Adroddiad 2023: Cofrestrau etholiadol yn y DU
Summary
Rydym yn ymgymryd ag astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd i fesur ansawdd y cofrestrau etholiadol ac yn asesu sut mae hyn yn newid mewn ymateb i ddatblygiadau deddfwriaethol a newidiadau gweinyddol a phoblogaeth.
Canfu canlyniadau'r astudiaeth hon ar gofrestrau mis Rhagfyr 2022 fod y lefelau cyflawnrwydd yn sefydlog ledled y DU ar y cyfan gydag eithriadau nodedig yng Ngogledd Iwerddon, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn lefelau cofrestru ers 2018, ac, i raddau llai, yng Nghymru lle rydym wedi gweld newid cadarnhaol hefyd. Mae cywirdeb y cofrestrau yn sefydlog hefyd, ac eithrio Gogledd Iwerddon eto lle gwelwyd gwelliant.
Mae'r newidiadau yng Ngogledd Iwerddon yn golygu bod y lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd bellach yn gyson â Chymru, Lloegr a'r Alban ar y cyfan; mae'r ddwy elfen wedi cyrraedd y lefelau uchaf rydym wedi'u cofnodi drwy'r astudiaethau ymchwil hyn. Mae'r gwelliannau hyn o ganlyniad uniongyrchol i'r canfasiad diweddar yng Ngogledd Iwerddon yn 2021, rhywbeth a welsom yn dilyn y canfasiad blaenorol yn 2013 hefyd. Fodd bynnag, yn ein hastudiaethau cynharach, rydym wedi gweld gostyngiadau rhwng canfasiadau pan fo'r system gofrestru barhaus ar waith.
Ym Mhrydain Fawr, mae cywirdeb a chyflawnrwydd yn sefydlog i raddau helaeth. Cafodd y broses ganfasio flynyddol ei diwygio yn 2019 gan lywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban, gyda'r nod o leihau'r baich ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol wrth gynnal lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd. Nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith negyddol ar y naill fesur na'r llall o ganlyniad i ddiwygio'r broses ganfasio, ond nid ydym wedi gweld gwelliant sylweddol ychwaith.
summary
Ledled y DU, mae'n bosibl nad yw cynifer ag 8 miliwn o bobl wedi'u cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol. Mae hyn yn bwysig oherwydd, er y gall pobl gofrestru cyn pob set o etholiadau, mae'n cynyddu'r siawns y bydd pobl yn credu eu bod wedi'u cofrestru pan nad yw hynny'n wir ac felly na fyddant yn gallu bwrw eu pleidlais pan ddaw'r diwrnod pleidleisio. Hefyd, po fwyaf o ddiweddariadau sydd eu hangen i'r cofrestrau yn ystod y cyfnod byr cyn pleidlais, y mwyaf o bwysau a roddir ar ddarparu'r gwasanaeth i bleidleiswyr.
Mae'r Comisiwn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â thangofrestru drwy ein gwaith ymgyrchu parhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, y byddwn yn ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau pleidleiswyr a phatrymau demograffig grwpiau nad ydynt yn cofrestru ar raddfa ddigonol.
Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu bod lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd yn debygol o wella yn sylweddol heb newidiadau mawr i'r system gofrestru etholiadol bresennol.
change
Rydym wedi nodi ers 2019 sut y gallai llywodraethau'r DU gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol – a gwella effeithlonrwydd er mwyn lliniaru'r baich o ran adnoddau, drwy gyflwyno dulliau cofrestru modern i ategu'r canfasiad blynyddol presennol a'r broses gofrestru ar-lein sydd ar gael drwy'r flwyddyn.
Byddai'r rhain yn cynnwys defnyddio data o'r miliynau o drafodiadau y mae pleidleiswyr eisoes yn eu cael â sefydliadau mawr y sector cyhoeddus. Yn dibynnu ar ansawdd a chwmpas y setiau data, a'r meysydd data penodol sydd ar gael, gallai newidiadau gefnogi lefelau a ffurfiau gwahanol o foderneiddio, gan amrywio o gofrestru awtomatig i ffyrdd integredig neu gynorthwyol o gofrestru lle byddai angen i bleidleiswyr ddarparu rhywfaint o wybodaeth yn uniongyrchol eu hunain.
Rydym wedi amlinellu ystod o opsiynau ar gyfer sut y gallai ffynonellau data penodol gael eu defnyddio i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol ac, yn benodol, sut y gellid gwella cyfraddau cofrestru cyrhaeddwyr a phobl ifanc eraill, y rhai sy'n rhentu'n breifat a phobl eraill sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar. Byddai angen gwaith ymchwiliol pellach i gadarnhau dichonoldeb manwl a goblygiadau darparu'r opsiynau hyn.
Mae angen cynllun clir ar y gymuned etholiadol i sicrhau bod prosesau cofrestru etholiadol yn cael eu moderneiddio fel bod pobl yn cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio. Fel rhan o'r cynllun hwn, rydym yn argymell y dylai llywodraethau'r DU basio deddfwriaeth i greu pyrth cyfreithiol clir i adrannau'r llywodraeth a chyrff yn y sector cyhoeddus rannu data ar unigolion a allai fod yn gymwys â Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Dylent hefyd ei gwneud yn ofynnol i adrannau perthnasol a chyrff cyhoeddus eraill weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol i hwyluso'r broses cofrestru etholiadol gan ddefnyddio eu data. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth y DU ddatblygu'r gwasanaeth digidol Cofrestru Etholiadol Unigol fel y gall gefnogi dulliau rhannu data diogel ac effeithlon rhwng sefydliadau ffynhonnell data a Swyddogion Cofrestru Etholiadol, er mwyn gallu darparu prosesau cofrestru modern.
Crynodeb o'r canfyddiadau
Mae canlyniadau ein hastudiaeth ddiweddaraf o bob rhan o'r DU yn dangos y canlynol mewn perthynas â'r cofrestrau llywodraeth leol.1
Cywirdeb a Chyflawnrwydd | Lleoliad | 2022 | Change from 2018 |
---|---|---|---|
Cyflawnrwydd | Prydain Fawr | 86% | +3 |
Lloegr | 86% | +3 | |
Yr Alban | 81% | -2 | |
Cymru | 87% | +6 | |
Gogledd Iwerddon | 83% | +10 | |
Cywirdeb | Prydain Fawr | 88% | -1 |
Lloegr | 88% | -1 | |
Yr Alban | 88% | +2 | |
Cymru | 89% | 0 | |
Gogledd Iwerddon | 86% | +6 |
definition
Caiff ansawdd y cofrestrau etholwyr ei fesur mewn dwy brif ffordd: eu cywirdeb a'u cyflawnrwydd.
Ystyr cywirdeb yw 'nad oes unrhyw gofnodion anwir ar y cofrestrau etholwyr'. Felly, mae cywirdeb yn mesur canran y cofnodion ar y cofrestrau sy'n ymwneud â phleidleiswyr sydd wedi'u dilysu ac sy'n gymwys sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw. Gall cofnodion anghywir ar y gofrestr ymwneud â chofnodion diangen (er enghraifft, yn sgil symud tŷ), nad ydynt yn gymwys ac sydd wedi'u cynnwys yn anfwriadol, neu sy'n dwyllodrus.
Ystyr cyflawnrwydd yw bod 'pawb sy'n gymwys i'w cynnwys ar gofrestr etholwyr wedi'u cofrestru’. Mae cyflawnrwydd yn cyfeirio at ganran y bobl gymwys sydd wedi'u cofrestru 2 yn eu cyfeiriad presennol. Mae canran y bobl gymwys nad ydynt wedi'u cynnwys ar y gofrestr yn eu cyfeiriad presennol yn gyfystyr â'r gyfradd o dangofrestru.
Yr astudiaeth hon o gofrestrau mis Rhagfyr 2018 yw ein hastudiaeth gyntaf ers yr asesiad o gofrestrau yn 2015 a'r broses drosglwyddo i Gofrestru Etholiadol Unigol1 . Mae'n sefydlu gwaelodlin newydd wrth i ni geisio mesur effaith newidiadau sydd ar ddod ar y canfasiad blynyddol.
continue
Mae'r tabl uchod yn dangos y newid pwynt canran mewn cywirdeb a chyflawnrwydd o gymharu â'n hastudiaeth ddiwethaf yn 2018. Fodd bynnag, gan fod y canlyniadau arolwg hyn yn destun lwfansau gwallau, nid yw pob un o'r newidiadau hyn yn debygol o fod o bwys ystadegol.
Ar y cyfan ledled Prydain Fawr, mae cyflawnrwydd y cofrestrau llywodraeth leol wedi cynyddu ychydig, tra bo cywirdeb wedi aros yr un peth. Mae'r cynnydd mewn cyflawnrwydd yng Nghymru yn debygol o fod yn welliant gwirioneddol ers 2018 tra bo'r dirywiad ymddangosiadol yn yr Alban o fewn y lwfans gwallau a dylid ei drin fel dim newid. Yng Ngogledd Iwerddon, gwelwyd gwelliant nodedig yng nghywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau.
Ni ddangosir ffigurau ar gyfer y cofrestrau seneddol, ond maent yn debyg iawn i'r canfyddiadau ar gyfer y cofrestrau llywodraeth leol.
O dan y prif ffigurau hyn, disgwylir i gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau amrywio yn sylweddol rhwng ardaloedd awdurdod lleol o ganlyniad i ddemograffeg y boblogaeth leol yn ogystal ag arferion cofrestru.
Mae canlyniadau manwl fesul rhan o'r DU ar gael mewn taflenni ffeithiau:
Mae cyflawnrwydd y cofrestrau yn amrywio ar gyfer grwpiau demograffig-cymdeithasol gwahanol. Mae'r patrymau hyn yn gyson â chanfyddiadau ein hastudiaethau blaenorol i raddau helaeth. Ledled y DU, oedran ac amser yn byw yn y cyfeiriad oedd y newidynnau oedd â'r cysylltiad cryfaf â gwahaniaethau mewn cyflawnrwydd. Mae pobl hŷn a'r rheini sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am gyfnod hwy yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru'n gywir.
