Y broses eithriadau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy (Ar ôl y dyddiad cychwyn)

Y broses eithriadau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy (Ar ôl dyddiad cychwyn mesurau'r Ddeddf Etholiadau)

I gefnogi'r broses o ddilysu dynodyddion personol (rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni) ar gyfer etholwyr domestig, mae'n bosibl y bydd angen tystiolaeth ddogfennol ychwanegol arnoch mewn perthynas â'u cais. 

Dylech eu hysbysu o'r canlynol:

  • y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol ychwanegol 
  • y gall eu cais gael ei wrthod os na fyddant yn darparu'r dystiolaeth ychwanegol, neu'n gwrthod gwneud hyn

Os oes angen y bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad sydd i ddod, dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) i gydlynu sut y caiff ceisiadau eu pennu ac wedyn y diweddariadau i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidlais absennol ar gyfer yr etholiad hwnnw. Mae ein canllawiau ar benderfynu ar geisiadau yn agos at y dyddiad cau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.

Os bydd ymgeisydd am bleidlais drwy ddirprwy yn etholwr categori arbennig a bod angen tystiolaeth ychwanegol arnoch i ddilysu pwy ydyw, mae ein canllawiau ar dystiolaeth ddogfennol y gall fod ei hangen mewn perthynas â cheisiadau am bleidlais drwy ddirprwy a wneir gan etholwyr categori arbennig yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Hydref 2023