Pleidleisio symudol
Beth yw pleidleisio symudol?
Byddai pleidleisio symudol yn rhoi'r gallu i bobl bleidleisio'n ddiogel yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio gludadwy. Byddai swyddogion etholiadol yn gwneud ymweliadau wedi'u trefnu ymlaen llaw i sefydliadau fel cartrefi gofal, neu leoliadau eraill, fel na fyddai angen i bleidleiswyr deithio i'w gorsaf bleidleisio leol.
Buddiannau posibl | Heriau posibl |
---|---|
Gwneud pleidleisio yn fwy hygyrch i bleidleiswyr sydd â heriau gofal iechyd neu heriau symudedd eraill | Cynnal cyfrinachedd y bleidlais |
Gwneud pleidleisio’n fwy hygyrch i rai pleidleiswyr a allai gael trafferth gydag agweddau ar bleidleisio drwy’r post - er enghraifft, y gofynion llofnod a dyddiad geni | Sicrhau lefelau uchel o ymddiriedaeth a thryloywder yng ngweithrediad y system |
Ei gwneud yn haws i staff mewn sefydliadau ddarparu cyngor neu gymorth i breswylwyr sy'n dymuno pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio neu drwy'r post | Sicrhau bod cofrestrau etholiadol yn cael eu diweddaru mewn pryd ar gyfer y diwrnod pleidleisio |
Ni fyddai angen i bobl sy’n sâl deithio i’w gorsaf bleidleisio ddynodedig | Effaith ar amseriad ymgyrchu etholiadol a chydlynu gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd |
Gwella urddas a hunan-barch pleidleiswyr trwy allu pleidleisio yn bersonol, yn annibynnol ac yn gyfrinachol | Adnoddau ychwanegol i reoli’r broses bleidleisio symudol, gan gynnwys gweithio’n rhagweithiol gyda sefydliadau lleol a chael digon o bobl i weithredu’r gwasanaeth pleidleisio symudol |
Byddai targedu grwpiau penodol yn golygu defnydd mwy effeithlon o adnoddau |
Profiad rhyngwladol
Mae data ar 204 o wledydd a gasglwyd gan y Sefydliad Rhyngwladol dros Ddemocratiaeth a Chymorth Etholiadol yn awgrymu bod 31% o wledydd yn darparu blychau pleidleisio symudol i rai etholwyr. Nid oes unrhyw wlad yn cynnig y gwasanaeth hwn i bob pleidleisiwr.
Canfu’r Sefydliad Rhyngwladol dros Ddemocratiaeth a Chymorth Etholiadol hefyd, ym mis Hydref 2020, fod 29 o wledydd yn Ewrop wedi darparu cyfleoedd ar gyfer pleidleisio symudol. Y tri math mwyaf cyffredin o bleidleisio symudol oedd:
- Mae swyddogion etholiadol sy'n gysylltiedig â gorsaf bleidleisio pleidleisiwr yn gwneud ymweliadau wedi'u trefnu ymlaen llaw i gartrefi pobl ac ysbytai yn yr ardal i ganiatáu i drigolion bleidleisio.
- Darpariaethau ar y diwrnod pleidleisio sy'n caniatáu i staff etholiadol ddod â deunyddiau pleidleisio i bleidleiswyr y tu allan i'r ganolfan bleidleisio ond nad ydynt yn gallu mynd i mewn i'r adeilad (pleidleisio ymyl y ffordd).
- Staff yn ymweld â lleoliadau anghysbell lle mae'r boblogaeth yn rhy wasgaredig i orsafoedd pleidleisio arferol fod yn effeithiol.
Model sylfaenol
Gwnaethom edrych ar sut y gallai pleidleisio symudol weithio ar lefel sylfaenol ar gyfer etholiadau yn y DU. Rydym wedi nodi prif nodweddion model y credwn y byddai ei angen pe bai llywodraeth o fewn y DU yn penderfynu gweithredu pleidleisio symudol.
Opsiynau pellach
Gwnaethom hefyd edrych ar rai opsiynau eraill y gellid eu hychwanegu at y model sylfaenol.
Cymhwysedd
- Gellid ymestyn yr opsiwn ar gyfer pleidleisio symudol i bobl eraill – er enghraifft, pobl sy’n gaeth i’r tŷ, cleifion mewnol ysbytai, carcharorion cymwys, defnyddwyr cyfleusterau iechyd meddwl, pobl ddigartref, a phobl sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell neu mewn grwpiau penodol, fel cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
- Mae'r model yn cynnwys yr her o sicrhau bod pleidleiswyr wedi'u cofrestru i bleidleisio yn yr ardal etholiadol berthnasol. Byddai ymestyn y meini prawf cymhwysedd i grwpiau eraill yn ymestyn yr her hon.
- Byddai ehangu’r meini prawf cymhwysedd yn debygol o ymestyn adnoddau cyfyngedig, tra’n rhoi pwysau ar Swyddogion Canlyniadau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i ystod eang o grwpiau, ac o bosibl unigolion sy’n byw gartref, nad yw efallai’n ymarferol.
Lleoliadau
- Gallai pleidleisio symudol gael ei ymestyn y tu hwnt i sefydliadau fel cartrefi gofal. Gellid dewis lleoliadau gwahanol yn dilyn ymgynghoriad gan y Swyddog Canlyniadau gyda sefydliadau a grwpiau cymunedol perthnasol. Efallai y bydd problemau o ran sicrhau bod staff pleidleisio symudol yn gallu mynd i rai sefydliadau.
- Gellid gosod rhai cyfyngiadau ar y dewis o leoliadau – er enghraifft, gellid sefydlu gorsafoedd pleidleisio symudol mewn mangreoedd lle'r oedd isafswm o bleidleiswyr wedi'u cofrestru.
Diwrnodau ac oriau gweithredu
- Gall nifer y dyddiau a'r oriau gweithredu amrywio. Gallai hyn ddibynnu ar lefel y galw, faint o leoedd sydd wedi gofyn am gyfleuster pleidleisio symudol a daearyddiaeth yr ardal etholiadol.
- Byddai angen i unrhyw estyniad i'r cyfnod pleidleisio symudol weithio o fewn cyfyngiadau'r amserlen etholiadol. Mewn egwyddor, fodd bynnag, gallai pleidleisio symudol ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r enwebiadau a chynhyrchu papurau pleidleisio.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y byddai ei angen i gyflwyno pleidleisio symudol yma.