Ers 2007 rydym wedi bod yn monitro agweddau’r cyhoedd tuag at etholiadau a democratiaeth yn y DU. Cynhaliwyd ein hastudiaeth ddiweddaraf ar-lein ym mis Rhagfyr 2024. Roedd gan yr astudiaeth sampl gynrychioliadol o ychydig llai na 6,000 o ymatebwyr ledled y DU.

Oni nodir yn wahanol mae unrhyw gymhariaeth â ffigurau 2024.

Crynodeb o ganfyddiadau

  • Bu cynnydd mewn boddhad â gweinyddiaeth etholiadau eleni. Mae boddhad â’r broses o bleidleisio a chofrestru i bleidleisio, a hyder bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda yn agos at y lefel uchaf erioed.
  • Roedd gwelliannau yn bennaf ymhlith cefnogwyr Llafur a chefnogwyr pleidiau eraill sy’n tueddu at y chwith. Nid yw’r cynnydd ar ôl yr etholiad mewn boddhad ymhlith y pleidleiswyr hyn yn syndod o ystyried canlyniad yr etholiad.
  • Teimlai dros hanner yr ymatebwyr nad oedd cynrychiolwyr etholedig yn poeni am bobl fel nhw. Dim ond un o bob pump oedd yn teimlo bod cynrychiolwyr etholedig yn poeni am bobl fel nhw.
  • Mae pryderon yn parhau i fod yn uchel am fygythiadau i ddemocratiaeth. Mae llawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn credu bod etholiadau yn y DU yn cael eu llywio mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, ni ddirywiodd ymddiriedaeth mewn sefydliadau ac ni chynyddodd canfyddiadau o fygythiadau i ddemocratiaeth.
  • Bu cynnydd mewn canfyddiadau cadarnhaol am gyllid pleidiau. Mae hyn yn cynnwys tryloywder ynghylch cyllid a’r gred y bydd y rhai sy’n torri’r rheolau yn wynebu cosb addas.
  • Mae cefnogaeth ar gyfer ID Pleidleisiwr wedi cynyddu. Mae canfyddiadau ynghylch rhwyddineb pleidleisio yn parhau i fod yn gyson â’r lefelau cyn ID Pleidleisiwr.
  • Erbyn hyn y cyfryngau cymdeithasol yw’r ail ffynhonnell newyddion fwyaf cyffredin (i fyny o bumed y llynedd). Teledu yw'r ffynhonnell newyddion fwyaf cyffredin o hyd. Mae ymddiriedaeth mewn newyddion o gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu. Mae hyn er gwaethaf cynnydd yng nghyfran y bobl a ddywedodd eu bod wedi gweld camwybodaeth.
  • Mae pobl yn fwy tebygol o ddweud bod ymddygiad bwlio tuag at wleidyddion yn dderbyniol.
  • Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cadw’r cynnydd mewn ymddiriedaeth a welwyd y llynedd. Mae dros hanner yr ymatebwyr bellach yn dweud eu bod yn ymddiried ynom fel rheolydd annibynnol.

Mae hyder yn y modd y cynhelir etholiadau yn y DU yn uchel

Yn dilyn etholiad cyffredinol y DU, bu cynnydd mewn:

  • Cyfran y bobl sy’n credu bod etholiadau’n cael eu rhedeg yn dda
  • Cyfran y bobl sy’n fodlon ar y prosesau pleidleisio a chofrestru
  • Nifer y bobl oedd yn teimlo’n hyderus yn eu gallu i bleidleisio a chofrestru. Mae hyn wedi cynyddu i 95% a 93%, yn y drefn honno (i fyny o 92% ac 89%)
  • Cyfran y bobl sy’n fodlon â’r ffordd y mae democratiaeth yn gweithio yn y DU

Boddhad pleidleiswyr gyda’r modd y cynhelir etholiadau (Data o 2010-2025)

Canran sy’n fodlon â’r ffordd y mae democratiaeth yn gweithio yn y DU

Mae’r gwelliannau mwyaf arwyddocaol mewn boddhad wedi bod ymhlith cefnogwyr Llafur a chefnogwyr sy’n tueddu at y chwith. Sicrhaodd canlyniad clir yr etholiad a newid llywodraeth lawer o bleidleiswyr bod etholiadau yn rhydd ac yn deg. Ni phrofodd cefnogwyr Ceidwadol ddirywiad mewn boddhad. Mae'n bosibl bod hyn oherwydd natur ddisgwyliedig canlyniad yr etholiad. Dangosodd cefnogwyr Reform UK ostyngiad mewn boddhad.

