Y broses ardystio ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost

Y broses ardystio ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost

Os bydd angen dilysu dynodyddion personol mewn cais am bleidlais bost, ac nad yw ymgeisydd wedi gallu darparu'r mathau o dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol gan y broses eithriadau, neu ddigon o'r mathau hynny, er mwyn cadarnhau pwy ydyw, dylech ysgrifennu ato yn gofyn iddo ddarparu ardystiad i ategu ei gais.

Ar gyfer ceisiadau a wneir gan etholwyr domestig, dylech roi gwybod i'r ymgeisydd am y canlynol: 

  • y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ardystiad 
  • y gall ei gais gael ei wrthod os na fydd yn ei ddarparu, neu'n gwrthod gwneud hyn 

Mae'n rhaid i'r ardystiad:1

  • gadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais 
  • bod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan yr ardystiwr cymwys
  • nodi enw llawn, dyddiad geni, galwedigaeth a chyfeiriad preswyl yr ardystiwr cymwys a'r cyfeiriad lle mae wedi'i gofrestru fel etholwr (os yw'n wahanol)
  • nodi rhif etholiadol yr ardystiwr cymwys (os nad yw wedi'i gofrestru fel etholwr tramor) neu ei rif cofrestru digidol os yw'r ardystiwr cymwys wedi'i gofrestru mewn cyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon
  • cynnwys rhif pasbort Prydeinig yr ardystiwr ynghyd â'i ddyddiad a'r man lle cafodd ei gyhoeddi, os yw'r ardystiwr cymwys wedi'i gofrestru fel etholwr tramor
  • cynnwys esboniad bod yr ardystiwr cymwys yn gallu cadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r person a enwir yn y cais, ei gysylltiad â'r ymgeisydd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) hyd y cysylltiad hwnnw
  • nodi bod yr ardystiwr cymwys yn ymwybodol bod darparu gwybodaeth ffug i'r swyddog cofrestru yn drosedd
  • cynnwys datganiad gan yr ardystiwr cymwys bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr ardystiad yn wir
  • nodi'r dyddiad y gwnaed yr ardystiad 

Gallech naill ai ddylunio ffurflen yn cynnwys y datganiadau a'r gofynion cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer ardystiad neu nodi'r manylion pan fyddwch yn cysylltu â'r ymgeisydd.

Dylech hefyd ddarparu enghreifftiau o rywun ac iddo enw da er mwyn helpu'r ymgeisydd i ddewis ardystiwr addas. Dylech gynghori'r ymgeisydd na chaniateir i ardystiwr godi tâl am ddarparu ardystiad.

Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cynnwys gwybodaeth am sut i benderfynu a yw ardystiad yn ddilys.

Os oes angen y bleidlais bost ar gyfer etholiad sydd ar ddod, dylech annog yr ymgeisydd i ddarparu'r ardystiad i chi cyn gynted â phosibl. Os oes angen y bleidlais bost ar gyfer etholiad sydd i ddod, dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) i gynllunio sut byddwch yn cydlynu sut y caiff pecynnau pleidleisiau post eu pennu a’u hanfon wedyn ar gyfer yr etholiad hwnnw. Mae ein canllawiau ar benderfynu ar gais yn agos at y dyddiad cau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.  

Gellir cyflwyno ardystiad i'ch swyddfa â llaw, drwy'r post neu drwy ddull electronig, megis e-bost. Os caiff yr ardystiad ei anfon yn electronig, rhaid i lofnod ardystiwr gael ei atodi i e-bost fel llun o lofnod inc wedi'i ysgrifennu â llaw. 

Mae'n ofynnol i'r ardystiwr roi ei rif etholiadol fel rhan o'i ardystiad.2  Dylech fod yn ymwybodol y bydd darpar ardystwyr o bosibl yn gofyn i chi am y wybodaeth hon a dylech fod yn barod i ymdopi â cheisiadau o'r fath yn ymarferol.


Mae ymgeisydd wedi'i gofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth fel aelod o'r lluoedd arfog

Nid oes proses eithriadau ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth fel aelod o'r lluoedd arfog. Os bydd ymgeisydd am bleidlais bost wedi'i gofrestru drwy ddatganiad gwasanaeth a bod angen tystiolaeth ychwanegol arnoch i gadarnhau pwy ydyw dylech ysgrifennu at yr unigolyn a gofyn iddo ddarparu ardystiad i gefnogi ei gais. 
 

Mae'n rhaid i'r ardystiad:3

  • Gadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais, 
  • Bod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan un o swyddogion y lluoedd arfog (yn unol ag ystyr adran 59(1) o Ddeddf 1983) nad yw'n briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn dad-cu/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr/wyres i'r ymgeisydd,
  • nodi enw llawn, cyfeiriad a rheng y sawl sy'n llofnodi'r ardystiad a'r gwasanaeth (boed yn y llynges, yn y fyddin neu yn y llu awyr) y mae'n rhan ohono; a
  • nodi'r dyddiad y gwnaed yr ardystiad.
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023