Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21
Trosolwg
Mae'r adran hon yn darparu trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Rydym wedi paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon, a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan baragraff 17 (2) o Atodlen 1 PPERA.
Rydym wedi paratoi'r adroddiad ar bwerau a sancsiynau ar dudalen 43yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA.
Foreword
Fel gyda llawer o sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill, cafodd blwyddyn 2020/21 y Comisiwn ei dominyddu gan fesurau i liniaru effaith pandemig Covid-19. Ein blaenoriaeth gyffredinol oedd sicrhau ein bod yn ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i'r her hon, gan barhau i gyflawni swyddogaethau statudol y Comisiwn a chefnogi anghenion cynyddol ein rhanddeiliaid.
Cafodd yr etholiadau a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2020 eu gohirio am flwyddyn; penderfyniad a gefnogwyd gan y Comisiwn, er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen a lliniaru'r risgiau i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr. Fodd bynnag, golygai hyn y byddai'r etholiadau a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2021, a oedd yn cwmpasu Prydain Fawr i gyd, yn un o'r cyfresi mwyaf cymhleth o ddigwyddiadau pleidleisio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Aeth y Comisiwn ati'n gyflym i ailffocysu ei ymdrechion ac, yn ystod y flwyddyn, rhoddodd arweiniad, cymorth ac arweinyddiaeth helaeth i'r gymuned etholiadol. Gwnaethom gydweithio'n agos â gweinyddwyr etholiadol, llywodraethau'r DU, awdurdodau iechyd cyhoeddus, pleidiau ac ymgyrchwyr.
Gwnaethom gefnogi cynlluniau a pharatoadau manwl ar gyfer proses ddemocrataidd a oedd yn ddiogel o ran Covid, gan gynnwys datblygu deddfwriaeth newydd, a chynhaliwyd gweithgarwch cyfathrebu helaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod gan bob pleidleisiwr cymwys a oedd yn dymuno cymryd rhan yn yr etholiadau y wybodaeth yr oedd ei hangen arno i wneud hynny.
Ein nod oedd cefnogi etholiadau wedi'u cynnal yn effeithiol lle gallai pleidleiswyr gymryd rhan yn yr etholiadau yn ddiogel ac yn hyderus, a lle gallai ymgyrchwyr a phleidiau gyflwyno eu hachos i'r etholwyr. Cynhaliwyd yr etholiadau y tu allan i'r cyfnod adrodd hwn ac, er clod i bawb a oedd yn gysylltiedig â nhw, gwnaethpwyd hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Byddwn yn adrodd ar y modd y cynhaliwyd yr etholiadau maes o law, fel bod modd nodi unrhyw wersi pwysig a dysgu oddi wrthynt, yn enwedig o ran cynnal etholiadau yn ystod pandemig.
Gan edrych y tu hwnt i'r paratoadau ar gyfer yr etholiadau heriol hyn, gwnaethom hefyd fwrw ati i gyflawni yn erbyn ein cynllun corfforaethol ac i wella'r gwasanaethau craidd rydym yn gyfrifol amdanynt.
O ran y gymuned o weinyddwyr etholiadol, rhoddwyd rheolau gwell ar waith yn ystod y flwyddyn ar gyfer y canfasiad cofrestru etholiadau ym Mhrydain Fawr, yr ydym yn darparu arweiniad, cymorth a her mewn perthynas ag ef, ynghyd â pharatoadau ar gyfer canfasiad o etholwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Ochr yn ochr â chyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio statudol – gan gynnwys darparu tryloywder drwy gyhoeddi data ariannol gwleidyddol, cynnal y gofrestr o bleidiau gwleidyddol, a gorfodi'r rheolau cyllid gwleidyddol – gwnaethom barhau i ddatblygu'r ffordd rydym yn helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio a chynnig mwy o gymorth iddynt yn hyn o beth. Gwnaethom barhau i ymateb i effaith ymgyrchu digidol hefyd, gan weithio gydag ymgyrchwyr a llywodraethau ar newidiadau bwriadedig i'r system, a chyda darparwyr hysbysebion digidol er mwyn annog mwy o dryloywder.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gydweithio'n agos ac yn adeiladol â Senedd Cymru a Senedd yr Alban (yn ogystal â Phwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin) i osod y sylfeini ar gyfer atebolrwydd uniongyrchol newydd iddynt o fis Ebrill 2021. Ein ffocws yw meithrin cydberthnasau cadarn, tryloyw a chydweithredol er mwyn sicrhau y byddwn yn cyflawni blaenoriaethau ar gyfer pob deddfwrfa, gan barhau i rannu arferion da.