Mae amrywiadau o ran cywirdeb yn anos eu dadansoddi oherwydd dim ond ar gyfer preswylwyr cyfredol y gellir casglu nodweddion. Fodd bynnag, fel mewn astudiaethau blaenorol, gwelwn fod aelwydydd lle mae'r preswylwyr presennol wedi byw yno am lai o amser yn fwy tebygol o gael cofnodion anghywir amdanynt ar y cofrestrau.
Gallwch hefyd archwilio'r data yn ôl y prif grwpiau demograffig gan ddefnyddio ein hadnodd rhyngweithiol.
Mesur cywirdeb a chyflawnrwydd
Gan ddefnyddio'r ffigurau canrannol a gynhyrchwyd o'r ymchwil hon, mae'n bosibl amcangyfrif nifer y bobl yn y boblogaeth nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir neu sydd â gwallau yn eu cofnodion ar y gofrestr.
Lleoliad | Heb eu cofrestru'n gywir | Cofnodion anghywir ar y gofrestr |
---|---|---|
United Kingdom | 7,000,000 - 8,000,000 | |
Prydain Fawr | 6,700,000 - 7,800,000 | 5,100,000 - 6,000,000 |
Lloegr | 5,600,000 - 6,600,000 | |
Yr Alban | 650,000 - 1,000,000 | 390,000 - 640,000 |
Cymru | 275,000 - 400,000 | 200,000 - 300,000 |
Gogledd Iwerddon | 230,000 - 280,000 | 170,000 - 210,000 |
Dim ond amcangyfrifon y gall y rhain fod am y rhesymau canlynol:
- Mae'r amcangyfrifon cywirdeb a chyflawnrwydd yn destun cyfyngau hyder (er enghraifft, +/- 1.1% ar gyfer cyflawnrwydd ym Mhrydain Fawr ac 1.9% yng Ngogledd Iwerddon; +/- 1% ar gyfer cywirdeb ym Mhrydain Fawr ac 1.5% ar gyfer Gogledd Iwerddon). Bydd y ffiniau hyn hefyd yn gymwys i unrhyw broses i fesur yr amcangyfrifon.
- Daw'r ffigurau poblogaeth cyffredinol y mae'r rhain yn seiliedig arnynt o amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n deillio o Gyfrifiad 2021. Er bod y rhain yn cynnig amcangyfrif cymharol gywir o boblogaeth y DU, nid ydynt yn cynnwys ffigurau am genedligrwydd. Gan fod cymhwystra i bleidleisio yn amrywio fesul etholiad ac yn cael ei bennu gan oedran a chenedligrwydd, mae hyn yn golygu nad oes modd pennu maint y boblogaeth sy'n gymwys i bleidleisio yn bendant.
Tueddiadau o ran ansawdd y cofrestrau
Mae'r Comisiwn wedi mesur cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau yng Nghymru a Lloegr ers 2001 a, chyn hynny, roedd astudiaethau yn cael eu cynnal gan sefydliadau eraill yn dilyn pob cyfrifiad.
Ym Mhrydain Fawr, roedd cyflawnrwydd y cofrestrau ar ei uchaf (tua 95%) yn yr 1950au a'r 1960au a dechreuodd ddirywio yn yr 1980au. Dirywiodd hyd at 2011 (82%) ond mae wedi sefydlogi ers hynny, gydag astudiaethau dilynol yn canfod lefelau rhwng 83% ac 86%.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r elfen cyflawnrwydd bellach ar ei lefel uchaf ers i'r Comisiwn ddechrau ei mesur yn 2012.
Cyflawnrwydd
summary
Mae cyflawnrwydd y cofrestrau yn amrywio ar gyfer grwpiau demograffig-cymdeithasol gwahanol. Mae'r patrymau hyn yn gyson â chanfyddiadau ein hastudiaethau blaenorol i raddau helaeth. Os bydd data dibynadwy ar gael ar gyfer pob rhan o'r DU, dangosir hynny. Mewn rhai achosion, mae maint y samplau yn golygu nad oes modd dangos dadansoddiad demograffig ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wahân. Yn yr achosion hyn, caiff y dadansoddiad manylaf sydd ar gael ei gynnwys.
Lleoliad | 2011 | 2012 | 2014 | 2015 | 2018 | 2022 | Newid ers 2022 |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Prydain Fawr | 82% | - | 85% | 84% | 83% | 86% | +3 |
Lloegr | - | - | - | 84% | 83% | 86% | +3 |
Yr Alban | - | - | - | 85% | 83% | 81% | -2 |
Cymru | - | - | - | 84% | 81% | 87% | +6 |
Gogledd Iwerddon | - | 71% | - | 79% | 73% | 83% | +10 |
Gwnaed gwaith dadansoddi ychwanegol ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd ac ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn nodi'r nodweddion demograffig sy'n gysylltiedig â lefelau uwch neu is o gywirdeb a chyflawnrwydd (unwaith y rheolir ar gyfer ffactorau eraill), yn ogystal â chryfder ac arwyddocâd ystadegol y cydberthnasau hyn.
Ym Mhrydain Fawr, oedran ac amser yn byw yn y cyfeiriad oedd y newidynnau oedd â'r cysylltiad cryfaf â gwahaniaethau mewn cyflawnrwydd. Roedd deiliadaeth, grŵp ethnig, gradd gymdeithasol a nifer yr oedolion yn yr aelwyd yn ffactorau arwyddocaol hefyd, ac roedd gwahaniaethau sylweddol rhwng ardaloedd trefol a gwledig hefyd a rhwng rhanbarthau Lloegr sydd yn parhau i fod yn berthnasol hyd yn oed ar ôl rheoli ar gyfer ffactorau demograffig.
Yng Ngogledd Iwerddon, oedran ac amser yn byw yn y cyfeiriad oedd prif ysgogwyr cyflawnrwydd hefyd. Er bod gan lefelau cyflawnrwydd batrymau demograffig-cymdeithasol tebyg o gymharu â Phrydain Fawr, pan reolir ar gyfer ffactorau eraill, ni nodwyd bod gan unrhyw nodweddion demograffig eraill, y tu hwnt i oedran a hyd cyfnod preswylio, gydberthynas arwyddocaol â chyflawnrwydd.
Symudedd y boblogaeth
Mae gwaith ymchwil blaenorol i'r cofrestrau, sef cronfeydd data sy'n seiliedig ar eiddo, wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y cofrestrau etholiadol.
Mae'r patrwm hwn yn parhau yn yr ymchwil ddiweddaraf hon, ac mae cyflawnrwydd ar ei isaf ymhlith y rheini sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am lai na blwyddyn ac yn cynyddu yn ôl hyd cyfnod preswylio.
Ers 2018 yng Ngogledd Iwerddon, i'r rheini sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am lai na phum mlynedd y mae cyflawnrwydd wedi cynyddu'n fwyaf sylweddol. Mae'n debygol bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i ganfasiad 2021.
Cyflawnrwydd cofrestrau llywodraeth leol yn ôl hyd cyfnod preswylio, 2018 yn erbyn 2022
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Hyd at flwyddyn | 36% | 39% | 36% | 40% | 32% | 33% | 45% | 53% | 11% | 20% |
Rhwyng 1 a 2 flynedd | 71% | 72% | 70% | 73% | 65% | 63% | 29% | 44% | ||
Rhwyng 2 a 5 mlynedd | 84% | 82% | 83% | 82% | 84% | 81% | 83% | 83% | 61% | 76% |
Rhwyng 5 a 10 mlynedd | 90% | 91% | 90% | 92% | 91% | 83% | 83% | 86% | 78% | 82% |
Rhwyng 5 ac 10 mlynedd | 88% | 92% | 88% | 92% | 95% | 89% | 88% | 91% | 80% | 92% |
Dros 16 mlynedd | 92% | 95% | 92% | 95% | 94% | 92% | 91% | 95% | 90% | 92% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 8,699, Prydain Fawr 2022 9,495, Gogledd Iwerddon 2018 1,713, Gogledd Iwerddon 2022 1,948
Nodweddion demograffig
Mae cyflawnrwydd hefyd yn amrywio yn ôl ffactorau demograffig
Mae lefelau cyflawnrwydd yn parhau i gynyddu gydag oedran.
Fel yn 2018, mae cyflawnrwydd ar ei uchaf i'r rheini sy'n 65+ oed. Mae hefyd yn parhau i fod ar ei isaf i gyrhaeddwyr 16-17 oed. Ym Mhrydain Fawr, mae cyflawnrwydd ar gyfer y grŵp hwn wedi gostwng ymhellach o 45% yn 2015, i 25% yn 2018, i 16% yn 2022. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r lefel gofrestru ymhlith cyrhaeddwyr wedi cynyddu, er bod hynny o sero yn 2018 bron ac i lefel is nag ym Mhrydain Fawr.
Fel arall, nid yw'r patrwm cyflawnrwydd yn ôl grŵp oedran wedi newid yn sylweddol ers 2018.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
16 - 17 | 25% | 16% | - | - | - | - | - | - | 0% | 12% |
18 - 19 | 66% | 60% | 72% | 70% | 68% | 68% | 66% | 79% | 31% | 45% |
20 - 24 | 68% | 67% | 61% | 76% | ||||||
25 - 34 | 74% | 74% | 50% | 69% | ||||||
35 - 44 | 82% | 84% | 83% | 84% | 78% | 76% | 78% | 82% | 70% | 83% |
45 - 54 | 90% | 91% | 90% | 91% | 91% | 88% | 85% | 90% | 81% | 87% |
55 - 64 | 90% | 94% | 90% | 94% | 95% | 93% | 92% | 91% | 85% | 90% |
65+ | 94% | 96% | 95% | 97% | 95% | 92% | 92% | 97% | 94% | 95% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 8,152, Prydain Fawr 2022 9,434, Gogledd Iwerddon 2018 1,445, Gogledd Iwerddon 2022 1,946
Yn 2018, ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, nid oedd fawr ddim gwahaniaeth, os o gwbl, yn y tebygolrwydd y byddai dynion a menywod yn cael eu cofrestru'n gywir. Fodd bynnag, yn 2022, roedd menywod ychydig yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru'n gywir na dynion. Nid yw'r newidiadau yng Nghymru a'r Alban yn ystadegol bwysig.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Gwryw | 83% | 85% | 82% | 85% | 85% | 82% | 80% | 86% | 72% | 81% |
Benyw | 83% | 87% | 83% | 87% | 82% | 81% | 82% | 87% | 73% | 84% |
Sylfaen (amhwysol): Prydain Fawr 2022 9,490, Gogledd Iwerddon 2022 1,947, Prydain Fawr 2018 8,215, Gogledd Iwerddon 2018 1,447
Mae canfyddiadau yn cadarnhau ymchwil flaenorol sy'n dangos bod cyfraddau cofrestru yn is ymhlith gwladolion cymwys nad ydynt yn perthyn i'r DU nag ydynt ymhlith gwladolion y DU neu Iwerddon.
