We're showing you content for:

Crynodeb

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig. 

Beth yw ymgyrchu?

Ymgyrchu gwleidyddol yw pan fydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn ceisio eich perswadio i bleidleisio drostynt. Maent fel arfer yn gwneud hyn drwy siarad am eu polisïau. Efallai y byddwch yn sylwi arno fwyaf yn y cyfnod cyn etholiadau, ond gall ymgyrchu ddigwydd trwy gydol y flwyddyn. 

Mae ymgyrchu yn rhan bwysig a defnyddiol o'r broses i'ch helpu i ddewis pwy i bleidleisio drosto.

Mewn etholiadau â phroffil uwch, fel etholiadau’r Senedd neu etholiadau Senedd y DU, gall y pleidiau gwleidyddol mwy wario llawer o arian ar eu hymgyrchoedd. Mae ganddynt dimau mawr yn gweithio iddynt i sicrhau eu bod yn cyrraedd pleidleiswyr yn y ffordd orau bosib.

Er mai ymgeiswyr etholiad, pleidiau gwleidyddol, a'u timau sy'n ymgyrchu'n bennaf, efallai y gwelwch grwpiau eraill yn ymgyrchu dros ymgeisydd neu blaid wleidyddol. Gallai hyn fod oherwydd bod y grŵp yn poeni am fater penodol, fel newid yn yr hinsawdd neu’r GIG, y maent yn gwybod sy’n bolisi allweddol ar gyfer plaid neu ymgeisydd penodol. Maent am i ymgeisydd neu blaid benodol gael eu hethol, oherwydd eu polisi ar y mater hwn, felly maent yn eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd.

Gall ymgyrchu fod yn llawer o bethau gwahanol. Efallai eich bod wedi gweld posteri ar bolion lampau neu mewn ffenestr cymydog. Neu efallai eich bod wedi sylwi ar daflenni’n cael eu postio i’ch cartref neu’n cael eu dosbarthu ar y stryd. 

Ond mae llawer o fathau eraill o ymgyrchu y byddwch yn eu gweld yn eich ardal ac ar draws y wlad.