Unwaith y byddi di wedi dy gofrestru, byddi di’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Dyma restr o bawb yn dy ardal sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
Caiff y rhestrau hyn eu rheoli gan dy dîm etholiadau lleol. Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau am y gofrestr, dylet ti gysylltu â nhw. Byddan nhw’n hapus i helpu. Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor trwy fewnbynnu eich cod post yn ein chwilotydd.
Byw mewn dau gyfeiriad
Mae rhai pobl yn rhannu eu hamser yn hafal rhwng dau gyfeiriad. Er enghraifft, efallai dy fod yn fyfyriwr sy’n byw oddi cartref, neu yn rhannu dy amser rhwng cartrefi dau riant. Os felly, efallai y byddi di’n gymwys i bleidleisio mewn dau gyfeiriad, os yw dy gyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor gwahanol.
Ond ‘dyw hyn ddim yn golygu y cei di ddwy bleidlais, fodd bynnag. Rhaid i ti ond pleidleisio mewn un cyfeiriad yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cyffredinol Senedd y DU, ond gelli di ddewis ym mha un rwyt ti’n pleidleisio. Mae pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un etholiad yn groes i’r gyfraith.
Mewn etholiadau cyngor lleol, byddi di’n gallu pleidleisio yn y ddau gyfeiriad, cyn belled â dy fod di’n pleidleisio mewn ardaloedd cyngor gwahanol.
Lluoedd Arfog
Os wyt ti rhwng 14 ac 17 oed, ac mae un o dy rieni yn y lluoedd arfog, bydd di’n gallu cofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr y lluoedd arfog.
Mae hyn yn golygu y byddi di’n dal yn gallu pleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru os yw dy deulu wedi eu lleoli mewn gwlad arall, neu os wyt ti’n symud yn aml. Ond bydd rhaid i ti gofio adnewyddu hyn bob blwyddyn.
Byw dramor
Os wyt ti’n ystyried byw mewn gwlad arall tu allan i’r DU ryw ddydd, hyd yn oed am gyfnod byr, byddi di’n dal yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Cyn belled â dy fod di wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU, a dy fod di wedi bod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol yn y 15 mlynedd diwethaf, cei di barhau i bleidleisio i ethol dy AS.
Os byddi di’n gadael y DU cyn dy fod yn ddigon hen i bleidleisio, byddi di’n dal yn gallu cofrestru i bleidleisio os yw un o dy rieni wedi eu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU yn y 15 mlynedd diwethaf.