Dinasyddion y DU a Gwyddelig sydd fwyaf tebygol o fod â chofnodion cyflawn ar y cofrestrau etholiadol o hyd. Fodd bynnag, ym Mhrydain Fawr, mae dinasyddion yr UE wedi gweld cynnydd yn eu lefelau cofrestru ac maent ychydig yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na dinasyddion y Gymanwlad. Mae meintiau sylfaen bach yn golygu nad oes modd darparu dadansoddiadau ar wahân o ddinasyddion yr UE a dinasyddion y Gymanwlad yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Y Deyrnas Unedig/ Gwyddelig | 86% | 87% | 85% | 88% | 85% | 84% | 82% | 88% | 74% | 84% |
Ddim yn perthyn i'r DU/ Gweriniaeth Iwerddon | 55% | 68% | 55% | 68% | 58% | 44% | 58% | 70% | 45% | 41% |
Yr Undeb Ewropeaidd | 54% | 70% | 54% | 71% | - | - | - | - | 42% | - |
Y Gymanwlad | 62% | 66% | 62% | 67% | - | - | - | - | 80% | - |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 8,186, Prydain Fawr 2022 10,045, Gogledd Iwerddon 2018 1,437, Gogledd Iwerddon 2022 2,018
Fel mewn astudiaethau blaenorol, mae cyflawnrwydd ym Mhrydain Fawr ar ei uchaf ymhlith y rheini o gefndir ethnig Gwyn. Mae meintiau sylfaen bach yn golygu na allwn ddadansoddi amrywiadau yn y lefelau cyflawnrwydd ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol yng Ngogledd Iwerddon.
Ers 2018, mae cyfraddau cyflawnrwydd wedi cynyddu ar gyfer pob grŵp heblaw am y rheini o gefndiroedd ethnig Du, lle mae wedi gostwng o 75% i 72%.
Lleoliad | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 |
Gwyn | 84% | 87% |
Asiaidd | 76% | 80% |
Du | 75% | 72% |
Cymysg | 69% | 72% |
Arall | 62% | 71% |
Sylfaen (amhwysol): 2022 9,404, 2018 8,157
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyflawnrwydd yn uwch ymhlith y rheini sydd ag anabledd nag ymhlith y rheini nad ydynt yn anabl. O blith y rheini sydd ag anabledd, roedd cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rheini sydd â chyflwr corfforol ac ar ei isaf ymhlith y rheini sydd ag anabledd meddyliol.
Lleoliad | Prydain Fawr | Gogledd Iwerddon | ||
---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Anabledd meddyliol | 83% | 84% | 71% | 79% |
Anabledd corfforol | 92% | 92% | 83% | 88% |
Math arall o anabledd | 93% | 89% | - | 84% |
Dim anabledd | 82% | 85% | 72% | 82% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 8,091, Prydain Fawr 2022 9,447, Gogledd Iwerddon 2018 1,444, Gogledd Iwerddon 2022 1,935
Amodau cymdeithasol ac economaidd
Y tu hwnt i ddemograffeg, mae gwahaniaethau hefyd mewn cyflawnrwydd ar draws ffactorau cymdeithasol ac economaidd allweddol.
Mae statws economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar lefelau cyflawnrwydd hefyd. Ac eithrio'r Alban, mae cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rheini sydd mewn aelwydydd AB, ac yna'r rheini sydd mewn aelwydydd C1 a C2. Mae cyflawnrwydd ar ei isaf ymhlith y rhai mewn aelwydydd DE. Allanolyn yw'r lefel anarferol o uchel o gyflawnrwydd ar gyfer aelwydydd C2 yn yr Alban a gall fod yn gamystumiad o ganlyniad i faint sylfaen cymharol fach.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
AB | 86% | 89% | 86% | 89% | 88% | 86% | 87% | 87% | 80% | 88% |
C1 | 85% | 86% | 84% | 87% | 85% | 76% | 82% | 86% | 72% | 82% |
C2 | 80% | 86% | 80% | 85% | 80% | 88% | 82% | 89% | 76% | 83% |
DE | 80% | 81% | 79% | 81% | 78% | 78% | 76% | 85% | 63% | 78% |
Sylfaen (amhwysol): Prydain Fawr 2022 9,472, Prydain Fawr 2018 8,782, Gogledd Iwerddon 2022 1,942, Gogledd Iwerddon 2018 1,718
Mewn blynyddoedd blaenorol, mae cysylltiad cryf wedi bod rhwng deiliadaeth a lefelau cyflawnrwydd ac mae'r gydberthynas hon yn parhau yn 2022. Mae pobl sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na phobl mewn mathau eraill o ddeiliadaeth.
Pobl sy'n rhentu'n breifat oedd â'r lefel isaf o gyflawnrwydd o hyd.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Perchen-feddianwyr | 91% | 95% | 91% | 95% | 95% | 91% | 91% | 94% | 88% | 91% |
Prynu gyda morgais/ rhanberchnogaeth | 86% | 88% | 86% | 88% | 87% | 84% | 78% | 84% | 72% | 82% |
Pobl sy'n rhentu'n breifat | 58% | 65% | 59% | 66% | 49% | 45% | 60% | 73% | 38% | 46% |
Pobl sy'n rhentu gan yr awdurdod lleol | 83% | 79% | 83% | 79% | 87% | 84% | 86% | 73% | 64% | 78% |
Pobl sy'n rhentu gan Gymdeithas Dai | 82% | 79% | 84% | 80% | 73% | 72% | 76% | 82% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 8,790, Prydain Fawr 2022 9,259, Gogledd Iwerddon 2018 1,718, Gogledd Iwerddon 2022 1,930
Mae lefelau cyflawnrwydd yn is ar gyfer aelwydydd mwy o faint. Ym Mhrydain Fawr, mae lefelau cyflawnrwydd cyffredinol ar gyfer aelwydydd ag un neu ddau berson yn llawer uwch nag ar gyfer aelwydydd â thri i bum person. Mae'r patrwm yn fwy gwastad yng Ngogledd Iwerddon gyda gwahaniaethau cyfyngedig, ond mae maint y sylfaen ar gyfer cartrefi â chwe phreswylydd neu fwy yn fach iawn.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Un | 86% | 88% | 86% | 86% | 79% | 79% | 82% | 90% | 72% | 80% |
Dau | 84% | 88% | 84% | 89% | 84% | 83% | 83% | 87% | 73% | 83% |
Tri i Bump | 81% | 82% | 81% | 82% | 85% | 80% | 77% | 85% | 72% | 83% |
Chwech neu fwy | 78% | 79% | 79% | 80% | 96% | 81% |
Sylfaen (amhwysol): Prydain Fawr 2022 9,495, Prydain Fawr 2018 8,791, Gogledd Iwerddon 2022 1,948, Gogledd Iwerddon 2018 1,718
Newidynnau daearyddol
Dangosir gwahaniaethau allweddol yn ôl categorïau daearyddol isod.
Mae rhywfaint o amrywiadau o hyd o ran lefelau cyflawnrwydd ymhlith rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, mae'r cyfyngau hyder ar y canlyniadau yn golygu nad yw'r rhan fwyaf o'r gwahaniaethau yn ystadegol bwysig. Mae Dwyrain Canolbarth Lloegr yn cofnodi lefelau cyflawnrwydd llawer uwch o gymharu â Llundain.
Lleoliad | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 |
Dwyrain Lloegr | 79% | 86% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 83% | 91% |
Llundain | 81% | 82% |
Gogledd-ddwyrain Lloegr | 83% | 88% |
Gogledd-orllewin Lloegr | 85% | 84% |
De-ddwyrain Lloegr | 84% | 88% |
De-orllewin Lloegr | 84% | 86% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 86% | 87% |
Swydd Efrog a Humber | 87% | 86% |
Ym Mhrydain Fawr yn ei chyfanrwydd a Gogledd Iwerddon, mae cyflawnrwydd yn parhau i fod ychydig yn uwch mewn ardaloedd gwledig o gymharu ag ardaloedd trefol. Nid oes fawr ddim gwahaniaeth, os o gwbl, rhwng y categorïau yng Nghymru a'r Alban.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Trefol | 83% | 85% | 83% | 86% | 84% | 88% | 81% | 87% | 70% | 81% |
Gwledig | 85% | 89% | 84% | 90% | 91% | 88% | 81% | 86% | 76% | 85% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 9,474, Gogledd Iwerddon 1,943
Yn Lloegr, ymhlith mathau gwahanol o ardaloedd awdurdod lleol, ym mwrdeistrefi Llundain y gwelwyd y newid mwyaf nodedig mewn cyflawnrwydd, gyda chynnydd o 76% yn 2018 i 82% yn 2022.
Lleoliad | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 |
Dosbarth | 84% | 89% |
Bwrdeistref Llundain | 76% | 82% |
Bwrdeistref fetropolitanaidd | 86% | 85% |
Awdurdodau unedol | 83% | 84% |
Awdurdodau unedol yn yr Alban | 83% | 81% |
Awdurdodau unedol yng Nghymru | 81% | 87% |
Gogledd Iwerddon | 73% | 83% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 9,495, Gogledd Iwerddon 1,943
Nodweddion agweddol ac ymddygiadol
Mae cofrestru i bleidleisio yn gofyn am weithredu gan bleidleiswyr ac mae agweddau pobl tuag at gofrestru a phleidleisio hefyd yn effeithio ar lefelau cyflawnrwydd.