Hyder net bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda (yn ôl ymlyniad wrth blaid wleidyddol)

Canran sy’n fodlon â’r ffordd y mae democratiaeth yn gweithio (yn ôl ymlyniad wrth blaid wleidyddol)

Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn parhau i fod yn isel

Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn parhau i fod yn isel, gyda 14% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn ymddiried mewn gwleidyddion. Mae hyn yn gynnydd bach ar 2024, pan ddywedodd dim ond 10% o ymatebwyr eu bod yn ymddiried mewn gwleidyddion. Roedd y cynnydd hwn hefyd yn bennaf ymhlith cefnogwyr Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Canran y bobl sy’n ystyried gwleidyddion i fod yn bobl na ellir ymddiried ynddynt (yn ôl ymlyniad wrth blaid wleidyddol)

Er gwaethaf yr etholiad diweddar, mae 54% o ymatebwyr yn credu nad yw’r rhai y’u hetholwyd yn poeni am bobl fel nhw. Dim ond 22% sy’n credu eu bod.

Mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau yn parhau i fod yn isel

Am y tro cyntaf yn y blynyddoedd diwethaf, ni fu unrhyw ddirywiad cyffredinol mewn ymddiriedaeth mewn sefydliadau. Fodd bynnag, mae ymddiriedaeth yn parhau i fod yn isel.

Canran y bobl sy’n dweud nad oes ganddynt unrhyw ymddiriedaeth mewn unrhyw sefydliad

Mae’r siart hwn yn dangos y ganran na ddewisodd fod ganddynt hyder yn unrhyw un o’r sefydliadau canlynol: GIG, Lluoedd Arfog Prydain, Sefydliad Iechyd y Byd, Banc Lloegr, Teulu Brenhinol Prydain, y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, CThEF, Llywodraeth Prydain, heddlu’r Met, Tŷ’r Cyffredin, IMF, Banc y Byd, Eglwys Loegr, Banc Canolog Ewrop, Tŷ’r Arglwyddi, yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Nifer cyfartalog o broblemau a ganfuwyd mewn etholiadau

Mae’r siart hwn yn dangos y problemau a ddewiswyd o’r rhestr hon o faterion: nifer isel yn pleidleisio, rhagfarn yn y cyfryngau, dylanwad tramor, rheoleiddio annigonol ar y cyfryngau cymdeithasol, rheolaeth annigonol ar gyllid pleidiau, rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer grwpiau lleiafrifol/pobl anabl. Ni chafodd camwybodaeth wleidyddol, a gafodd ei hychwanegu at y rhestr fel problem yn 2024, ei chynnwys yn y cyfrifiad hwn.

Mae lleiafrif sylweddol yn meddwl bod etholiadau yn y DU yn cael eu llywio i ryw raddau

Mae dros hanner (57%) yr ymatebwyr yn credu nad yw etholiadau’r DU yn cael eu llywio na’u rigio. Ond, mae 31% yn meddwl bod etholiadau’n cael eu llywio i ryw raddau.

Nid oedd ein cwestiwn yn diffinio sut y dylai ymatebwyr ddehongli naill ai ‘wedi’i rigio’ neu ‘wedi’i lywio’. Mae’n debygol y bydd rhai pobl wedi cymhwyso diffiniad eang. Gallai hyn gynnwys pryderon am duedd y cyfryngau.

Mae pobl ifanc (18-24) yn fwy tebygol o gredu bod etholiadau’n cael eu llywio. Dywedodd 42% fod etholiadau yn cael eu llywio neu eu rigio i ryw raddau. Mae hyn yn gyfartal â’r gyfran sy’n credu nad ydynt yn cael eu llywio na’u rigio o gwbl.

Cynnydd yn y gefnogaeth am ‘arweinydd cryf’

Mae mwy o bobl bellach yn credu bod angen arweinydd cryf ar Brydain sy’n fodlon torri’r rheolau. Roedd 43% yn cytuno, tra bod 31% yn anghytuno. Y llynedd, roedd 39% yn cytuno, ac roedd cyfran gyfartal yn anghytuno.

Cefnogwyr Llafur sydd bellach yn fwyaf tebygol o arddel y gred hon. Cododd cefnogaeth ymhlith cefnogwyr Llafur o 27% i 38% yn dilyn buddugoliaeth Llafur. Yn y cyfamser, arhosodd safbwyntiau ymhlith cefnogwyr Ceidwadol yn ddigyfnewid i raddau helaeth.

Plaid2024 Cytuno (%)2025 Cytuno (%)2024 Anghytuno (%)2025 Anghytuno (%)
Llafur27%38%54%39%
Ceidwadwyr59%60%22%20%
Democratiaid Rhyddfrydol27%30%53%46%
Y Blaid Werdd23%23%55%52%
Reform UK78%73%10%10%

Gwelliannau mewn canfyddiadau o dryloywder cyllid gwleidyddol

Ar ôl blynyddoedd o ddirywiad, mae canfyddiadau cadarnhaol o dryloywder cyllid gwleidyddol wedi gwella ychydig. Eleni, mae 18% yn cytuno bod gwariant a chyllid pleidiau yn agored ac yn dryloyw (i fyny o 15% y llynedd a 13% y flwyddyn flaenorol).

