Cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol y DU yn 2023

Canfu ein hastudiaeth a oedd yn edrych ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau Rhagfyr 2022 y canlynol:

  • Bod y lefelau cyflawnrwydd yn sefydlog ledled y DU ar y cyfan gydag eithriadau nodedig yng Ngogledd Iwerddon, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn lefelau cofrestru ers 2018, ac, i raddau llai, yng Nghymru lle rydym wedi gweld newid cadarnhaol hefyd.
  • Mae cywirdeb y cofrestrau yn sefydlog hefyd, ac eithrio Gogledd Iwerddon eto lle gwelwyd gwelliant.
  • Mae'r newidiadau yng Ngogledd Iwerddon yn golygu bod y lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd bellach yn gyson â Chymru, Lloegr a'r Alban ar y cyfan; mae'r ddwy elfen wedi cyrraedd y lefelau uchaf rydym wedi'u cofnodi drwy'r astudiaethau ymchwil hyn. 
  • Mae'r gwelliannau hyn o ganlyniad uniongyrchol i'r canfasiad diweddar yng Ngogledd Iwerddon yn 2021, rhywbeth a welsom yn dilyn y canfasiad blaenorol yn 2013 hefyd. Fodd bynnag, yn ein hastudiaethau cynharach, rydym wedi gweld gostyngiadau rhwng canfasiadau pan fo'r system gofrestru barhaus ar waith.
  • Ym Mhrydain Fawr, mae cywirdeb a chyflawnrwydd yn sefydlog i raddau helaeth.
  • Cafodd y broses ganfasio flynyddol ei diwygio yn 2019 gan lywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban, gyda'r nod o leihau'r baich ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol wrth gynnal lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd. Nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith negyddol ar y naill fesur na'r llall o ganlyniad i ddiwygio'r broses ganfasio, ond nid ydym wedi gweld gwelliant sylweddol ychwaith.

Ledled y DU, mae'n bosibl nad yw cynifer ag 8 miliwn o bobl wedi'u cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol. Mae hyn yn bwysig oherwydd, er y gall pobl gofrestru cyn pob set o etholiadau, mae'n cynyddu'r siawns y bydd pobl yn credu eu bod wedi'u cofrestru pan nad yw hynny'n wir ac felly na fyddant yn gallu bwrw eu pleidlais pan ddaw'r diwrnod pleidleisio. Hefyd, po fwyaf o ddiweddariadau sydd eu hangen i'r cofrestrau yn ystod y cyfnod byr cyn pleidlais, y mwyaf o bwysau a roddir ar ddarparu'r gwasanaeth i bleidleiswyr. 

Mae'r Comisiwn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â thangofrestru drwy ein gwaith ymgyrchu parhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, y byddwn yn ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau pleidleiswyr a phatrymau demograffig grwpiau nad ydynt yn cofrestru ar raddfa ddigonol.

Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu bod lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd yn debygol o wella yn sylweddol heb newidiadau mawr i'r system gofrestru etholiadol bresennol.

Rydym wedi nodi ers 2019 sut y gallai llywodraethau'r DU gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol – a gwella effeithlonrwydd er mwyn lliniaru'r baich o ran adnoddau, drwy gyflwyno dulliau cofrestru modern i ategu'r canfasiad blynyddol presennol a'r broses gofrestru ar-lein sydd ar gael drwy'r flwyddyn.

Byddai'r rhain yn cynnwys defnyddio data o'r miliynau o drafodiadau y mae pleidleiswyr eisoes yn eu cael â sefydliadau mawr y sector cyhoeddus. Yn dibynnu ar ansawdd a chwmpas y setiau data, a'r meysydd data penodol sydd ar gael, gallai newidiadau gefnogi lefelau a ffurfiau gwahanol o foderneiddio, gan amrywio o gofrestru awtomatig i ffyrdd integredig neu gynorthwyol o gofrestru lle byddai angen i bleidleiswyr ddarparu rhywfaint o wybodaeth yn uniongyrchol eu hunain.

Rydym wedi amlinellu ystod o opsiynau ar gyfer sut y gallai ffynonellau data penodol gael eu defnyddio i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol ac, yn benodol, sut y gellid gwella cyfraddau cofrestru cyrhaeddwyr a phobl ifanc eraill, y rhai sy'n rhentu'n breifat a phobl eraill sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar. Byddai angen gwaith ymchwiliol pellach i gadarnhau dichonoldeb manwl a goblygiadau darparu'r opsiynau hyn.