Mae cyflawnrwydd ar ei isaf ymhlith pobl sy'n credu nad yw'n werth cofrestru ac ar ei uchaf ymhlith y rhai sy'n credu bod dyletswydd ar bawb i gofrestru i bleidleisio.
Lleoliad | Prydain Fawr | Gogledd Iwerddon | ||
---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Nid yw'n werth cofrestru | 72% | 74% | 54% | 69% |
Unig werth cofrestru i bleidleisio yw sicrhau gwiriad credyd gwell | 68% | 80% | 52% | 82% |
Dim ond os oes ots ganddynt pwy sy'n ennill etholiad y dylai pobl gofrestru i bleidleisio | 79% | 83% | 68% | 72% |
Mae dyletswydd ar bawb i gofrestru i bleidleisio | 85% | 91% | 77% | 87% |
Sylfaen (amhwysol): Prydain Fawr 2022, 4,692, 2018 4,679; Gogledd Iwerddon 2022 935, 2018 945
Mae agweddau at bleidleisio yn dangos patrwm tebyg, gyda chyflawnrwydd ar ei isaf ymhlith y rheini sy'n credu nad yw'n werth pleidleisio ac ar ei uchaf ymhlith pobl sy'n credu bod dyletswydd ar bawb i bleidleisio (91%).
Lleoliad | Prydain Fawr | Gogledd Iwerddon | ||
---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Nid yw'n werth pleidleisio | 78% | 77% | 62% | 74% |
Dim ond os oes ots ganddynt pwy sy'n ennill etholiad y dylai pobl bleidleisio | 79% | 84% | 64% | 77% |
Mae dyletswydd ar bawb i bleidleisio | 84% | 91% | 77% | 86% |
Sylfaen (amhwysol)Base (unweighted): Prydain Fawr 2022 4,664, 2018 4,679; Gogledd Iwerddon 2022 919, 2018 945
Gofynnwyd cwestiynau pellach yng Ngogledd Iwerddon er mwyn ystyried sut y gallai cyflawnrwydd yma amrywio yn ôl ymlyniad gwleidyddol dinasyddion. Mae cyflawnrwydd yn uwch ymhlith y rheini sy'n nodi eu bod yn Genedlaetholwyr neu'n Unoliaethwyr nag ydyw ymhlith y rheini nad oes ganddynt yr un o'r ymlyniadau gwleidyddol a nodwyd (Unoliaethwr, Teyrngarwr, Gweriniaethwr, Cenedlaetholwr).
Lleoliad | Gogledd Iwerddon | |
---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 |
Cenedlaetholwr | 76% | 89% |
Undebwr | 80% | 92% |
Nid y naill na'r llal | 65% | 76% |
Sylfaen (amhwysol): 2022 899, 2018 945
Cywirdeb
summary
Mae cywirdeb wedi aros yn sefydlog ers 2018 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ond mae wedi cynyddu'n sylweddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae bellach yn gyson â'r ffigurau ar gyfer Prydain Fawr. Mae aelwydydd lle mae'r preswylwyr presennol wedi byw yn y cyfeiriad am lai o amser, a'r rhai sy'n rhentu gan landlord preifat, yn parhau i fod yn fwy tebygol o fod â chofnodion anghywir ar y cofrestrau.
Flwyddyn | 2011 | 2012 | 2014 | 2015 | 2018 | 2022 | Change from 2022 |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Prydain Fawr | 82% | - | 85% | 84% | 83% | 86% | +3 |
Lloegr | - | - | - | 84% | 83% | 86% | +3 |
Yr Alban | - | - | - | 85% | 83% | 81% | -2 |
Cymru | - | - | - | 84% | 81% | 87% | +6 |
Gogledd Iwerddon | - | 71% | - | 79% | 73% | 83% | +10 |
Mathau o wallau
Wrth ddadansoddi cywirdeb y cofrestrau etholwyr, gellir nodi
nifer o wahanol fathau o wallau. Yna gellir categoreiddio'r gwallau hyn fel
gwall ‘mawr’ neu wall ‘bach’:
Ni fyddai gwall bach yn rhwystro rhywun rhag bwrw ei bleidlais (e.e. enw wedi'i gamsillafu). Mae gwall mawr yn cynnwys unrhyw rai o'r canlynol:
- A. Cofnodion sy'n cyfeirio at unigolion nad ydynt yn byw yn y cyfeiriad a roddwyd mwyach
- B. Cofnodion a all rwystro unigolyn rhag bwrw ei bleidlais mewn gorsaf bleidleisio (e.e. enw anghywir)
- C. Gwallau a fyddai'n galluogi person nad yw'n gymwys i bleidleisio (e.e. dyddiad geni anghywir ar gyfer rhywun dan 18 oed)
Ceir dadansoddiad o'r mathau o wallau a ddefnyddiwyd i gyfrifo cywirdeb y cofrestrau yn y tabl isod.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Gwallau mawr (A) - Neb o'r un enw yn byw yn y cyfeiriad | 10.4% | 9.8% | 7.7% | 9.8% | 10.0% | 9.7% | 8.2% | 9.3% | 18.7% | 13.0% |
Gwallau mawr (B) | 0.7% | 1.1% | 0.6% | 1.2% | 0.5% | 0.8% | 0.2% | 0.6% | 0.7% | 0.7% |
Gwallau mawr (C) | 0.5% | 0.7% | 0.4% | 0.7% | 0.4% | 1.6% | 0.4% | 0.9% | 0.6% | 0.2% |
Yn gywir gyda gwallau bach | 9.1% | 8.8% | 7.9% | 8.9% | 9.6% | 14.3% | 7.9% | 9.0% | 5.6% | 7.6% |
Cyfanswm y gwallau mawr | 11.2% | 11.7% | 8.7% | 11.7% | 10.9% | 12.1% | 8.8% | 10.8% | 20.1% | 14.1% |
Enw cyntaf a/neu gyfenw yn anghywir ar y gofrestr | 0.4% | 0.7% | 0.3% | 0.7% | 0.2% | 0.5% | 0.2% | 0.3% | 0.5% | 0.5% |
Dim enw cyntaf a/neu gyfenw ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% | 0.0% |
Wedi'u nodi fel dinasyddion y DU/Iwerddon/y Gymanwlad | 0.3% | 0.5% | 0.3% | 0.5% | 0.3% | 0.4% | 0.0% | 0.3% | 0.2% | 0.2% |
Yr enw ar y gofrestr yn cyfateb i enw anghymwys ar yr arolwg | 0.2% | 0.3% | 0.1% | 0.3% | 0.1% | 0.0% | 0.2% | 0.0% | 0.5% | 0.2% |
Cyrhaeddwyr - dyddiad geni ar goll neu'n anghywir | 0.1% | 0.2% | 0.1% | 0.1% | 0.2% | 1.6% | 0.0% | 0.8% | 0.0% | 0.0% |
Heb eu nodi fel dinasyddion yr UE | 0.2% | 0.2% | 0.2% | 0.2% | 0.1% | 0.1% | 0.2% | 0.1% | 0.1% | 0.0% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 2018 9,155, Prydain Fawr 2022 9,478, Gogledd Iwerddon 2018 1,783, Gogledd Iwerddon 2022 1,975
Nodweddion demograffig
Mae archwilio amrywiadau demograffig anghywirdebau ar y cofrestrau etholiadol yn heriol. Mae hyn am na allwn gofnodi manylion demograffig ar gyfer unigolyn sydd wedi'i gofrestru ond nad yw'n byw yn y cyfeiriad mwyach. Mae'r dadansoddiad isod yn ystyried data'r aelwyd lle cyfwelwyd â phreswylydd. Fodd bynnag, darlun cyfyngedig a geir gan y data hyn o hyd ac felly rhaid cymryd gofal wrth ymdrin â'r wybodaeth.
Mae cywirdeb yn ôl deiliadaeth yn dilyn patrwm tebyg i gyflawnrwydd. Ym Mhrydain Fawr, aelwydydd sy'n eiddo i berchen-feddianwyr sydd fwyaf tebygol o fod â chofnodion cywir ar y cofrestrau (96%). Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan 89% o'r rheini sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr gofnodion cywir yn y cofrestrau, yn ogystal â 90% o'r rhai sydd â morgais neu gynllun rhanberchnogaeth.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Perchen-feddianwyr | 95% | 96% | 96% | 96% | 90% | 94% | 94% | 95% | 86% | 89% |
Prynu gyda morgais/ rhanberchnogaeth | 95% | 91% | 95% | 91% | 94% | 89% | 93% | 92% | 86% | 90% |
Pobl sy'n rhentu'n breifat | 81% | 77% | 81% | 78% | 79% | 58% | 82% | 78% | 61% | 75% |
Pobl sy'n rhentu gan yr awdurdod lleol | 92% | 88% | 92% | 87% | 91% | 94% | 91% | 88% | 82% | 83% |
Pobl sy'n rhentu gan Gymdeithas Dai | 91% | 90% | 91% | 90% | 86% | 91% | 91% | 85% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 8,816, Gogledd Iwerddon 1,881
Caiff gradd gymdeithasol ei chyfrifo ar lefel yr aelwyd hefyd, yn seiliedig ar alwedigaeth y prif enillydd incwm. Er bod rhywfaint o gydberthynas negyddol rhwng gradd gymdeithas a chywirdeb yn 2018, yn 2022, roedd cywirdeb bron yn gwbl wastad ar draws y graddau cymdeithasol ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
AB | 94% | 97% | 95% | 91% | 89% | 91% | 93% | 92% | 86% | 99% |
C1 | 93% | 98% | 93% | 91% | 93% | 87% | 96% | 93% | 85% | 98% |
C2 | 93% | 98% | 94% | 93% | 90% | 90% | 95% | 93% | 82% | 98% |
DE | 89% | 98% | 89% | 89% | 88% | 92% | 86% | 88% | 78% | 98% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 8,449, Gogledd Iwerddon 1,708
Mae cywirdeb ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn dilyn yr un patrwm â chyflawnrwydd wrth ystyried am faint o amser y mae aelwydydd wedi bod yn byw yn eu llety, gyda lefelau uwch o anghywirdeb mewn aelwydydd a newidiodd eu preswylfa yn fwy diweddar.
