Effaith newidiadau Cymhwysedd yr UE ar gofrestrau etholiadol
Fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022, gwnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i ba ddinasyddion yr UE oedd yn gymwys i bleidleisio mewn rhai etholiadau'r DU. Effeithiodd hyn ar:
- etholiadau lleol, etholiadau maerol ac etholiadau Cynulliad Llundain Fwyaf yn Lloegr
- etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon
- etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Cynhaliodd awdurdodau lleol Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd (ECR). Roedd hyn yn golygu eu bod wedi adolygu cymhwysedd pob dinesydd o'r UE a oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn eu hardal.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, fe wnaethon nhw gysylltu â holl ddinasyddion yr UE i naill ai:
- roi gwybod iddynt eu bod yn dal yn gymwys i bleidleisio yn rhai o etholiadau’r DU
- dweud wrthynt nad ydynt yn siŵr a ydynt yn gymwys i bleidleisio yn rhai o etholiadau’r DU, a gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth i gadarnhau a ydynt yn gymwys
Yn dilyn y broses hon, rydym wedi dadansoddi'r cofrestrau i ddeall faint o ddinasyddion yr UE sydd wedi'u lleoli yn y DU a gafodd eu heffeithio gan yr adolygiad hwn.
Er mwyn parhau i fod yn gymwys i bleidleisio, mae'n ofynnol i ddinesydd yr UE fod naill ai yn:
- Ddinesydd Cymwys o'r UE – dinesydd o Ddenmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal a Sbaen sy'n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oedd angen caniatâd arno
- Dinesydd yr UE â hawliau a gedwir – dinesydd o unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros yno, neu nad oedd angen caniatâd arno, ac mae hyn wedi parhau heb doriad (a elwir yn 'ddinesydd yr UE â hawliau a gedwir’)
Cwblhawyd yr adolygiad ym mis Ionawr 2025 ac mae'r holl ffigurau yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r gofrestr etholiadol ar ddiwedd yr adolygiad.
Cyfyngiadau i'r data
Roedd gwallau yn y feddalwedd ar gyfer dau gyflenwr system rheoli etholiadol, gan effeithio ar 279 o 315 o'r awdurdodau lleol. Mae'n debyg bod y problemau hyn wedi arwain at dangyfrif etholwyr yn y data. Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i adrodd y canlynol yn gywir:
- faint o ddinasyddion yr UE a ddaeth yn anghymwys am resymau eraill (e.e. symud allan o'r awdurdod lleol)
- cyfanswm y nifer o ddinasyddion yr UE a gofrestrwyd o dan y meini prawf newydd ar 31 Ionawr 2025
- nifer y dinasyddion yr UE a gofrestrodd cyn ac ar ôl i'r newidiadau ddod i rym
Mae achosion o wallau defnyddwyr hefyd wedi'u nodi. Mae hyn yn cynnwys achosion lle cafodd etholwyr eu dileu o'r system ar ôl i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gysylltu â nhw eisoes.
Nodwyd y gwallau hyn yn rhy hwyr i gywiro data heb achosi anghysondebau ehangach ar draws meysydd eraill.
Lle rydym yn siŵr bod y data yn gywir, rydym wedi darparu trosolwg o'r broses Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd ledled Cymru a Lloegr. Mewn rhai achosion, mae hyn yn golygu eithrio grwpiau o awdurdodau lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan wallau a defnyddio cyfartaleddau o'r rhai lle mae gennym ddata cywir.
Digwyddodd gweithgareddau cofrestru etholiadol sy'n gorgyffwrdd—megis canfas blynyddol 2024—ochr yn ochr â'r broses Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd.
O ganlyniad, cafodd rhai etholwyr a gafodd eu cynnwys yn yr adolygiad i ddechrau eu dileu yn ddiweddarach trwy broses y tu allan i'r adolygiad. Lle digwyddodd hyn, nid yw'r data yn cynnwys rheswm dros y dileu. Mae hyn yn golygu bod gwahaniaeth rhwng cyfanswm y nifer o:
- etholwyr sy’n destun adolygiad
- etholwyr y penderfynodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu bod yn gymwys neu yr oedd angen eu tynnu oddi ar y gofrestr
Y broses Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd
Roedd tua 2.2 miliwn o ddinasyddion yr UE yn destun y broses adolygu.
Roedd dwy ran i’r broses Adolygiad Cadarnhad Cymhwysedd:
- adolygodd awdurdodau lleol ddata cofrestr etholiadol eu hardal i weld a allent gadarnhau bod pleidleisiwr o'r UE wedi byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr
- cysylltodd awdurdodau lleol â dinasyddion yr UE na ellid sefydlu eu cymhwysedd drwy adolygu'r cofrestrau etholiadol
Drwy adolygu data cofrestr etholiadol eu hardal, penderfynodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol fod tua thri chwarter (72%) o ddinasyddion yr UE ar y gofrestr yn dal yn gymwys i aros ar y gofrestr etholiadol. Bu rhaniad cyfartal rhwng dinasyddion a gadarnhawyd eu bod yn gymwys gan eu bod yn ddinasyddion cymwys o’r UE ac yn ddinasyddion â hawliau a gedwir.
Yna cysylltodd awdurdodau lleol â'r 28% o etholwyr oedd yn weddill i ofyn iddynt ddarparu gwybodaeth i gadarnhau a oeddent yn gymwys i aros wedi'u cofrestru. Ymatebodd tua hanner y rhai y cysylltwyd â nhw gyda gwybodaeth a brofodd eu bod yn gymwys i aros wedi'u cofrestru.
Ar ddiwedd y broses ym mis Ionawr 2025, roedd tua 1.9 miliwn o etholwyr yr UE. Amcangyfrifir bod 200,000 o ddinasyddion yr UE wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr, sy'n golygu bod nifer yr etholwyr UE ar y gofrestr wedi gostwng tua 10%.