Wythnos Croeso i Dy Bleidlais

Diolch am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi a'r holl ysgolion, colegau, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc a gymerodd ran yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026.

Ynghyd â dros 60 o bartneriaid cyflawni, rydym yn amcangyfrif bod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais wedi ymgysylltu â dros 700,000 o bobl ifanc ac wedi cefnogi dros 30,000 o addysgwyr a rhanddeiliaid*.

Cofrestrwch nawr i gymryd rhan yn 2027.  

*Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar ymatebion i arolygon, adborth partneriaid, a modelu ymgysylltiad ysgolion. Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r cyrhaeddiad cyffredinol a gallant gynnwys gwahanol lefelau o ymgysylltiad.  

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais

Bob blwyddyn, rydym yn gwahodd ysgolion, grwpiau ieuenctid a phobl ifanc i ddathlu democratiaeth a hyrwyddo addysg ddemocrataidd i bobl ifanc.

Bydd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2027 yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 8 Mawrth a dydd Sul 14 Mawrth.  

 

 

Sut allwch chi gymryd rhan

Rydym yn amcangyfrif bod mwy na 700,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026 – y nifer uchaf hyd yma. Rydym eisiau i hyd yn oed mwy o bobl ifanc gymryd rhan yn 2027.

Mae croeso i bawb gymryd rhan. Gallwch fod yn greadigol, gofynnwch i'ch myfyrwyr a'ch pobl ifanc am eu syniadau, a chyflwynwch weithgareddau sydd fwyaf addas i chi a’ch grŵp.  

Gallech:  

  • gynnal etholiad yn eich ysgol neu’ch grŵp ieuenctid ar fater y gall pobl ifanc ddweud eu dweud arno  
  • cynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr ar gyfer pobl ifanc  
  • cyflwyno un o’n cynlluniau gwersi neu weithgareddau byr ynghylch pleidleisio a democratiaeth  
  • cefnogi pobl ifanc i ymgysylltu â’u cynrychiolwyr lleol  

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2027 yn fuan. Cofrestrwch nawr i gael y wybodaeth ddiweddaraf. 

#CroesoiDyBleidlais 

Cofiwch rannu eich cynlluniau a’r hyn rydych chi’n ei wneud yn ystod yr wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol gyda #CroesoiDyBleidlais