Lleoliad | Prydain Fawr | Lloegr | Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Flwyddyn | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 | 2018 | 2022 |
Hyd a flwyddyn | 56% | 54% | 57% | 54% | 71% | 67% | 73% | 69% | 22% | 38% |
Rhwng 1 a 2 flynedd | 93% | 84% | 93% | 84% | 58% | 85% | ||||
Rhwng 1 a 2 mlynedd | 94% | 91% | 94% | 91% | 97% | 88% | 92% | 93% | 84% | 87% |
Rhwng 5 a 10 mlynedd | 96% | 94% | 96% | 94% | 98% | 91% | 93% | 91% | 90% | 91% |
Rhwng 10 ac 16 mlynedd | 95% | 94% | 95% | 94% | 92% | 94% | 96% | 92% | 90% | 93% |
Dros 16 mlynedd | 95% | 95% | 96% | 95% | 91% | 93% | 95% | 96% | 87% | 89% |
Sylfeini (amhwysol): Prydain Fawr 8,342, Gogledd Iwerddon 1,685
Edrych i'r dyfodol: mynd i'r afael â heriau cywirdeb a chyflawnrwydd
Mae'r dystiolaeth o'r ymchwil hon yn dangos, er y bu gwelliannau mewn rhai ardaloedd ers ein dadansoddiad blaenorol o gofrestrau etholiadol 2018, nid yw cynifer ag 8 miliwn o bobl ledled y DU wedi'u cofrestru i bleidleisio yn gywir o hyd.
Mae hyn yn golygu bod posibilrwydd na fyddant yn gallu pleidleisio pan gaiff etholiadau eu cynnal, ac ni chânt eu cyfrif o gwbl pan gaiff ffiniau etholaethau eu pennu. Mae hefyd yn golygu, yn ystod y cyfnod mwyaf hanfodol cyn etholiadau mawr, fod gofyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddefnyddio eu hadnoddau a'u capasiti cyfyngedig i ymateb i geisiadau sydd eu hangen fel y gall cofrestrau ddal i fyny â symudiad y boblogaeth ac y gall pleidleiswyr cymwys gymryd rhan.
Mae'r dystiolaeth hon yn parhau i dynnu sylw at yr angen i ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â chofrestru etholiadol a fydd yn arwain at welliannau hirdymor parhaus. Bydd gofyn i lywodraethau gyflwyno deddfwriaeth er mwyn cyflawni hyn. Rydym yn nodi'r achos dros newid isod, ac yn esbonio ein cynigion ein hunain ar gyfer sut y gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael budd o fynediad at wybodaeth gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill.
recs
Rydym ni a sawl un arall – gan gynnwys Pwyllgorau Seneddol, cymdeithasau proffesiynol ac academyddion – wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at dystiolaeth sy'n dangos effaith y systemau cofrestru etholiadol diffygiol sydd yn y DU ar hyn o bryd:
- Mae tystiolaeth o'n rhaglen ymchwil i gofrestru etholiadol dros fwy na degawd yn parhau i ddangos bod hyd at 8 miliwn o bobl ledled y DU naill ai ar goll o'r cofrestrau neu wedi'u cofrestru'n anghywir, sy'n golygu na allant ddweud eu dweud. Rydym wedi canfod yn gyson fod rhai grwpiau penodol o bobl yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru'n gywir, yn enwedig pobl ifanc, pobl sy'n byw mewn llety rhent preifat a'r rheini sydd wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar. Mae nifer y bobl yr amcangyfrifir nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir yn fwy na phoblogaeth oedolion Cymru a'r Alban gyda'i gilydd, a byddai'n gyfystyr â mwy na 100 o etholaethau Senedd y DU.
- Er bod newidiadau i'r canfasiad blynyddol ym Mhrydain Fawr wedi helpu i leihau'r adnoddau a'r capasiti a ddefnyddir drwy fynd ar drywydd aelwydydd heb unrhyw newidiadau yn ddiangen, mae tystiolaeth o'r canfasiad blynyddol diweddaraf yn 2022 i awgrymu ei fod yn ddull llawer llai effeithiol o nodi pobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n gymwys i gofrestru am y tro cyntaf, o gymharu â phobl hŷn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o'n hymchwil ddiweddaraf i gofrestrau 2022 fod diwygio'r canfasiad wedi arwain at unrhyw welliant sylweddol yng nghywirdeb neu gyflawnrwydd y cofrestrau ym Mhrydain Fawr.
- Nododd ein dadansoddiad o'r canfasiad diweddaraf yng Ngogledd Iwerddon yn 2021 nad yw'r canfasiad, ar ei ffurf bresennol, yn ffordd effeithlon o helpu i gynnal cofrestr etholiadol gywir a chyflawn, a hynny i'r Prif Swyddog Etholiadol ac i bleidleiswyr. Er bod y gwelliannau o ran cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau 2022 a nodwyd yn yr ymchwil hon o ganlyniad i ganfasiad 2021, rydym wedi gweld gostyngiadau dilynol rhwng canfasiadau yn y gorffennol pan fo'r system gofrestru barhaus ar waith. Mae'r system gofrestru yn parhau i gael anawsterau wrth geisio cofnodi symudiad y boblogaeth yn ystod y cyfnod rhwng pob canfasiad, ac mae'r broses ganfasio ei hun yn golygu bod angen i'r Swyddfa Etholiadol gysylltu â'r holl etholwyr cymwys, a chael ymateb ganddynt, hyd yn oed os oeddent wedi'u cofrestru cyn y canfasiad ac nid oedd eu manylion wedi newid.
- Nododd ein hymchwil ddiweddar ar agweddau at gofrestru fod pobl yn parhau i wynebu rhwystrau ymarferol ac o ran gwybodaeth wrth gofrestru i bleidleisio gyda'r system bresennol. Mae hyn yn cynnwys camddeall y broses gofrestru a thybiaethau anghywir am b'un a yw pobl eisoes wedi'u cofrestru, a lefelau isel o fyrder neu flaenoriaeth i gofrestru i bleidleisio. Nid yw rhai pobl yn sylweddoli bod yn rhaid iddynt wneud cais i gofrestru i bleidleisio, nid ydynt yn gwybod sut i wneud cais ac nid ydynt yn credu bod cofrestru yn flaenoriaeth pan fyddant yn newid cyfeiriad.
- Mae proses gofrestru ar-lein hygyrch yn golygu ei bod yn hawdd i bobl wneud cais i gofrestru, diweddaru neu gadarnhau eu cofrestriad drwy gydol y flwyddyn, a gwneud hynny yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad. Ond, fel y nodwyd yn ein hadroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2019, mae hyn yn golygu bod llawer iawn o weithgarwch cofrestru etholiadol yn mynd rhagddo yn ystod yr wythnosau cyn digwyddiadau etholiadol mawr, sy'n cynyddu risgiau i etholiadau effeithiol yn sylweddol.
Mae tystiolaeth o'n rhaglen ymchwil i gofrestru etholiadol dros fwy na degawd yn dangos bod nifer mawr o bobl wedi'u cofrestru'n anghywir o hyd. Ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu bod lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd yn debygol o wella yn sylweddol heb newidiadau mawr i'r system gofrestru etholiadol bresennol.
Mae cyflwyno system gofrestru ar-lein ers 2014 (ac ers 2018 yng Ngogledd Iwerddon) wedi gwella mynediad a'i gwneud yn haws i bobl gofrestru i bleidleisio cyn digwyddiadau etholiadol penodol, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol a pharhaus ar lefelau cywirdeb neu gyflawnrwydd cyffredinol. Mae'r data diweddaraf o gofrestrau 2022 yn dangos nad oedd unrhyw welliant sylweddol ym Mhrydain Fawr o ran cyfran y bobl sydd wedi'u cofrestru'n gywir, hyd yn oed os yw'r dirywio o ran cyfraddau cywirdeb a chyflawnrwydd a nodwyd mewn astudiaethau blaenorol wedi arafu o leiaf.
Rydym wedi nodi ers 2019 sut y gallai llywodraethau'r DU gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol – a gwella effeithlonrwydd er mwyn lliniaru'r baich o ran adnoddau – drwy roi mynediad iddynt at ddata o ansawdd uchel gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill. Byddai hyn yn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fanteisio ar y miliynau o drafodiadau y mae pleidleiswyr eisoes yn eu cael â sefydliadau mawr y sector cyhoeddus, a gallai weithio ochr yn ochr â'r canfasiad blynyddol presennol a gweithgareddau cofrestru ar-lein a gynhelir drwy'r flwyddyn, a'u gwella.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi ei bwriad i weithio gydag awdurdodau lleol i gynllunio a threialu prosesau cofrestru pleidleiswyr awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig, a byddwn yn parhau i weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad pellach y maes gwaith pwysig hwn.
Mae angen cynllun clir ar y gymuned etholiadol i foderneiddio prosesau cofrestru etholiadol
Dylid ystyried newidiadau i'r ffordd y caiff etholiadau a chofrestrau etholiadol eu cynnal mewn ymgynghoriad â'r gymuned etholiadol gyfan. Mae profiadau pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadau, a phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn ystyriaethau pwysig er mwyn creu system gofrestru sy'n gweithio'n dda i bawb, a sicrhau y gall pob pleidleisiwr cymwys ddweud ei ddweud mewn etholiadau.
Er mwyn datblygu cynigion manwl penodol i symud tuag at systemau cofrestru etholiadol mwy awtomatig neu wedi'u hawtomeiddio, byddai angen cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid:
- Byddai sefydliadau ffynhonnell data (er enghraifft, y DVLA/DVA, CThEF neu HMPO) yn dod â'u dealltwriaeth fanwl o'r data a'r trafodiadau y maent yn eu rheoli ar hyn o bryd, a byddai angen eu sicrhau bod y broses o rannu data yn weithredol syml, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â'r gyfraith.
