Beth yw pleidleisio yn rhywle arall?

Byddai pleidleisio yn rhywle arall yn rhoi’r dewis i bleidleiswyr ag anghenion hygyrchedd bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio arall o’u dewis, a allai ddiwallu eu hanghenion yn well neu fod mewn lleoliad mwy cyfleus. Byddai’r opsiwn ‘pleidleisio yn rhywle arall’ ond ar gael ar y diwrnod pleidleisio a drefnwyd.

Buddiannau posiblHeriau posibl
Gwella hygyrchedd, dewis a hwylustod ynghylch ble i bleidleisioSicrhau bod lleoliadau wedi'u cyfarparu'n addas i ddiwallu gwahanol anghenion hygyrchedd
Cynyddu lefelau o foddhad gan bleidleiswyr yn y broses bleidleisioSicrhau bod gwybodaeth am offer a ddarperir ar gyfer hygyrchedd ar gael yn rhagweithiol fel y gall pobl wneud dewis gwybodus
Byddai Swyddogion Canlyniadau yn gallu canolbwyntio adnoddau cyfyngedig neu ddarparu staff hyfforddedig ychwanegol i orsafoedd pleidleisio penodol i'w gwneud yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer anghenion penodol. Ni ddylai hyn alluogi cymorth hygyrchedd i gael ei ganolbwyntio i un neu lond dwrn o orsafoedd pleidleisio yn yr ardalSicrhau bod lleoliadau yn hygyrch i bawb a allai fod angen defnyddio gorsaf bleidleisio amgen

Profiad rhyngwladol

Mae data a gasglwyd gan y prosiect ACE mewn 226 o wledydd yn awgrymu y gall pleidleiswyr mewn ystod o wledydd ddewis ble i bleidleisio - naill ai mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr un dosbarth pleidleisio (21 o wledydd) neu unrhyw orsaf bleidleisio yn yr un wlad (15 o wledydd).

Model sylfaenol

Pleidleisio yn rhywle arall: Gwnaethom edrych ar sut y gallai pleidleisio yn rhywle arall weithio ar lefel sylfaenol ar gyfer etholiadau yn y DU. Rydym wedi nodi prif nodweddion model y credwn y byddai ei angen pe bai llywodraeth o fewn y DU yn penderfynu gweithredu pleidleisio yn rhywle arall. 

Opsiynau pellach

Gwnaethom hefyd edrych ar rai opsiynau eraill y gellid eu hychwanegu at y model sylfaenol.

Cymhwysedd

  • Gallai cymhwysedd i bleidleisio yn rhywle arall gael ei ehangu i gynnwys y rhai sy'n dymuno pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio amgen sy'n agosach at eu lleoliad ar y diwrnod pleidleisio, fel gweithwyr allweddol, neu'r rhai a fyddai'n ei chael yn fwy cyfleus i bleidleisio yn rhywle arall - er enghraifft, mewn lleoliad sy'n agos i'r orsaf reilffordd yn achos rhai cymudwyr.

Lleoliadau

  • Gallai Swyddogion Canlyniadau ddewis dynodi rhai gorsafoedd pleidleisio, ond nid pob un, fel opsiynau pleidleisio yn rhywle arall. Er enghraifft, gorsaf bleidleisio ger ysbyty, gorsaf reilffordd neu man arall lle gallai fod niferoedd uwch o bobl o bob rhan o'r ardal etholiadol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y byddai ei angen i ddosbarthu pleidleisio yn rhywle arall yma.