Mae gennym ddyletswydd statudol i gasglu data a chyhoeddi adroddiadau am etholiadau a gynhelir ledled y DU. Rydym hefyd yn dewis adrodd ar etholiadau eraill.
Yr hyn yr ydym yn adrodd arno
Mae gennym ddyletswydd statudol i adrodd ar weinyddiaeth:
etholiadau Senedd y DU
deisebau adalw
etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
etholiadau cynghorau yn yr Alban
etholiadau Senedd yr Alban
etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
etholiadau Senedd Cymru
refferenda (os y’u cynhelir o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA))
Yn y gorffennol, rydym wedi dewis adrodd ar:
etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
etholiadau maerol awdurdodau lleol a chyfunol
etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf
Beth mae ein hadroddiadau yn ei gynnwys
Nod ein hadroddiadau yw edrych ar brofiad pobl yn pleidleisio ac ymgyrchu mewn etholiadau, a phrofiad y bobl sy'n cynnal yr etholiadau.
Rydym yn cynnal arolwg barn y cyhoedd i ganfod barn pleidleiswyr am etholiadau, gan gynnwys a oeddent yn credu eu bod wedi cael eu rhedeg yn dda a pha mor hyderus yr oeddent yn teimlo amdanynt.
Rydym hefyd yn gofyn i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr roi adborth i ni, ac rydym yn anfon arolwg atynt ar ôl yr etholiad.
Mae'n rhaid i gynghorau, sy'n gyfrifol am gynnal yr etholiadau, ddarparu data i ni am gofrestru etholiadol, pleidleisio trwy'r post a nifer y bobl sy'n pleidleisio. Rydym yn gofyn iddynt lenwi arolwg, a gofynnwn hefyd am adborth gan bobl a weithiodd yn yr etholiad, megis staff gorsafoedd pleidleisio.
Rydym fel arfer yn anelu at gyhoeddi ein hadroddiadau ar etholiadau o fewn chwe mis o’r diwrnod pleidleisio.