- Byddai angen i bartneriaid technegol – gan gynnwys cyflenwyr meddalwedd rheoli etholiadol a'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol, a gaiff ei reoli gan swyddogion yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'i gefnogi gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth – gydweithio â'r sefydliadau ffynhonnell data er mwyn sicrhau y caiff data eu rheoli a'u trosglwyddo i Swyddogion Cofrestru Etholiadol unigol mewn ffordd ddiogel ac effeithlon.
- Byddai angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hunain ystyried unrhyw newidiadau i'w timau a'u prosesau, fel y gallant integreiddio trefniadau cofrestru awtomatig neu awtomataidd ochr yn ochr â'r canfasiad blynyddol presennol a'r gweithgareddau cofrestru ar-lein a gynhelir drwy'r flwyddyn
- Byddai angen i lywodraethau ddeddfu er mwyn creu'r pyrth cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer rhannu data gan sefydliadau ffynhonnell data, a nodi pwerau a dyletswyddau Swyddogion Cofrestru Etholiadol i benderfynu ar geisiadau cofrestru a gaiff eu creu gan ddefnyddio prosesau awtomatig neu awtomataidd.
- Byddai angen i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth roi cyngor ac arweiniad ar sut i reoli risgiau gwybodaeth mewn perthynas â rhannu data.
Mae gwneud cofrestru etholiadol yn fwy cydgysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill a thrafodiadau dinasyddion yn codi cwestiynau arbennig o bwysig yn ymwneud â diogelu data a seiberddiogelwch. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig ym mis Chwefror 2023 i ymchwiliad y Pwyllgor Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i gofrestru etholiadol, nododd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fesurau sydd eisoes wedi'u rhoi ar waith i wella cadernid a diogelwch y gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol ynghyd ag argymhellion pellach ar gyfer gwelliannau – er enghraifft, mewn perthynas â rhoi gwybod am ddigwyddiadau seiber yn y sector llywodraeth leol. Byddai hefyd angen mesurau diogelu tebyg neu gyfwerth ar gyfer unrhyw systemau a fyddai'n cael eu sefydlu i reoli'r gwaith o ddarparu a defnyddio data ar gyfer prosesau cofrestru etholiadol awtomatig neu awtomataidd.
Recommendations: Delivering modern registration processes
Argymhellion: Darparu prosesau cofrestru modern
Mae angen cynllun clir ar y gymuned etholiadol i sicrhau bod prosesau cofrestru etholiadol yn cael eu moderneiddio fel bod pobl yn cael eu cofrestru ac yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio.
Fel rhan o'r cynllun hwn, dylai llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban basio deddfwriaeth sy'n creu pyrth cyfreithiol clir i adrannau'r llywodraeth a chyrff yn y sector cyhoeddus rannu data ar unigolion a allai fod yn gymwys â Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Mae angen hyn er mwyn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i'w cofrestru i bleidleisio yn uniongyrchol, neu i anfon gwahoddiadau i gofrestru wedi'u targedu atynt.
Dylai pob un o'r tair llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i adrannau perthnasol a chyrff cyhoeddus eraill weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol i hwyluso'r broses cofrestru etholiadol gan ddefnyddio eu data. Byddai dull gweithredu cyson rhwng llywodraethau yn sicrhau bod newidiadau yn cael eu datblygu a'u rhoi ar waith mewn ffordd sy'n gwneud y broses mor syml â phosibl i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a sefydliadau ffynhonnell data, ac sy'n sicrhau bod pleidleiswyr yn cael eu cynnwys yn gywir yn y cofrestrau ar gyfer pob math o etholiadau y maent yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Dylai Llywodraeth y DU ddatblygu'r gwasanaeth digidol Cofrestru Etholiadol Unigol presennol fel y gall gefnogi dulliau rhannu data diogel ac effeithlon rhwng sefydliadau ffynhonnell data a Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u systemau meddalwedd rheoli etholiadol, er mwyn gallu darparu prosesau cofrestru modern.
Mae astudiaethau achos yn dangos sut y gellid moderneiddio'r broses gofrestru
Rydym wedi siarad â sawl un o adrannau Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus, prifysgolion a chynlluniau blaendal tenantiaeth am y data sydd ganddynt. Gwnaethom drafod a ddylid defnyddio data i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol, a sut y gellid gwneud hyn. Gwnaethom ganolbwyntio'n benodol ar sut y gallai dulliau gweithredu newydd wella cyfraddau cofrestru ymhlith y grwpiau hynny o bobl y mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson sy'n llai tebygol o fod wedi'u cofrestru'n gywir: cyrhaeddwyr a phobl ifanc eraill; pobl sy'n byw mewn llety rhent preifat; a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar.
Yn dibynnu ar ansawdd a chwmpas y setiau data, a'r meysydd data penodol sydd ar gael, rydym wedi nodi newidiadau a allai gefnogi lefelau a ffurfiau gwahanol o foderneiddio, gan amrywio o gofrestru awtomatig i ffyrdd integredig neu gynorthwyol o gofrestru lle byddai angen i bleidleiswyr ddarparu rhywfaint o wybodaeth yn uniongyrchol eu hunain o hyd.
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cofrestru i bleidleisio ar hyn o bryd yn cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cenedligrwydd a rhif Yswiriant Gwladol yr unigolyn. Hefyd, mae'n rhaid i gais nodi a yw'r pleidleisiwr yn dymuno cael ei gynnwys ar y gofrestr agored sydd ar gael i unrhyw un sydd am brynu copi. Mae angen nodi gwybodaeth am genedligrwydd o ystyried yr etholfreintiau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o etholiad, ac mewn rhai achosion – er enghraifft, i ddinasyddion y Gymanwlad – mae'n rhaid i ymgeiswyr hefyd gadarnhau bod ganddynt ganiatâd i ddod i mewn i'r DU neu i aros yn y DU, neu nad oes angen y caniatâd hwnnw arnynt. Caiff y rhif Yswiriant Gwladol ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel ffordd o gadarnhau pwy yw unigolyn gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Rydym wedi amlinellu ystod o opsiynau isod ar gyfer prosesau cofrestru newydd, sydd wedi cael eu llywio gan ein trafodaethau â'r adrannau a'r sefydliadau a nodwyd uchod. Ni chafodd yr astudiaethau achos hyn eu cynnig gan y sefydliadau dan sylw ac ni chytunwyd yn ffurfiol arnynt gyda nhw.
Mae un o'r astudiaethau achos – integreiddio cofrestru etholiadol yn y broses o gofrestru myfyrwyr prifysgol – yn disgrifio'r model cyfredol a ddefnyddir gan Brifysgol Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd i gynyddu lefelau cofrestru ymhlith myfyrwyr. Mae astudiaeth achos bellach – defnyddio data cynlluniau blaendal tenantiaeth i wella lefelau cofrestru ymhlith pobl sy'n rhentu'n breifat drwy gyfeirio – yn seiliedig ar ein trafodaethau â chynrychiolwyr y cynlluniau, sydd wedi nodi eu bod yn barod i ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu'r syniad hwn gyda ni. Mae'r astudiaethau achos eraill – sef Swyddfa Basbort EF, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau/Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi – yn fwy damcaniaethol ac yn adlewyrchu ein safbwyntiau o ran beth allai weithio yn ymarferol.
Byddai angen gwaith ymchwiliol pellach i gadarnhau dichonoldeb a goblygiadau darparu'r opsiynau hyn.
Cofrestru awtomatig
Mae cofrestru awtomatig yn golygu y byddai sefydliad ffynhonnell data yn rhoi enwau a chyfeiriadau pobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer cofrestru i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Oherwydd y wybodaeth benodol sydd ei hangen i bleidleisio, mae'n debygol mai ychydig iawn o ffynonellau data fyddai'n gallu cefnogi proses gofrestru gwbl awtomatig. Mae'r astudiaeth achos isod yn nodi sut y gallai'r wybodaeth y mae angen i ddinasyddion Prydeinig ei darparu fel rhan o'r broses o wneud cais am basbort fodloni'r gofynion hyn.
Byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â'r bobl hyn yn eu cyfeiriad cartref i roi gwybod iddynt y byddant yn cael eu hychwanegu at y gofrestr, gan roi'r cyfle iddynt ofyn am gael eu cofrestru fel etholwr dienw pe byddai eu cofrestru fel etholwr cyffredin yn peri risg i'w diogelwch. Byddai cyfle hefyd i unrhyw un arall sy'n byw yn y cyfeiriad roi tystiolaeth nad yw'r unigolyn yn gymwys i gael ei gofrestru yno mewn gwirionedd.
Yn amodol ar unrhyw dystiolaeth bellach nad oedd yr unigolyn yn gymwys i gofrestru, byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ei ychwanegu'n uniongyrchol at y gofrestr.
Gallai'r sefydliad ffynhonnell data gyfyngu ar y wybodaeth roedd yn ei rhoi i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn cynnwys cofnodion newydd neu a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn unig. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol fod y data yn gyfredol a dylai leihau'r risg o ddyblygu gweithgarwch cofrestru gyda phobl sydd eisoes wedi gwneud cais i gofrestru.
Gellid defnyddio gwasanaeth prosesu data canolog, yn debyg i'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol cyfredol, i symleiddio'r broses o drosglwyddo data rhwng sefydliadau ffynhonnell data a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Gellid defnyddio hwn i sgrinio etholwyr newydd posibl yn erbyn cofrestrau etholiadol cyfredol hefyd, er mwyn lleihau cofrestriadau dyblyg.
Automatic registration of voters is common around the world
Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree adroddiad yn 2020 o'r enw Is it time for Automatic Voter Registration in the UK?. Yn ôl yr adroddiad, mae prosesau cofrestru awtomatig yn cael eu defnyddio gan 40 o wledydd yr ystyrir bod ganddynt ddemocratiaeth ryddfrydol. Mae ymchwil gymharol ryngwladol fwy diweddar wedi dangos bod prosesau cofrestru awtomatig nid yn unig yn cynyddu cyflawnrwydd cofrestrau etholiadol, ond hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gywirdeb.
Yn ôl yr International Institute for Democracy and Electoral Assistance (IDEA), yn yr Ariannin, Awstria, Denmarc, Estonia, yr Almaen, Japan, yr Eidal, Sbaen a De Korea (ymhlith eraill), caiff y gofrestr etholiadol genedlaethol ei thynnu o gofrestrfa'r boblogaeth/y gofrestrfa sifil.
