Pobl heb gyfeiriad sefydlog

We're showing you content for:

Darganfod rhagor am bleidleisio heb gyfeiriad sefydlog

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio heb gyfeiriad penodol.

Gallwch gofrestru i bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog

Gallwch gofrestru i bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gyfeiriad sefydog. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn un o'r canlynol:

  • Claf mewn ysbyty iechyd meddwl
  • Digartref
  • Llongwr masnachol
  • Yn rhan o'r gymuned sipsiwn neu deithwyr
  • Yn byw ar gwch neu lety symudol arall
  • Person wedi'i gadw yn y ddalfa

Os ydych yn aros mewn cyfeiriad am gyfnod estynedig, yna gellir ystyried eich bod yn preswylio yno ac felly gallwch gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw. Gallai hyn fod yn ysbyty, hostel, cyfleuster carchar neu fan tebyg.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gallwch gofrestru ar-lein trwy gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Datganiad o gysylltiad lleol

Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol, gallwch gofrestru mewn cyfeiriad lle'r ydych yn treulio rhan sylweddol o'ch amser, lle mae gennych gysylltiad penodol. Gallai hyn fod yn gyfeiriad parhaol blaenorol, lloches neu fan tebyg.

Gallwch gofrestru drwy lenwi ffurflen o'r enw 'Datganiad o gysylltiad lleol'. Gallwch lawrlwythno ffurflen cofrestru i bleidleisio. Mae tair ffurflen - un ar gyfer pobl yn Lloegr, Cymru, a’r Alban. Neu gallwch gael y ffurflen hon o'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol.

Dewch o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa cofrestru etholiadol leol.

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth fanwl sy'n berthnasol i chi isod.