Dylai ymgyrchu gwleidyddol fod yn dryloyw. Dylech wybod o ble mae'r wybodaeth yn dod er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch pwy i bleidleisio drosto.
Mae'r arian sy'n cael ei wario ar ymgyrchoedd etholiadol yn cael ei reoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl wariant yn deg ac yn agored.
Mae cyfyngiadau ar faint y caniateir i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ei wario yn ystod ymgyrchoedd. Os byddant yn torri'r rheolau hyn, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwyon.
Yn dilyn etholiad, gallwch fynd ar-lein i weld faint o arian a wariwyd gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr ar ymgyrchu. Gallwch weld o ble daeth rhoddion ariannol mwy y pleidiau. Mae hyn hefyd yn berthnasol i grwpiau ymgyrchu nad ydynt efallai'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol.
Rhaid i hysbysebion ymgyrchu printiedig, fel taflen neu mewn papur newydd, ddangos pwy dalodd amdanynt ar yr hysbyseb. Dyma'r gyfraith.
Mae gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol eu rheolau eu hunain i annog tryloywder. Er enghraifft, pan welwch hysbysebion gwleidyddol ar Facebook, byddant fel arfer yn dweud pwy dalodd amdanynt.
Mae rheolau eraill ynglŷn â’r hyn a ganiateir ac na chaniateir mewn ymgyrchu. Rhennir y rhain gyda phleidiau gwleidyddol a grwpiau ymgyrchu fel y gallant gadw at y rheolau. Er enghraifft, ni all ymgeisydd geisio’ch cael chi i bleidleisio drostynt drwy addo prynu bar siocled i bawb yn eich tref os byddant yn ennill, ac ni all ymgeiswyr ddweud celwyddau am gymeriad neu ymddygiad ymgeisydd arall.
Ni all ymgyrchu ddigwydd mewn rhai mannau, fel y tu mewn i orsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Efallai y byddwch yn sylwi bod y newyddion ar y teledu a radio yn peidio â gohebu am ymgyrchu ar y diwrnod pleidleisio. Mae hyn oherwydd os adroddir bod plaid neu ymgeisydd ar y blaen hanner ffordd drwy’r dydd, efallai y bydd pleidleiswyr nad ydynt wedi pleidleisio eto yn penderfynu peidio â phleidleisio o gwbl. Byddai hyn yn niweidio'r broses gyfan.