Gwnaethom hefyd, fel un o'n swyddogaethau craidd, roi cyngor manwl seiliedig ar dystiolaeth i swyddogion a seneddwyr ar ddatblygu a phasio deddfwriaeth newydd.
Parhawyd hefyd i gefnogi hyder ymhlith pleidleiswyr. Ochr yn ochr â'n gweithgarwch ymgyrchu parhaus i gofrestru pleidleiswyr, gwnaethom lansio ymgyrch newydd i wella dealltwriaeth pleidleiswyr o'r rheolau sydd eisoes ar waith i reoleiddio ymgyrchu digidol, a chyfres gyntaf o ddeunyddiau addysgu a dysgu i wella llythrennedd gwleidyddol.
Yn ystod 2020, llwyddodd y Comisiwn i addasu ei ffordd o weithredu yng nghyd-destun ehangach y pandemig a gweithiodd yn ddiwyd i gyflawni ei gyfrifoldebau a'i ddyletswyddau, gan weithredu yn ddiduedd, yn annibynnol a chydag uniondeb.
Gwnaethom fuddsoddi yn ein staff, technoleg, yr amgylchedd gwaith ac arferion a systemau gweithio er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwerth am arian i'r pleidleisiwr ac yn datblygu ein gwasanaethau yn unol â disgwyliadau newidiol, gan roi ansawdd wrth wraidd popeth a chanolbwyntio o'r newydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Ar adeg pan fo pwysau mawr ar arian cyhoeddus, llwyddom i gyflawni'r rhaglen waith, a mynd i'r afael â phwysau ychwanegol fel cefnogi gweithlu o bell, o fewn y gyllideb flynyddol a gymeradwywyd. Wrth edrych ymlaen i 2021/22, byddwn yn pa
rhau i ganolbwyntio ar roi cymorth i'n rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â rheoli datblygiadau a newidiadau eraill. Bydd y Comisiwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda phawb dan sylw – llywodraethau, seneddau, pleidiau ac ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a grwpiau eraill â diddordeb – er mwyn cynnal hyder ac ymddiriedaeth mewn etholiadau, gan gynnwys paratoi ar gyfer cynnal y rhai a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2022.
Rydym yn croesawu Cadeirydd newydd a dau Gomisiynydd newydd, a fydd yn atgyfnerthu ein cyfeiriad strategol a'n trefniadau llywodraethu.A bydd ein gwasanaeth i etholwyr y DU yn parhau i fod yn seiliedig ar gynnig gwerth am arian; parhau i redeg y sefydliad yn effeithiol, gyda staff medrus ac ymrwymedig a'r dechnoleg sydd ei hangen i gefnogi ffyrdd effeithiol o weithio. Hoffem ddiolch i Syr John Holmes sydd wedi cwblhau ei gyfnod o bedair blynedd fel Cadeirydd, gan arwain y Comisiwn drwy gyfnod eithriadol o brysur iawn o ran digwyddiadau etholiadol.
