Bydd papurau newydd yn cynnwys llawer o straeon yn ystod y cyfnod ymgyrchu, gan gynnwys cyfweliadau gydag ymgeiswyr. Mae llawer o bapurau newydd yn cefnogi rhai o’r prif bleidiau gwleidyddol. Mae hyn yn golygu y gallet ti weld papur newydd yn cyhoeddi mwy o straeon cadarnhaol am un blaid wleidyddol na’r gweddill ohonynt.
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer newyddiadurwyr sy’n gweithio ar y teledu a’r radio. Yn gyffredinol, chân’ nhw ddim annog pleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd arbennig. Mae gofyn iddyn nhw roi safbwynt annibynnol ar etholiadau ac ymgyrchoedd.
Gallet ti hefyd weld posteri mawr yn dy ardal leol. Mae pleidiau gwleidyddol yn aml yn gwario arian ar hysbysfyrddau mawr neu bosteri digidol mewn gorsafoedd trenau neu arosfannau bysiau.
Yn y DU, chaiff pleidiau gwleidyddol ddim hysbysebu ar y teledu. Yn hytrach, caiff y prif bleidiau gwleidyddol amser penodedig ar y teledu i gyflwyno eu polisïau i bleidleiswyr. Rwyt ti’n debygol o weld y rhain ar y prif sianeli ar y teledu – maen nhw’n cael eu galw’n ddarllediadau etholiadol pleidiau.
Mewn rhai etholiadau, gallet hefyd weld arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol mewn dadleuon ar y teledu.
Gallai cefnogwyr pleidiau gwleidyddol, a’u haelodau, hefyd osod posteri bychain neu hysbyslenni yn eu ffenestri neu yn eu gerddi blaen i ddangos eu cefnogaeth. Nid yw’n anarferol gweld strydoedd cyfan gyda phosteri ar bob tŷ.
Byddi di hefyd yn gweld hysbysebion gan bleidiau gwleidyddol a grwpiau o’u cefnogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Weithiau, bydd pleidiau gwleidyddol yn gwybod pwy maen nhw am siarad â nhw, felly gallen nhw dargedu’r bobl hyn trwy hysbysebion. Mae hyn yn golygu y gallet ti weld mwy o hysbysebion ar gyfer un blaid neu achos na rhai eraill.
Siarad â dy ymgeiswyr
Ddylet ti ddim bod ofn siarad â dy ymgeiswyr a’u timau am faterion sy’n bwysig i ti.
Gall ymgeiswyr gnocio ar dy ddrws, neu efallai y bydd ganddyn nhw stondin ar dy stryd fawr. Caiff hyn ei alw’n ganfasio.
Mae croeso i ti fynd atyn nhw a gofyn cwestiynau, fel y gelli di ddeall eu safbwyntiau yn well. Dyna pam maen nhw yna - maen nhw am ddweud wrthyt ti beth maen nhw’n sefyll drosto, a byddan nhw am glywed beth sy’n bwysig i bobl yn eu hardal fel eu bod nhw’n gwybod beth i ganolbwyntio arno, os cân’ nhw eu hethol.
Gallai ymgeiswyr hefyd gymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus gydag ymgeiswyr eraill yn dy ardal. Caiff y rhain eu galw’n hystingau. Maen nhw’n digwydd fel arfer mewn adeilad cymunedol lleol, ac mae croeso i ti fynd iddyn nhw. Caiff hystingau eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol fel arfer, ac ar grwpiau cymunedol ar Facebook.
Yn ddibynnol ar y math o etholiad, efallai y bydd gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr dimau yn gweithio iddyn nhw, a gallet ti gysylltu â nhw i ofyn dy gwestiynau. Efallai y byddi di am anfon e-bost atyn nhw, neu anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan wahanol ymgeiswyr opsiynau gwahanol, ond dylai chwiliad cyflym ar-lein roi’r manylion sydd eu hangen arnat ti i gyflwyno dy gwestiynau i ymgeiswyr a’u timau.