,273,434 1,281,576
Seneddol 1,232,382 1,243,369 1,205,683 1,242,300 1,248,420

DU

Cofrestr 2014 2015 2016 2017 2018
Lleol 46,828,163 46,204,725 47,350,696 47,932,489 47,785,498
Seneddol 45,325,078 44,722,004 45,766,429 46,148,035 45,775,758

 

Mae Cofrestrau Etholiadol yn cynnwys pobl a fydd yn cyrraedd 16 neu 18 oed (yn dibynnu ar etholfraint ar gyfer etholiad) yn ystod cylch oes y gofrestr (rhwng 2 Rhagfyr 2018 a 30 Tachwedd 2019). Cyfeirir at y grŵp hwn fel cyrhaeddwyr.

Mae nifer y cyrhaeddwyr ar y gofrestr seneddol a'r gofrestr llywodraeth leol yn parhau i ostwng. Gwelwyd gostyngiad o 4.2% yn nifer y cyrhaeddwyr ar gofrestrau seneddol y DU a gostyngiad o 3.8% ar gofrestrau llywodraeth leol.

Dim ond Cymru a welodd gynnydd bach yn nifer y cyrhaeddwyr gyda chynnydd o 1% o gymharu â'r llynedd ar gyfer y ddwy gofrestr.

Yn yr Alban, lle gall pobl ifanc 16 oed bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau senedd yr Alban, gellir ychwanegu cyrhaeddwyr at y gofrestr llywodraeth leol yn 14 oed. Mae cofrestr llywodraeth leol yr Alban felly yn dangos nifer uwch o lawer o gyrhaeddwyr na chofrestr senedd yr Alban.

Tabl 2: Nifer y cyrhaeddwyr ar gofrestr seneddol y DU a chofrestr llywodraeth leol

DU 2014 2015 2016 2017 2018
Nifer y cyrhaeddwyr ar y gofrestr Seneddol 312,990 281,535 344,734 325,851 312,756
Nifer y cyrhaeddwyr ar y gofrestr llywodraeth leol 319,577 283,936 334,275 313,785 302,306

 

Newidiadau canrannol cenedlaethol mewn cyrhaeddwyr rhwng 2017 a 2018

Lloegr

  • Cofrestr seneddol – gostyngiad o 4.3%
  • Cofrestr llywodraeth leol – gostyngiad o 4.1%

Yr Alban

  • Cofrestr seneddol – gostyngiad o 5%
  • Cofrestr llywodraeth leol – gostyngiad o 2.7%

Cymru

  • Cofrestr seneddol – cynnydd o 1.2%
  • Cofrestr llywodraeth leol – cynnydd o 1%

Gogledd Iwerddon

  • Cofrestr seneddol – gostyngiad o 5.9%
  • Cofrestr llywodraeth leol – gostyngiad o 5.9%

Tabl 3: Nifer y cyrhaeddwyr ar gofrestr seneddol y DU a chofrestr llywodraeth leol

  Lloegr Yr Alban Cymru Gogledd Iwerddon
Nifer y cyrhaeddwyr ar y gofrestr Seneddol 257,938 41,296 12,948 574
Nifer y cyrhaeddwyr ar y gofrestr llywodraeth leol 268,396 20,232 13,127 574

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer dinasyddion y DU sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Gwelwyd cynnydd o 144% yn y categori hwn o etholwyr rhwng mis Rhagfyr 2015 a mis Rhagfyr 2016 ond dechreuodd ostwng erbyn mis Rhagfyr 2017 (gostyngiad o 17.8% o gymharu â 2016). Ym mis Rhagfyr 2018, cafwyd gostyngiad pellach o 81% gyda nifer yr etholwyr tramor bellach yn llai na hanner y maint yr oedd ym mis Rhagfyr 2016. Roedd etholwyr tramor yn cyfrif am 0.3% o gyfanswm etholaeth seneddol Prydain Fawr.

Gan nad oedd unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio cenedlaethol yn ystod 2018, mae'n debygol nad yw llawer o bleidleiswyr tramor wedi ailgofrestru, am fod eu cyfnod cofrestru o 12 mis yn dod i ben.

Etholwyr tramor: Y rheini nad ydynt yn preswylio yn y DU, ond sydd wedi bod yn breswylwyr yma ac wedi cael eu cynnwys ar y Gofrestr Etholiadol o fewn cyfnod o 15 mlynedd o ddyddiad cymwys y gofrestr gyfredol (neu wedi bod yn breswylwyr yma ond yn rhy ifanc i gofrestru ar y pryd). Maent wedi'u cofrestru yn yr un etholaeth seneddol â'r un roeddent ynddi cyn iddynt fynd dramor neu, os oeddent yn rhy ifanc i gofrestru, yn yr etholaeth lle roedd eu rhiant neu warcheidwad wedi'i gofrestru. Ni all etholwyr tramor bleidleisio mewn etholiadau Llywodraeth Leol nac etholiadau Senedd yr Alban, ond maent yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Senedd Ewrop.

Tabl 4: Nifer yr etholwyr tramor ar gofrestr seneddol y DU

  2015 2016 2017 2018
Nifer yr etholwyr tramor ar gofrestr seneddol y DU yng Nghymru, Lloegr a'r Alban 108,241 263,894 255,472 124,190

 

Gwnaeth nifer yr etholwyr dienw yng Nghymru a Lloegr godi eto eleni i 2658, er mai dim ond cyfran fach o'r rhai sydd â hawl i bleidleisio yw hyn. Mae'r ffigur hwn wedi mwy na dyblu ers 2010 pan oedd yn 1308.

Gall pobl sy'n bodloni rhai gofynion penodol, y mae eu diogelwch hwy, neu ddiogelwch rhywun yn yr un cartref, mewn perygl, gofrestru'n ddienw.  Mae gan bobl a gaiff eu cofrestru'n ddienw god ar y gofrestr etholiadol yn hytrach na'u henw a'u cyfeiriad.

  2010 2014 2015 2016 2017 2018
Nifer yr etholwyr dienw ar y gofrestr Seneddol 1308 1861 2225 2268 2525 2658