Mae cyfrifoldebau statudol y Comisiwn yn ei roi mewn sefyllfa unigryw yn y sector. Mewn rhai meysydd, rôl y Comisiwn yw cyflawni swyddogaethau yn uniongyrchol. Mewn meysydd eraill, rydym yn goruchwylio, yn rhoi arweiniad a chymorth a – lle bo angen – yn gorfodi. Ar rai materion, ein rôl yw hwyluso trafodaeth neu gyfrannu ati. Mae pob agwedd ar ein rôl yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynnal etholiadau'n effeithiol a sicrhau gwelliannau gwirioneddol i'r system er budd pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr.
Amdanom ni
Ein rôl
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Ein gweledigaeth a'n nodau
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sector cyhoeddus o'r radd flaenaf – yn arloesol, yn sicrhau gwerth gwych ac yn cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr a deddfwyr.
Yn 2020/21 gwnaethom weithio tuag at gyflawni pedwar nod:
- Galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- Sicrhau system y gellir ymddiried fwyfwy ynddi a system gynyddol dryloyw o reoleiddio ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n cael eu rheoleiddio a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i'w haddasu i'r oes fodern, ddigidol
- Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd er mwyn darparu gwasanaethau sy'n berthnasol i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr. Mae'r nod hwn yn sail i'n holl waith ac yn ei ategu
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni'r nodau hyn yn 2021/22.
Ein rôl ledled y DU
Rydym yn cyflawni ar ran pleidleiswyr ym mhob rhan o'r DU ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Rydym yn cydweithio'n agos â llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ac, o fis Ebrill 2021, bydd gennym atebolrwydd newydd i Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Cipolwg ar y flwyddyn 2020/21
Ebrill – Mehefin 2020
- Gwnaethom sefydlu Tîm Rheoli Argyfwng i gydgysylltu ein hymateb, ac ehangwyd ein cyfleusterau fideogynadledda er mwyn sicrhau y gallem gyfathrebu â'n gilydd ac â rhanddeiliaid.
- Gwnaethom lansio adnodd ar-lein newydd er mwyn i'r cyhoedd allu gweld a dadansoddi ffurflenni gwariant ymgeiswyr o etholiad cyffredinol y DU yn 2019
- Gwnaethom ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol ar y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol
- Cyhoeddodd Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Ddemocratiaeth a Thechnolegau Digidol ei adroddiad, a oedd yn cefnogi llawer o gynigion polisi'r Comisiwn a oedd wedi bodoli ers tro.
- Yn fewnol, gwnaethom lansio Strategaeth Pobl y Comisiwn.
- Rhoddodd y Comisiwn dystiolaeth gerbron y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, ar ôl iddo lansio adolygiad newydd o reoliadau etholiadol.
Gorffennaf – Medi 2020
- Gwnaethom gynnal arolwg o lesiant ein staff
- Roedd ein hymgyrch yn targedu pleidleiswyr a oedd newydd gael yr etholfraint, gyda chyfres o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y radio ac ar ddeunydd argraffedig.
- Gwnaethom gwblhau ein gwaith ymchwil cyntaf ar agweddau'r cyhoedd at bleidleisio yng nghyd-destun Covid-19, er mwyn llywio'r paratoadau ar gyfer etholiadau 2021
- Daethom yn gynghorwyr i Grŵp Cynllunio Etholiadau Cymru, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog i ddod i gonsensws ynghylch y ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sicrhau bod etholiadau yn cael eu cynnal yn effeithiol yn sgil pandemig Covid-19
- Gwnaethom gynnal adolygiad mewnol i ddysgu gwersi o'n hymateb i gamau cychwynnol y pandemig
- Gwnaethom gyhoeddi canllawiau craidd wedi'u diweddaru ar gyfer gweinyddwyr etholiadol ac ymgeiswyr ac asiantiaid i'w helpu i baratoi ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021 a'u cynnal
Hydref – Rhagfyr 2020
- Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol ar safonau'r Gymraeg
- Gwnaethom gyflwyno ein Hamcangyfrif ariannol cyntaf i Bwyllgor y Llywydd a Senedd yr Alban, fel rhan o'r broses o sefydlu ein hatebolrwydd newydd i'r seneddau datganoledig
- Gwnaethom gyhoeddi rhan gyntaf ein canllawiau atodol i helpu gweinyddwyr etholiadol i reoli effeithiau COVID ar yr etholiadau
- Gwnaethom lansio cyfres newydd o adnoddau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru a'r Alban er mwyn addysgu pobl ifanc yng Nghymru am eu pleidlais a'r broses ddemocrataidd.
