Bum mlynedd ers cyflwyno newidiadau i brosesau’r canfas, ceir heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd. Mae’r heriau hyn yn cynnwys canfod symudiadau parhaus yn y boblogaeth a phroblemau o ran cofrestru grwpiau arbennig. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar gyrhaeddwyr a phobl ifanc eraill. Credwn fod hyn yn destun pryder o ystyried bod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl.

Bydd gwella cofrestru etholiadol yn:

  • sicrhau y bydd modd i’r holl bleidleiswyr cymwys gael dweud eu dweud mewn etholiadau
  • helpu i leihau rhai heriau sy’n dal i wynebu Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Mae’r heriau hyn yn cynnwys prosesu nifer fawr o gofrestriadau cyn digwyddiadau etholiadol mawr.
  • gwella cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau

Er mwyn gwella’r materion hyn, rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i’r canlynol:

  • datblygu system fwy modern a gaiff ei hysgogi gan ddata
  • uno gwasanaethau cyhoeddus. I bleidleiswyr, gallai hyn symleiddio’r dasg o ran cofrestru i bleidleisio; ac i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, gallai olygu bod cofrestru i bleidleisio yn digwydd mewn modd mwy effeithlon.
     

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Mai 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2026