Canran sy’n cytuno â datganiadau ynghylch a yw cyllid gwleidyddol yn dryloyw

Mae 25% o bobl (i fyny o 20%) yn credu y gallent ddarganfod pwy sy’n ariannu pleidiau gwleidyddol.

Hyder cynyddol mewn gorfodi rheolau cyllid gwleidyddol

Bu gwelliant nodedig yn y canfyddiadau o orfodi. Mae 40% yn credu y byddai'r rhai sy'n torri rheolau yn wynebu canlyniadau priodol, tra bod 32% yn anghytuno. Y llynedd, roedd 38% yn cytuno a 36% yn anghytuno. Ddwy flynedd yn ôl, roedd mwy o bobl yn anghytuno (39%) nag oedd yn cytuno (33%).

Daeth y newid mwyaf arwyddocaol mewn agwedd gan gefnogwyr Llafur. Cynyddodd eu cred mewn gorfodi effeithiol o 33% i 46%.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi'n hawdd pleidleisio

Hwn oedd etholiad cyffredinol cyntaf y DU ers cyflwyno ID Pleidleisiwr ym mis Mai 2023. Mae’r canfyddiadau o ba mor hawdd yw hi i bleidleisio wedi cynyddu i 82% (i fyny o 77% y llynedd) gan gyd-fynd â’r lefelau a welwyd cyn mis Mai 2023.

Mae cefnogaeth ar gyfer ID Pleidleisiwr hefyd wedi cynyddu, gyda 73% bellach o blaid, i fyny o 65% y llynedd. Mae dros hanner y pleidleiswyr yng Nghymru a’r Alban yn credu bod angen ID pleidleisiwr arnynt ar gyfer etholiadau lle nad oes ei angen. Mae 58% o bleidleiswyr yng Nghymru a 52% yn yr Alban yn credu eu bod ei angen ar gyfer etholiadau lleol.

Cyfryngau cymdeithasol yw’r ail ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf

Erbyn hyn y cyfryngau cymdeithasol yw'r ail ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf. Mae wedi rhagori ar wefannau papurau newydd, radio, ac apiau newyddion. Mae pobl 25-44 oed, sydd wedi ysgogi’r cynnydd hwn, wedi cynnal eu harferion cyfryngau wrth iddynt heneiddio.

Canran y bobl sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel eu prif ffynhonnell newyddion (yn ôl grŵp oedran)

Mwy o ymddiriedaeth yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae ymddiriedaeth yn y cyfryngau cymdeithasol fel ffynhonnell newyddion wedi cynyddu, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n dibynnu arno am newyddion. Ond, lefelau isel o ymddiriedaeth sydd gan gyfryngau cymdeithasol o gymharu â theledu a radio.

Mae mwy o bobl hefyd yn adrodd eu bod wedi gweld camwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol Mae hyn wedi codi o 77% yn 2023 i 80% yn 2024. Mewn cyferbyniad, dim ond 40% o bobl sy’n cael eu newyddion o’r teledu sy’n adrodd eu bod wedi gweld camwybodaeth.

Canran y bobl sy’n ymddiried mewn ffynonellau newyddion gwahanol

Bygwth gwleidyddion

Yn dilyn etholiad cyffredinol y DU 2024, cynyddodd pryderon y cyhoedd ynghylch bygythiadau i ymgeiswyr. Dywedodd 35% o ymatebwyr ei fod yn broblem (i fyny o 27% y llynedd).

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llai o bobl yn dweud bod ymddygiadau bwlio tuag at ymgeiswyr yn annerbyniol.

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o weld yr ymddygiadau bwlio hyn yn dderbyniol. Dim ond 25% o bobl 18-24 oed sy’n dweud ei bod yn annerbyniol bygwth gwleidydd ar lafar yn gyhoeddus. Mewn cyferbyniad, dywed 71% o’r rhai 75+ oed ei bod yn annerbyniol bygwth gwleidydd yn gyhoeddus ar lafar.

Canran y bobl sy’n meddwl bod ymddygiadau y gellir eu dehongli fel bwlio yn annerbyniol

Mwy o ymddiriedaeth yn y Comisiwn Etholiadol

Mae ymddiriedaeth yn y Comisiwn Etholiadol wedi parhau i gynyddu. Mae 52% bellach yn dweud eu bod yn ymddiried yn y Comisiwn Etholiadol, i fyny o 50% y llynedd a 43% ddwy flynedd yn ôl. Mae’r gyfran sy’n ymddiried yn y Comisiwn “yn fawr” wedi cynyddu o 11% i 19% dros yr un cyfnod.

I ba raddau ydych chi’n ymddiried yn y Comisiwn Etholiadol i fod yn rheolydd annibynnol?

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Ebrill 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Ebrill 2025