Croeso i dy bleidlais
Croeso i dy bleidlais
Croeso i dy bleidlais
Mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth o dy amgylch di. O ba mor hir rwyt ti’n aros yn y system addysg, i reolau rhentu; o argaeledd 5G, i ba mor aml y caiff dy finiau eu casglu.
I wneud gwahaniaeth yn dy gymuned a dy gymdeithas, mae’n rhaid i ti wneud dy ran dros ddemocratiaeth. Un ffordd o gymryd rhan yw pleidleisio mewn etholiadau, fel dy fod yn helpu i ddewis pwy sy’n dy gynrychioli di ac yn gwneud penderfyniadau ar dy ran.