Data 2018 ar dwyll etholiadol
Crynodeb
Nid oes unrhyw dystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr mewn perthynas ag etholiadau lleol 2018.
O’r 266 o achosion y gwnaeth yr heddlu ymchwilio iddynt, fe wnaeth bedwar arwain at euogfarn, a chafodd dau berson dan amheuaeth rybudd gan yr heddlu.
Canlyniadau'r achosion lle cafodd y person dan amheuaeth gollfarn neu rybudd gan yr heddlu
Euogfarn am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Derbyniodd yr Heddlu Metropolitanaidd adroddiad bod asiant etholiadol i’r Ceidwadwyr (a wnaeth hefyd sefyll fel ymgeisydd) wedi cyflwyno ffurflenni enwebu gyda llofnodion ffug ar gyfer etholiadau lleol ym Mwrdeistref Hackney yn Llundain.
Canfu ymchwiliad yr heddlu fod nifer o’r ffurflenni hyn yn cynnwys enwau a llofnodion pleidleiswyr a gafodd eu camarwain i gredu eu bod yn llofnodi dros ymgeisydd arall, neu lle cafodd eu henw ei roi ar y papur enwebu gyda llofnod rhywun arall.
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, cafwyd y sawl dan amheuaeth yn euog, ac ar 11 Medi 2020 cafodd:
- ddedfryd o 6 mis yn y carchar, a dedfryd ohiriedig o 18 mis
- ei orchymyn i gwblhau 200 awr o wasanaeth cymunedol
- ei orchymyn i dalu dirwy o £2,000 a chostau’r llys
Euogfarn am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Ym mis Mehefin 2018, fe wnaeth yr Heddlu Metropolitanaidd dderbyn adroddiad bod cynghorwr a etholwyd yn etholiadau mis Mai ar gyfer Bwrdeistref Redbridge yn Llundain wedi gwneud datganiad anwir ynghylch ei gyfeiriad cartref ar ei ffurflen enwebu. Nid oedd yn byw yn ardal y cyngor, ond cymerodd arno ei fod yn byw yno fel y gallai sefyll fel cynghorwr Llafur dros yr ardal.
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, fe’i cafwyd yn euog ar 19 Hydref 2020. Ar 24 Tachwedd 2020 cafodd:
- ddedfryd o 17 mis yn y carchar
- ei orchymyn i dalu £18,368 mewn digollediadau am dreuliau a dderbyniodd fel cynghorwr oddi ar fis Mai 2018, £10,000 tuag at gostau cynnal yr is-etholiad yn 2021 i lenwi ei le, a £10,000 tuag at gostau’r erlyniad.
- ei wahardd rhag sefyll etholiad am y 5 mlynedd nesaf.
Euogfarn am wybodaeth anghywir ar bapur enwebu
Derbyniodd Heddlu Norfolk adroddiad bod asiant etholiadol ar gyfer y Ceidwadwyr yn etholiadau cyngor Dinas Norfolk wedi cyflwyno papurau enwebu a oedd yn cynnwys llofnodion ffug.
Wedi ymchwiliad gan yr heddlu, cafwyd y sawl dan amheuaeth yn euog, a chafodd:
- ddirwy o £300
- ei orchymyn i dalu gordal dioddefwyr o £30
- dalu costau o £85
Collfarn am drosedd enwebu
Yn yr etholiadau lleol yn 2018, plediodd aelod o Blaid Werdd Peterborough yn euog i ffugio'r holl lofnodion ar ei ffurflen enwebu er mwyn ei alluogi i sefyll yn yr etholiad.
Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, cyfaddefodd ef hynny a thynnodd ei bapurau yn ôl cyn i'r enwebiadau gau. Ni roddwyd ei enw ar y papur pleidleisio.
Cafodd ei ddedfrydu i ddau fis yn y carchar, wedi'i ohirio am 12 mis.
Cafodd orchymyn i wneud 100 awr o wasanaeth cymunedol a dirwy o £200 hefyd.
Rhybudd am gofrestriad ffug a phleidleisio (drwy'r post) fwy nag unwaith
Yn yr etholiadau lleol yn 2018, cofrestrodd ymgeisydd o'r Blaid Lafur a oedd yn ceisio cael ei ailethol i bleidleisio mewn dau gyfeiriad gwahanol yn Rochdale.
Gwnaeth gais i bleidleisio drwy'r post o'r ddau gyfeiriad a phleidleisiodd ddwywaith yn yr etholiadau i Gyngor Rochdale.
Mae'n drosedd pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un ardal etholiad lleol.
Cafodd yr ymgeisydd ei gyfweld gan yr heddlu a chyfaddefodd ei fod wedi pleidleisio ddwywaith. Rhoddwyd rhybudd iddo gan yr heddlu.
Rhybudd am ddefnyddio pleidlais bost rhywun arall mewn camgymeriad
Cafodd heddlu Gorllewin Swydd Efrog adroddiad ei bod yn ymddangos bod pleidlais bost a fwriwyd yn etholiadau lleol 2018 wedi cael ei chwblhau a'i dychwelyd gan rywun a fu farw.
Holodd yr heddlu weddw yr etholwr a fu farw. Hi oedd ei unig ofalwr ac, yn aml, byddai'n gwneud ei waith papur.
Roedd yn ymddangos mai camgymeriad gwirioneddol oedd hwn yng nghanol ei galar. Cafodd y weddw rybudd amodol ac ysgrifennodd lythyr yn cynnig ymddiheuriad llawn at y swyddog canlyniadau.
Deiseb etholiadol aflwyddiannus
Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad.
Honnodd ymgeisydd aflwyddiannus yn yr etholiadau lleol fod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i gyhuddo o ddweud celwydd a'i fod wedi dosbarthu deunydd etholiadol nad oedd yn cynnwys 'argraffnod' - manylion am argraffydd, hyrwyddwr neu gyhoeddwr deunydd etholiadol.
Nid oedd digon o dystiolaeth i brofi'r honiad ynghylch yr argraffnod, na bod y deunydd etholiadol wedi'i lunio gan yr ymgeisydd.
Rhaid i ddatganiadau anwir am ymgeisydd ymwneud â chymeriad personol yr ymgeisydd ac nid ei gymeriad gwleidyddol. Roedd yr honiad hwn yn seiliedig ar wahaniaeth barn ac nid oedd yn ymwneud â chymeriad personol nac ymddygiad yr ymgeisydd.
Canlyniadau pob achos y rhoddwyd gwybod amdano
Canlyniad | Nifer |
---|---|
Dim camau pellach | 204 |
Wedi'i ddatrys yn lleol | 57 |
Euogfarn | 4 |
Rhybudd | 2 |
Mathau o honiadau o dwyll etholiadol
Roedd mwy na hanner yr holl achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o'r honiadau hyn yn ymwneud â'r canlynol:
- rhywun yn gwneud datganiadau anwir ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd
- peidio â chynnwys manylion am yr argraffydd, yr hyrwyddwr a/neu'r cyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol - 'argraffnod'
Dengys y tabl hwn nifer yr achosion, a'r mathau o achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn 2018.
Math o drosedd | Nifer |
---|---|
Ymgyrchu | 128 |
Pleidleisio | 57 |
Enwebu | 41 |
Cofrestru | 39 |
Gweinyddu | 1 |
Data ar honiadau fesul heddlu 2018
Defnyddiwch y tabl hwn ar gyfer data gan heddluoedd penodol, yn ôl categori'r drosedd neu'r canlyniad.
Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch am mewn fformat arall, cysylltwch â ni