Mae Comisiwn Etholiadol Awstralia yn gweithredu'r rhaglen Federal Direct Enrolment and Update. Mae'n defnyddio data dibynadwy gan asiantaethau eraill y llywodraeth i ychwanegu rhai unigolion at y gofrestr etholiadol neu i ddiweddaru eu cofrestriad etholiadol. Mae'n ysgrifennu at unigolion er mwyn rhoi gwybod iddynt am yr ychwanegiad neu'r diweddariad.
Mewn pum talaith yn America, yn ôl y National Conference of State Legislatures, pan fydd unigolyn yn gwneud cais am drwydded yrru a/neu'n ymgysylltu ag un o asiantaethau eraill y dalaith, defnyddir y data o'r trafodiad i'w cofrestru i bleidleisio. Bydd y pleidleisiwr yn cael hysbysiad yn rhoi gwybod iddo y bydd yn cael ei gofrestru oni bai ei fod yn ymateb iddo ac yn gwrthod y cofrestriad.
Yng Nghanada, caiff y Gofrestr Etholwyr Genedlaethol ei diweddaru gan ddefnyddio data o asiantaethau etholiadol, ystadegol a thrwyddedau gyrru taleithiol a thiriogaethol. Mae Elections Nova Scotia yn diweddaru data'r rhestr pleidleiswyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y Nova Scotia Civic Address File, y Nova Scotia Civic Address File ac Elections Canada.
case study
Astudiaeth achos ar gofrestru awtomatig: defnyddio data Swyddfa Basbort EF i wella lefelau cofrestru ymhlith pobl ifanc a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar
Un o asiantaethau'r Swyddfa Gartref yw Swyddfa Basbort EF (HMPO) sy'n cyflwyno pasbortau i ddinasyddion Prydeinig. Mae HMPO yn cynnal gwiriadau hunaniaeth i gadarnhau pwy yw ymgeisydd, gan gynnwys gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Mae data pasbortau eisoes yn cael eu rhannu ag oddeutu 80 o adrannau'r llywodraeth a chyrff sector cyhoeddus er mwyn cynnal tua 25 miliwn o wiriadau hunaniaeth bob blwyddyn.
Mae HMPO yn rhagweld y bydd yn cael tua 7.4 miliwn o geisiadau am basbortau yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd y ceisiadau hyn yn cwmpasu'r ystod lawn o grwpiau oedran, gan gynnwys ceisiadau gan bobl ifanc 16 oed a throsodd sy'n gwneud cais am basbortau oedolion, a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar.
Pan fydd rhywun yn gwneud cais am basbort, rhaid iddo ddarparu ei enw, ei ddyddiad geni, tystiolaeth ei fod yn ddinesydd Prydeinig, a chyfeiriad cartref ar gyfer dosbarthu'r pasbort. Er nad yw HMPO yn casglu rhifau Yswiriant Gwladol gan ymgeiswyr, mae'n cynnal gwiriadau trwyadl i gadarnhau pwy yw ymgeiswyr, a allai gynnig digon o sicrwydd ar gyfer cais cofrestru etholiadol (sy'n gyfwerth â'r sicrwydd a ddarperir drwy wirio rhifau Yswiriant Gwladol ar hyn o bryd).
Unwaith y bydd HMPO wedi cadarnhau pwy yw ymgeisydd, gellid trosglwyddo'r data hyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn eu cofrestru i bleidleisio yn awtomatig. Er mwyn gwneud hyn, byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu at yr unigolyn yn rhoi gwybod iddo y bydd yn cael ei roi ar y gofrestr, gan roi'r cyfle iddo gywiro unrhyw wallau a gofyn am gael ei gofrestru'n ddienw pe byddai ei gofrestru fel etholwr cyffredin yn peri risg i'w ddiogelwch.
Byddai cyfle hefyd i unrhyw un arall sy'n byw yn y cyfeiriad roi tystiolaeth nad yw'r unigolyn yn gymwys i gael ei gofrestru yno.
Byddai angen nodi porth cyfreithiol priodol er mwyn rhannu data'r HMPO at ddiben cofrestru etholiadol. Mae'n debyg y bydd angen newidiadau deddfwriaethol er mwyn creu porth.
Ceisiadau cofrestru integredig
Mae model cofrestru integredig yn golygu y byddai cofrestru i bleidleisio yn cael ei integreiddio mewn trafodiad gwasanaeth cyhoeddus arall. Ar ddiwedd y trafodiadau hynny, gofynnir i bobl a hoffent gofrestru i bleidleisio hefyd.
Os bydd yr unigolyn yn cadarnhau yr hoffai wneud hynny, byddai data perthnasol yn cael eu trosglwyddo i gais cofrestru etholiadol. Byddai'r unigolyn yn cael gwybodaeth am gymhwystra i bleidleisio a byddai angen iddo gadarnhau ei fod yn gymwys yn yr un ffordd â'r drefn bresennol wrth wneud cais gan ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru etholiadol ar-lein. Byddai hefyd yn darparu unrhyw ddata coll, megis rhif Yswiriant Gwladol a chenedligrwydd.
Ar ôl cwblhau'r cais, byddai'r data hyn yn cael eu trosglwyddo i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol drwy'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol. Byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn prosesu'r cais, yn ychwanegu'r unigolyn at y gofrestr ac yn ysgrifennu ato er mwyn cadarnhau ei fod wedi cael ei ychwanegu.
Gan y byddai'r unigolyn wedi diweddaru ei fanylion yn ddiweddar fel rhan o'r trafodiad gwasanaeth cyhoeddus hwnnw ac wedi darparu'r data sy'n weddill yr oedd eu hangen i gofrestru, gallai Swyddogion Cofrestru Etholiadol fod yn sicr bod ei ddata, yn enwedig ei gyfeiriad, yn gyfredol.
Mae nifer o wledydd a thiriogaethau yn integreiddio'r broses gofrestru etholiadol i fod yn rhan o drafodiadau gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Yng Nghanada, gall dinasyddion gytuno i rannu eu data ag Elections Canada ar eu ffurflen treth incwm ffederal. Gall dinasyddion newydd gytuno i rannu eu data ag adran Immigration, Refugees and Citizenship Canada ar eu ceisiadau am ddinasyddiaeth.
Yn ôl y National Conference of State Legislatures, mewn 17 o daleithiau yn America a Washington DC, gofynnwyd i bobl a oeddent yn dymuno cofrestru pan oeddent yn gwneud cais am drwydded yrru gan Adran Cerbydau Modur y dalaith a/neu pan oeddent yn rhyngweithio ag un o asiantaethau eraill y llywodraeth. Os byddant yn cytuno, caiff eu manylion eu hychwanegu at gronfa ddata cofrestru pleidleiswyr y dalaith.
Integrated registration case study: using university student enrolment to improve registration among young people
Astudiaeth achos ar gofrestru integredig: defnyddio'r broses o gofrestru myfyrwyr prifysgol i wella cyfraddau cofrestru ymhlith pobl ifanc
Mae Prifysgol Caerdydd wedi integreiddio modiwl cofrestru etholiadol yn ei phroses ar-lein ar gyfer cofrestru myfyrwyr. Bydd tasgau cofrestru yn agor ym mis Medi a gall myfyrwyr eu cwblhau hyd at drydedd wythnos mis Hydref, gan gynnwys y dasg cofrestru etholiadol.
Mae'r brifysgol yn cadw data am enw, cyfeiriad, dyddiad geni a chenedligrwydd myfyrwyr. Mae wedi datblygu system godio ar gyfer ystafelloedd yn ei neuaddau preswyl er mwyn helpu'r Tîm Gwasanaethau Etholiadol yng Nghyngor Dinas Caerdydd i baru'r cyfeiriadau â systemau'r cyngor.
Gofynnir i fyfyrwyr a hoffent gofrestru i bleidleisio. Os hoffent wneud hynny, bydd y brifysgol yn gofyn iddynt ddarparu'r data ychwanegol sydd eu hangen i gwblhau'r cais i gofrestru. Mae hyn yn cynnwys eu rhif Yswiriant Gwladol a ph'un a hoffent gael eu cynnwys ar y gofrestr agored/llawn.
Unwaith y bydd gan y brifysgol y data sydd eu hangen ar gyfer ceisiadau i gofrestru, bydd yn eu hanfon i'r Tîm Gwasanaethau Etholiadol yng Nghyngor Dinas Caerdydd a fydd yn cofrestru'r myfywyr. Caiff manylion dros 8,000 o fyfyrwyr eu hanfon i Gyngor Dinas Caerdydd bob blwyddyn a chaiff oddeutu 90% o'r myfyrwyr hyn eu cofrestru bob blwyddyn. Ar ôl i'r wybodaeth gael ei hanfon i'r Cyngor, bydd Prifysgol Caerdydd yn dileu unrhyw ddata sy'n ymwneud â'r broses hon o'i system cofnodion myfyrwyr os nad yw'n eu defnyddio'n fewnol.
case study
Astudiaeth achos ar gofrestru integredig: defnyddio'r broses o wneud cais am drwydded yrru neu adnewyddu trwydded yrru i wella cyfraddau cofrestru ymhlith pobl sydd wedi symud yn ddiweddar a phobl ifanc
Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw'r asiantaeth weithredol sy'n gyfrifol am gyflwyno trwyddedau gyrru ym Mhrydain Fawr. Yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) yw asiantaeth weithredol Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am gyflwyno trwyddedau gyrru yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd unigolion yn rhyngweithio â'r asiantaethau pan fyddant yn gwneud cais am drwydded yrru dros dro, yn adnewyddu neu'n ailymgeisio am eu trwydded yrru cerdyn-llun pan ddaw'r cyfnod dilysrwydd 10 mlynedd i ben, a phan fyddant yn newid cyfeiriad. Mae'r ddwy asiantaeth yn cadw data am enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni, ond nid data am genedligrwydd na rhifau Yswiriant Gwladol.
