Roedd newidiadau i'r canfas blynyddol er mwyn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) ganolbwyntio ar gysylltu ag aelwydydd sydd, yn ôl pob tebyg, wedi newid ers y canfas blaenorol. Ar ddechrau’r canfas, caiff y cofrestrau i gyd eu paru gyda data o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym yn defnyddio dau ffactor i bennu effeithiolrwydd y canfas: cywirdeb paru data'r Adran Gwaith a Phensiynau a nifer yr aelwydydd a ymatebodd.

Sut mae gwahanol lwybrau'n cael eu dyrannu

  • Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gosod eiddo yn Llwybr 1 os yw cofnodion yr aelwyd yn cyd-fynd â data arall, fel data'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Gan dybio bod y cofnodion ar gyfer yr aelwyd honno'n aros yr un fath o'r canfas diwethaf.
  • Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu ag aelwydydd Llwybr 1 i’w gwahodd i roi gwybodaeth am unrhyw newidiadau. Lle nad oes newidiadau i roi gwybod amdanynt, nid oes angen i’r aelwyd ymateb.

  • Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gosod eiddo yn Llwybr 2 os nad yw cofnodion yr aelwyd yn cyd-fynd â data arall, fel data'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Gan dybio bod y cofnodion ar gyfer yr aelwyd honno wedi newid ers y canfas diwethaf.
  • Rhaid i aelwydydd Llwybr 2 ymateb i geisiadau am wybodaeth, hyd yn oed os nad yw eu gwybodaeth wedi newid.

  • Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gosod eiddo yn Llwybr 3 os ydyn nhw'n credu y gallan nhw gael gwybodaeth am y bobl sy'n byw yno gan 'un person cyfrifol'. Er enghraifft, cartrefi gofal neu neuaddau myfyrwyr.
  • Os na all y Swyddog Cofrestru Etholiadol gael y wybodaeth gan yr 'un person cyfrifol', caiff yr eiddo ei roi yn Llwybr 2.

Cyfraddau ymateb Llwybr 2

Mae ymatebion Llwybr 2 yn gyson is yng Nghymru ac yn yr Alban

Yn hanesyddol, mae gan yr Alban gyfradd ymateb Llwybr 2 cyson is na Chymru a Lloegr. Ers 2023, mae cyfradd ymateb Llwybr 2 yng Nghymru hefyd wedi gostwng ac mae bellach yn sylweddol is na chyfradd ymateb Lloegr.

Cyfraddau Ymateb Llwybr 2 yn ôl Cenedl

Mae'n debyg nad yw cofrestrau'n cadw i fyny â newidiadau ym manylion etholwyr

Gallai nifer yr ymatebion gan aelwydydd Llwybr 2 sy'n gostwng fod yn arwydd bod y system gofrestru etholiadol yn methu pobl. Gallwn weld hyn yn y ffordd nad yw cofrestru etholiadol wedi cyd-fynd â thwf y boblogaeth.

Arafodd twf y cofrestrau etholiadol yn sylweddol o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol yn sgil cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol (IER) yn 2014 a'r canfas diwygiedig yn 2020.

Nodyn: mae'r siart hon yn defnyddio amcangyfrifon o etholwyr a phoblogaeth llywodraeth leol y DU gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mynegai etholwyr llywodraeth leol y DU a'r boblogaeth 17+ oed

Nid yw'r broses paru data sy'n dyrannu aelwydydd i 'lwybrau' yn berffaith

Gall aelwydydd sy'n ymateb gofnodi: 

  • newid mawr (e.e. adrodd bod etholwr newydd dichonadwy yn breswylydd)
  • newid bach (e.e. diwygio enw etholwr presennol)
  • dim newid (h.y. cadarnhau manylion presennol aelodau'r aelwyd).

Drwy edrych ar y mathau o ymatebion a dderbyniwyd, gallwn gael syniad o ba mor gywir yw'r broses paru data. Ers cyflwyno'r canfas diwygiedig yn 2020, mae cyfran y newidiadau mawr sy'n dod o aelwydydd Llwybr 1 wedi bod yn cynyddu'n araf ond yn gyson. Dyma aelwydydd nad oedd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn disgwyl newidiadau mawr ganddynt.

Yn 2020, daeth llai na thraean o'r newidiadau mawr o Lwybr 1. Yn 2025, roedd hyn yn 37%. Golygir hyn bod ychydig o dan filiwn o’r 2.5 miliwn o aelwydydd a oedd angen newid mawr i’r gofrestr etholiadol, wedi dod o eiddo lle nad oedd disgwyl unrhyw newid.

Dosbarthiad newidiadau mawr ar draws bob llwybr

Mae hefyd yn bwysig nodi ei bod yn annhebygol y bydd yr holl aelwydydd o Lwybr 1 a allai fod wedi gorfod rhoi gwybod am newid mawr wedi gwneud hynny. Yn enwedig os y byddent wedi derbyn nifer cyfyngedig o gyswllt gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Ebrill 2026

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2026