We're showing you content for:

Crynodab

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig. 

Croeso i Dy Bleidlais - Senedd

Dysgwch am rôl y Senedd.

Crynodeb

Gallwch bleidleisio yn etholiadau’r Senedd pan fyddwch yn 16.

Beth yw eich cwrs ysgol neu goleg? Ydych chi erioed wedi bod yn eich ysbyty lleol? Ydy hi'n hawdd cyrraedd lle rydych chi eisiau mynd ar y trên?

Mae’r Senedd yn gwneud penderfyniadau ar y materion hyn.

Mae’r Senedd yn creu deddfau, yn gosod rhai trethi, ac yn gwneud penderfyniadau am amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru. Gelwir y cyfrifoldebau sydd gan y Senedd yn faterion datganoledig.

Efallai y byddwch chi'n clywed y Senedd yn cael ei galw'n Senedd Cymru. 
 

Beth yw'r Senedd beth bynnag?

Fideo gan bobl ifanc yn y Blwch Democratiaeth, ein partner llais ieuenctid dros Gymru, 2023.

Ewch i wefan y Blwch Democratiaeth.

cyfrifoldebau y Senedd

Mae cyfrifoldebau’r Senedd yn cynnwys:

  • addysg, hyfforddiant a phrifysgolion 
  • tai, gan gynnwys mynd i’r afael â digartrefedd 
  • gwarchod yr amgylchedd, bywyd gwyllt, a chynefinoedd naturiol
  • y GIG  
  • gosod rhai trethi
  • hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru, gan gynnwys yr iaith Gymraeg
  • datblygu trafnidiaeth 
  • hyrwyddo cynlluniau amaethyddol a datblygu gwledig 
  • cyllid ar gyfer cynghorau lleol