Ymgyrchu

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig. 

Ymgyrchu

Ymgyrchu

Rydych chi'n gwybod bod etholiad ar y gweill, ond sut ydych chi'n dewis pwy i bleidleisio drosto?

Cofiwch fod eich pleidlais yn perthyn i chi yn unig. Chi sydd i benderfynu sut yr hoffech ei defnyddio. Ni ddylai neb roi pwysau arnoch chi, eich blacmelio na’ch llwgrwobrwyo i bleidleisio mewn ffordd arbennig – mae hyn yn groes i’r gyfraith.

Ar gyfer pob etholiad, dylech ddewis yr ymgeisydd a fyddai, yn eich barn chi, y person gorau i’ch cynrychioli chi. Efallai y byddant yn rhannu eich barn neu’n blaenoriaethu materion sy’n bwysig i chi.