Mae'r DVLA yn cael tua miliwn o geisiadau am drwyddedau gyrru dros dro a thua 4 miliwn o hysbysiadau am newid cyfeiriad bob blwyddyn. Prosesodd y DVA ychydig dros 29,000 o geisiadau am drwyddedau gyrru dros dro a thua 26,000 o hysbysiadau am newid enw a chyfeiriad rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.
Gellid integreiddio swyddogaeth cofrestru etholiadol yn y trafodiadau hyn yn gofyn i yrwyr a ydynt yn dymuno cofrestru i bleidleisio. Gellid defnyddio'r data sydd eisoes gan y DVLA neu'r DVA i lenwi cais cofrestru etholiadol ymlaen llaw, a bydd y gyrrwr yn darparu unrhyw ddata coll. Yna byddai'r ceisiadau a gwblhawyd yn cael eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol drwy'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol, a fyddai'n penderfynu ar y cais ac yn cofrestru'r unigolyn. Mae'r DVLA wrthi'n datblygu cyfrif ar-lein ar gyfer trwyddedau newydd ar hyn o bryd. Gellid integreiddio swyddogaeth yng nghyfrifon defnyddwyr yn gofyn iddynt a hoffent gofrestru i bleidleisio.
Cofrestru cynorthwyol
Mae cofrestru cynorthwyol yn golygu y byddai sefydliad ffynhonnell data yn rhoi enwau a chyfeiriadau pobl a all fod yn gymwys i bleidleisio i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, gan ystyried gwybodaeth berthnasol am y meini prawf cymhwyso. Yna byddai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu at yr unigolion hynny yn eu gwahodd i gofrestru. Byddai'r gwahoddiad yn gofyn iddynt ddarparu unrhyw wybodaeth goll sydd ei hangen i gwblhau eu cofrestriad (megis eu cenedligrwydd neu eu rhif Yswiriant Gwladol), ac yn rhoi'r cyfle iddynt ofyn am gael eu cofrestru fel etholwr dienw.
Yn debyg i gofrestru awtomatig, byddai trosglwyddo data o drafodiadau diweddar yn unig i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol penodol yn sicrhau bod y data yn gyfredol. Gellid defnyddio gwasanaeth prosesu data canolog, yn debyg i'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol cyfredol, i symleiddio'r broses o drosglwyddo data a lleihau'r posibilrwydd o rannu niferoedd mawr o gofnodion â Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Mae'n gyffredin ar draws y byd i gyrff cyhoeddus rannu data er mwyn cefnogi prosesau cofrestru pleidleiswyr
Mae Elections New Brunswick (ENB) yng Nghanada yn cael gwybodaeth reolaidd am newidiadau i enwau a chyfeiriadau o wybodaeth trwyddedau gyrru. Mae ENB yn cynnal gwiriadau awtomataidd ac â llaw er mwyn ceisio i baru'r data hynny â gwybodaeth ar y Gofrestr Etholwyr. Os na fydd modd paru'r data, bydd ENB yn anfon ffurflen ardystio at yr unigolyn ac amlen i'w dychwelyd. Rhaid i'r unigolyn gwblhau'r ardystiad er mwyn cadarnhau ei fod yn bodloni'r gofynion cymhwystra i gofrestru a'i anfon yn ôl i ENB. Yna caiff yr unigolyn ei ychwanegu at y gofrestr.
Assisted registration case study:
Astudiaeth achos ar gofrestru cynorthwyol: defnyddio data Yswiriant Gwladol i wella cyfraddau cofrestru ymhlith cyrhaeddwyr
Mae gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddata am blant y mae eu rhieni neu eu gofalwyr wedi hawlio budd-dal plant a/neu ofal plant di-dreth/30 awr o ofal plant am ddim. Mae hyn yn cynnwys enw a dyddiad geni'r plentyn. Pan fydd plentyn yn cyrraedd 15 oed a 9 mis, bydd CThEF yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol iddo a gaiff ei anfon yn y post i gyfeiriad ei riant neu ei ofalwr. Mae'n anfon tua 700,000 o'r hysbysiadau hyn bob blwyddyn.
Nid yw CThEF yn cadw cofnod o genedligrwydd plant, a chaiff rhifau Yswiriant Gwladol eu hanfon ni waeth beth fo cenedligrwydd unigolion. Nid oes gan CThEF gofnod ar gyfer pob plentyn yn y DU am nad yw pob rhiant neu ofalwr yn hawlio budd-dal plant neu ofal plant di-dreth/30 awr o ofal plant am ddim. Mae CThEF hefyd yn dibynnu ar hawlwyr i sicrhau bod eu manylion cyfeiriad yn gyfredol.
Serch hynny, gellid rhannu enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r bobl ifanc hynny sy'n cael rhif Yswiriant Gwladol â Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a allai wedyn anfon Gwahoddiad i Gofrestru at y bobl ifanc hynny, gyda'r data hyn wedi'u llenwi ymlaen llaw. Byddent yn cael eu gwahodd i ddarparu gwybodaeth am eu cenedligrwydd, llofnodi'r datganiad ac anfon y cais wedi'i gwblhau at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Opsiwn pellach fyddai datblygu proses ar-lein ar gyfer darparu'r wybodaeth goll, lle byddai'r unigolyn yn sganio cod QR sydd yn y llythyr Gwahoddiad i Gofrestru. Gallai hyn gynnig mynediad uniongyrchol ar-lein at gais sydd wedi'i lenwi ymlaen llaw ar y gwasanaeth digidol cofrestru i bleidleisio, a allai wedyn gael ei gwblhau gan yr unigolyn a'i brosesu yn electronig drwy'r seilwaith presennol ar gyfer cofrestru etholiadol unigol.
Er mwyn rhannu enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol plentyn at ddibenion cofrestru etholiadol, byddai angen nodi porth cyfreithiol priodol a chydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Byddai angen i CThEF a'r Adran Gwaith a Phensiynau ystyried a chytuno ar hyn. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen newid deddfwriaethol er mwyn creu porth cyfreithiol i rannu data at y diben penodol hwn.
Cyfeirio at gofrestru
Mae cyfeirio at gofrestru yn golygu y byddai unigolyn yn cael gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio yn ystod trafodiad â sefydliad neu gorff cyhoeddus, neu mewn gohebiaeth ganddo.
Gallai hyn gynnwys nodyn atgoffa ar ddiwedd trafodiad neu mewn gohebiaeth sy'n cyfeirio'r unigolyn at wefan Cofrestru i Bleidleisio Llywodraeth y DU. Yna byddai'r unigolyn yn cwblhau'r camau arferol yn y broses honno i wneud cais i gofrestru a byddai ei ddata yn cael eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer ei ardal drwy'r Gwasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol. Gallai'r broses gyfeirio hon weithio mewn sawl senario – er enghraifft, ar ddiwedd trafodiad wrth wneud cais am drwydded yrru neu basbort newydd, neu pan fydd unigolyn yn diweddaru ei fanylion neu'n cyfathrebu ag un o adrannau neu asiantaethau'r llywodraeth.
Nid oes angen newid cyfreithiol ar gyfer dull gweithredu o'r fath. Felly dylid ymchwilio i'r opsiwn hwn nawr, hyd yn oed os bydd y datblygiadau arloesol eraill a drafodwyd uchod yn dilyn yn y dyfodol.
Signposting registration case study
Astudiaeth achos ar gyfeirio at gofrestru: defnyddio data cynlluniau blaendal tenantiaeth i wella cyfraddau cofrestru ymhlith pobl sy'n rhentu'n breifat
Mae'n ofynnol i landlordiaid yn y sector rhent preifat ddiogelu blaendaliadau tenantiaid gan ddefnyddio cynllun blaendal tenantiaeth a gymeradwywyd gan y llywodraeth. Mae tri chynllun blaendal tenantiaeth awdurdodedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac maent yn diogelu tua 4.5 miliwn o flaendaliadau ac yn cynrychioli tua 6 miliwn o denantiaid. Caiff tua hanner yr holl flaendaliadau eu diogelu drwy gynlluniau gwarchodol sy'n cadw'r blaendal am gyfnod cyfan y denantiaeth. Caiff balans blaendaliadau a ddiogelir ei gadw a'i reoli gan y landlord neu'r asiant gosod eiddo drwy gynlluniau sydd wedi'u cefnogi gan yswiriant, a lle mae'r cynlluniau yn rhyngweithio llawer llai â'r tenant.
Bydd y cynlluniau yn cyfathrebu â'r tenantiaid drwy e-bost ar ddechrau'r denantiaeth er mwyn cadarnhau bod eu blaendal wedi'i ddiogelu, ac yna ar adegau amrywiol drwy gydol y denantiaeth, ond yn bennaf pan fydd y tenant yn ceisio cael ei flaendal yn ôl o'r cynllun (cynllun gwarchodol), neu pan fydd y cynllun wedi dad-ddiogelu'r blaendal (cynllun yswiriedig). Gallai nodiadau atgoffa gyda gwybodaeth am gofrestru a dolen i'r wefan Cofrestru i Bleidleisio gael eu cynnwys yn y negeseuon hyn, ac ar wefannau neu apiau ffôn symudol cynlluniau.
Mae pob un o'r cynlluniau hyn wedi nodi eu bod yn agored i ymchwilio i ffyrdd y gallent weithio gyda'r Comisiwn i wella cyfraddau cofrestru ymhlith pobl sy'n rhentu'n breifat.
Diwedd y nodiadau
1. Mae'r etholfraint ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban yn cynnwys y rheini sy'n 16 ac yn 17 oed ac, yn y gwledydd hynny, caiff preswylwyr sy'n 14 ac yn 15 oed ar adeg y gwaith maes (sy'n troi yn 16 oed yn ystod oes y cofrestrau) eu cyfrif fel cyrhaeddwyr ar y cofrestrau llywodraeth leol. Fodd bynnag, yn unol â'r gyfraith, ni all Swyddogion Cofrestru Etholiadol rannu data cofrestru ar bobl ifanc 14 ac 15 oed felly ni chafodd y grŵp hwn ei gynnwys yn yr ymchwil nac mewn unrhyw ddull i fesur cywirdeb a chyflawnrwydd. Dylid cadw hyn mewn cof wrth ddarllen y canfyddiadau.