Mae angen cynllun clir ar y gymuned etholiadol i sicrhau bod prosesau cofrestru etholiadol yn cael eu moderneiddio fel bod pobl yn cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio. Fel rhan o'r cynllun hwn, rydym yn argymell y dylai llywodraethau'r DU basio deddfwriaeth i greu pyrth cyfreithiol clir i adrannau'r llywodraeth a chyrff yn y sector cyhoeddus rannu data ar unigolion a allai fod yn gymwys â Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Dylent hefyd ei gwneud yn ofynnol i adrannau perthnasol a chyrff cyhoeddus eraill weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol i hwyluso'r broses cofrestru etholiadol gan ddefnyddio eu data. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth y DU ddatblygu'r gwasanaeth digidol Cofrestru Etholiadol Unigol fel y gall gefnogi dulliau rhannu data diogel ac effeithlon rhwng sefydliadau ffynhonnell data a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, er mwyn gallu darparu prosesau cofrestru modern.

Caiff ansawdd y cofrestrau etholwyr ei fesur mewn dwy brif ffordd: eu cywirdeb a'u cyflawnrwydd.

Ystyr cywirdeb yw 'nad oes unrhyw gofnodion anwir ar y cofrestrau etholwyr'. 

Felly, mae cywirdeb yn mesur canran y cofnodion ar y cofrestrau sy'n ymwneud â phleidleiswyr sydd wedi'u dilysu ac sy'n gymwys sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw. Gall cofnodion anghywir ar y gofrestr ymwneud â chofnodion diangen (er enghraifft, yn sgil symud tŷ), nad ydynt yn gymwys ac sydd wedi'u cynnwys yn anfwriadol, neu sy'n dwyllodrus.

Ystyr cyflawnrwydd yw bod 'pawb sy'n gymwys i'w cynnwys ar gofrestr etholwyr wedi'u cofrestru’. 

Mae cyflawnrwydd yn cyfeirio at ganran y bobl gymwys sydd wedi'u cofrestru yn eu cyfeiriad presennol. Mae canran y bobl gymwys nad ydynt wedi'u cynnwys ar y gofrestr yn eu cyfeiriad presennol yn gyfystyr â'r gyfradd o dangofrestru.

Gan ddefnyddio'r ffigurau canrannol a gynhyrchwyd o'r ymchwil hon, mae'n bosibl amcangyfrif nifer y bobl yn y boblogaeth nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir neu sydd â gwallau yn eu cofnodion ar y gofrestr. 

LleoliadHeb eu cofrestru'n gywirCofnodion anghywir ar y gofrestr
United Kingdom7,000,000 - 8,000,000 
Prydain Fawr6,700,000 - 7,800,0005,100,000 - 6,000,000
Lloegr5,600,000 - 6,600,000 
Yr Alban650,000 - 1,000,000390,000 - 640,000
Cymru275,000 - 400,000200,000 - 300,000
Gogledd Iwerddon230,000 - 280,000170,000 - 210,000

Dim ond amcangyfrifon y gall y rhain fod am y rhesymau canlynol:

  • Mae'r amcangyfrifon cywirdeb a chyflawnrwydd yn destun cyfyngau hyder (er enghraifft, +/- 1.1% ar gyfer cyflawnrwydd ym Mhrydain Fawr ac 1.9% yng Ngogledd Iwerddon; +/- 1% ar gyfer cywirdeb ym Mhrydain Fawr ac 1.5% ar gyfer Gogledd Iwerddon). Bydd y ffiniau hyn hefyd yn gymwys i unrhyw broses i fesur yr amcangyfrifon.
  • Daw'r ffigurau poblogaeth cyffredinol y mae'r rhain yn seiliedig arnynt o amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n deillio o Gyfrifiad 2021. Er bod y rhain yn cynnig amcangyfrif cymharol gywir o boblogaeth y DU, nid ydynt yn cynnwys ffigurau am genedligrwydd. Gan fod cymhwystra i bleidleisio yn amrywio fesul etholiad ac yn cael ei bennu gan oedran a chenedligrwydd, mae hyn yn golygu nad oes modd pennu maint y boblogaeth sy'n gymwys i bleidleisio yn bendant.

Mae canlyniadau manwl fesul rhan o'r DU ar gael mewn taflenni ffeithiau:

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf:

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Medi 2025