- Gwnaethom gydweithio â llywodraethau a seneddau'r DU, Cymru a'r Alban ar eu priod ddeddfwriaeth i baratoi ar gyfer cynnal etholiadau yn ystod y pandemig.
- Gwnaethom gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol a rhoddwyd tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor newydd Llywydd y Senedd
- Ar ôl cyfnod o bedair blynedd fel Cadeirydd, ymadawodd Syr John Holmes â'r Comisiwn. Dechreuodd John Pullinger CB yn ei swydd ym mis Mai 2021
Ionawr – Mawrth 2021
- Gwnaethom drefnu seminar cyn etholiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn yr Alban ar y cyd â Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban
- Gwnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gweithredu Anabledd drafft yn unol â dyletswyddau cydraddoldeb statudol yng Ngogledd Iwerddon
- Gwnaethom sefydlu tasglu Siarter Hil yn y Gwaith er mwyn ehangu ein gwaith i wella amrywiaeth a chydraddoldeb
- Dechreuodd gwaith i ailwampio ein swyddfeydd yn Llundain er mwyn gwella'r ffordd rydym yn gweithio
- Nodwyd wythnos ymwybyddiaeth ‘Croeso i dy Bleidlais’ yng Nghymru a'r Alban drwy gynnal digwyddiadau rhithwir a rhannu adnoddau i ennyn diddordeb pleidleiswyr a oedd newydd gael yr etholfraint
- Gwnaethom drefnu'r Seminar Lleihau ac Atal Achosion o Dwyll Etholiadol flynyddol ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
- Gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar agweddau'r cyhoedd at dryloywder cyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yng Ngogledd Iwerddon
- Gwnaethom gytuno ar Ddatganiad o Egwyddorion Cyllido yng Nghymru, yr Alban a San Steffan, gan nodi'r gydberthynas ariannol newydd rhyngom ni a'r tair ddeddfwrfa; Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.
Ein blwyddyn mewn ffigurau
- Defnyddiwyd gwerth £20.4m o adnoddau, gan gynnwys £1.3m o wariant cyfalaf
- Buddsoddwyd 56% o'n gwariant adnoddau ar gostau staff (£10.7m)
- Cyflawnwyd sgôr ymgysylltu â chyflogeion o 72% sgôr ymgysylltu â chyflogeion
- Atebwyd 4,463 o ymholiadau gan y cyhoedd – gostyngiad o 569% o gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf am na chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau etholiadol y flwyddyn hon
- Ymatebwyd i 153 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Cyhoeddwyd 1,186 o ffurflenni ariannol rheolaidd gan bleidiau ac ymgyrchwyr
- Hysbyswyd 58% o'r 134 o geisiadau i gofrestru pleidiau am eu canlyniad o fewn 30 diwrnod
- Cwblhawyd 54 o ymchwiliadau, 94% ohonynt o fewn 180 diwrnod
- Cyhoeddwyd 888 o ddatganiadau blynyddol o gyfrifon ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu
- Cyhoeddwyd 100% o'n cynhyrchion canllaw yn brydlon, heb wallau sylweddol
- Ymatebwyd i 2,130 o geisiadau am gyngor gan awdurdodau lleol – 99.39% o fewn 3 diwrnod
- Casglwyd £69k o sancsiynau sifil yn ein rôl fel rheoleiddiwr