Ein cynlluniau, blaenoriaethau a gwariant
Ein cynllun corfforaethol
Rydym yn gosod cynllun corfforaethol 5 mlynedd newydd ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU. Mae Pwyllgor y Llefarydd yn ystyried y cynllun cyn iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Mae’n nodi beth yw ein hamcanion a’n blaenoriaethau a sut ry'n ni'n mynd i’w cyflawni.
Adroddiadau blynyddol a chyfrifon
Mae ein hadroddiadau blynyddol a’n cyfrifon yn cynnwys adran ar berfformiad, adroddiad ar atebolrwydd a’n datganiadau ariannol. Rydym yn paratoi’r rhain bob blwyddyn yn yr haf, yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae Pwyllgor y Llefarydd yn ystyried yr adroddiadau hyn wrth iddo graffu ar ein perfformiad.
Ein gwariant
Lawrlwythwch ac edrychwch ar ein Prif Amcangyfrif, ein Pleidlais ar Gyfrif, a'n Hamcangyfrif Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol flaenorol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig i ni a’r hyn rydym yn ei wneud. Yn ein hadroddiad rydym yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud nawr a beth rydym am ei gyflawni yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cadw cofrestr o Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb rydym wedi’u cynnal.
Y Gymraeg
Mae’n ofynnol arnom o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg i ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg, ac rydym wedi ymrwymo i’r cyfrifoldeb hwn.