Pleidleisio yn unrhyw le
Beth yw pleidleisio yn unrhyw le?
Byddai pleidleisio yn unrhyw le yn rhoi'r dewis i bobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio o fewn adran etholiadol leol neu etholaeth. Byddai hyn ond ar gael ar y diwrnod pleidleisio. Byddai amrywiadau mwy cymhleth o bleidleisio yn unrhyw le - er enghraifft, caniatáu i bobl bleidleisio o unrhyw leoliad o fewn ardaloedd daearyddol ehangach - yn gofyn am ddiwygiadau mwy sylfaenol, megis pleidleisio electronig neu argraffu papurau pleidleisio ar alw.
| Buddiannau posibl | Heriau posibl |
|---|---|
| Darparu mwy o gyfleustra i bleidleiswyr, yn enwedig y rhai a allai fod yn teithio ar y diwrnod pleidleisio (er enghraifft, ar gyfer gwaith neu wyliau) | Mae'n debyg y byddai mathau mwy soffistigedig o bleidleisio yn unrhyw le yn gofyn am argraffu papurau pleidleisio ar gais, gan ddarparu her logistaidd |
| Gwella hygyrchedd a dewis o ran ble i bleidleisio | Sicrhau bod cofrestrau gorsafoedd pleidleisio yn cael eu diweddaru mewn amser real ar y diwrnod pleidleisio |
| Cynyddu lefelau o foddhad gan bleidleiswyr yn y broses bleidleisio | Sicrhau bod pleidleisiau’n cael eu storio’n ddiogel a’u cludo’n ddiogel ac yn amserol |
| Gallai pleidleiswyr bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn eu hardal leol a allai ddiwallu eu hanghenion unigol yn well | |
| Gall patrymau ddod i'r amlwg a allai helpu Swyddogion Canlyniadau i nodi dosbarthiad mwy effeithlon o orsafoedd pleidleisio |
Profiad rhyngwladol
Mae data a gasglwyd gan y prosiect ACE mewn 226 o wledydd, yn awgrymu y gall pleidleiswyr mewn ystod o wledydd ddewis ble i bleidleisio - naill ai mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr un dosbarth pleidleisio (21 o wledydd) neu unrhyw orsaf bleidleisio yn yr un wlad (15 o wledydd).
Model sylfaenol
Gwnaethom edrych ar sut y gallai pleidleisio yn unrhyw le weithio ar lefel sylfaenol ar gyfer etholiadau yn y DU. Rydym wedi nodi prif nodweddion model y credwn y byddai ei angen pe bai llywodraeth o fewn y DU yn penderfynu gweithredu pleidleisio yn unrhyw le.
Opsiynau pellach
Gwnaethom hefyd edrych ar rai opsiynau eraill y gellid eu hychwanegu at y model sylfaenol.
Cymhwysedd
- Gellid caniatáu i bleidleiswyr cofrestredig bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio y tu allan i'r ardal y maent wedi'u cofrestru ynddi – er enghraifft, y tu allan i'w hetholaeth gartref neu ardal awdurdod lleol. Fodd bynnag, byddai hyn yn gymhleth gan y byddai angen diweddaru cofrestrau electronig trawsffiniol mewn amser real i atal pobl rhag gallu pleidleisio sawl gwaith.
- Byddai modelau mwy eang yn cyflwyno'r her o sicrhau bod yr holl wahanol fathau o bapurau pleidleisio ar gael mewn lleoliadau pleidleisio yn unrhyw le. Byddai hyn yn debygol o fod yn amhosibl heb argraffu papurau pleidleisio ar gais neu bleidleisio electronig.
- Byddai her logistaidd o sicrhau bod papurau pleidleisio yn cael eu dosbarthu i'r canolfannau cyfrif cywir o fewn yr amserlen berthnasol (o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio ar gyfer etholiad Senedd y DU). Ni fyddai hyn yn ymarferol ar gyfer pob lleoliad.
Lleoliadau
- Hyd yn oed gyda chofrestrau electronig cydgysylltiedig, efallai y bydd yn fwy ymarferol cynnig pleidlais yn unrhyw le o nifer fwy cyfyngedig o leoliadau o fewn ardal etholiadol – er enghraifft, o fewn hybiau pleidleisio.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y byddai ei angen i ddosbarthu pleidleisio yn unrhyw le yma.